Luc 1:41-43
Luc 1:41-43 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
a dyma fabi Elisabeth yn neidio yn ei chroth hi. Cafodd Elisabeth ei hun ei llenwi â’r Ysbryd Glân pan glywodd lais Mair, a gwaeddodd yn uchel: “Mair, rwyt ti wedi dy fendithio fwy nag unrhyw wraig arall, a bydd y babi rwyt ti’n ei gario wedi’i fendithio hefyd! Pam mae Duw wedi rhoi’r fath fraint i mi? – cael mam fy Arglwydd yn dod i ngweld i!
Luc 1:41-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan glywodd hi gyfarchiad Mair, llamodd y plentyn yn ei chroth a llanwyd Elisabeth â'r Ysbryd Glân; a llefodd â llais uchel, “Bendigedig wyt ti ymhlith gwragedd, a bendigedig yw ffrwyth dy groth. Sut y daeth i'm rhan i fod mam fy Arglwydd yn dod ataf?
Luc 1:41-43 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A bu, pan glybu Elisabeth gyfarchiad Mair, i’r plentyn yn ei chroth hi lamu: ac Elisabeth a lanwyd o’r Ysbryd Glân. A llefain a wnaeth â llef uchel, a dywedyd, Bendigedig wyt ti ymhlith gwragedd, a bendigedig yw ffrwyth dy groth di. Ac o ba le y mae hyn i mi, fel y delai mam fy Arglwydd ataf fi?