Luc 1:26-33
Luc 1:26-33 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan oedd Elisabeth chwe mis yn feichiog, anfonodd Duw yr angel Gabriel i Nasareth, un o drefi Galilea, at ferch ifanc o’r enw Mair. Roedd Mair yn wyryf (heb erioed gael rhyw), ac wedi’i haddo’n wraig i ddyn o’r enw Joseff. Roedd e’n perthyn i deulu y Brenin Dafydd. Dyma’r angel yn mynd ati a’i chyfarch, “Mair, mae Duw wedi dangos ffafr atat ti! Mae’r Arglwydd gyda ti!” Ond gwnaeth yr angel i Mair deimlo’n ddryslyd iawn. Doedd hi ddim yn deall o gwbl beth roedd yn ei feddwl. Felly dyma’r angel yn dweud wrthi, “Paid bod ofn, Mair. Mae Duw wedi dewis dy fendithio di’n fawr. Rwyt ti’n mynd i fod yn feichiog, a byddi di’n cael mab. Iesu ydy’r enw rwyt i’w roi iddo. Bydd yn ddyn pwysig iawn, a bydd yn cael ei alw’n Fab y Duw Goruchaf. Bydd yr Arglwydd Dduw yn ei osod i eistedd ar orsedd y Brenin Dafydd, a bydd yn teyrnasu dros bobl Jacob am byth. Fydd ei deyrnasiad byth yn dod i ben!”
Luc 1:26-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn y chweched mis anfonwyd yr angel Gabriel gan Dduw i dref yng Ngalilea o'r enw Nasareth, at wyryf oedd wedi ei dyweddïo i ŵr o'r enw Joseff, o dŷ Dafydd; Mair oedd enw'r wyryf. Aeth yr angel ati a dweud, “Henffych well, tydi, yr un y rhoddodd Duw ei ffafr iddi! Y mae'r Arglwydd gyda thi.” Ond cythryblwyd hi drwyddi gan ei eiriau, a cheisiodd ddirnad pa fath gyfarchiad a allai hwn fod. Meddai'r angel wrthi, “Paid ag ofni, Mair, oherwydd cefaist ffafr gyda Duw; ac wele, byddi'n beichiogi yn dy groth ac yn esgor ar fab, a gelwi ef Iesu. Bydd hwn yn fawr, a Mab y Goruchaf y gelwir ef; rhydd yr Arglwydd Dduw iddo orsedd Dafydd ei dad, ac fe deyrnasa ar dŷ Jacob am byth, ac ar ei deyrnas ni bydd diwedd.”
Luc 1:26-33 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yn y chweched mis yr anfonwyd yr angel Gabriel oddi wrth Dduw, i ddinas yng Ngalilea a’i henw Nasareth, At forwyn wedi ei dyweddïo i ŵr a’i enw Joseff, o dŷ Dafydd; ac enw y forwyn oedd Mair. A’r angel a ddaeth i mewn ati, ac a ddywedodd, Henffych well, yr hon a gefaist ras; yr Arglwydd sydd gyda thi: bendigaid wyt ymhlith gwragedd. A hithau, pan ei gwelodd, a gythryblwyd wrth ei ymadrodd ef; a meddylio a wnaeth pa fath gyfarch oedd hwn. A dywedodd yr angel wrthi, Nac ofna, Mair: canys ti a gefaist ffafr gyda Duw. Ac wele, ti a gei feichiogi yn dy groth, ac a esgori ar fab, ac a elwi ei enw ef IESU. Hwn fydd mawr, ac a elwir yn Fab y Goruchaf: ac iddo y rhydd yr Arglwydd Dduw orseddfa ei dad Dafydd. Ac efe a deyrnasa ar dŷ Jacob yn dragywydd; ac ar ei frenhiniaeth ni bydd diwedd.