Luc 1:26-29
Luc 1:26-29 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan oedd Elisabeth chwe mis yn feichiog, anfonodd Duw yr angel Gabriel i Nasareth, un o drefi Galilea, at ferch ifanc o’r enw Mair. Roedd Mair yn wyryf (heb erioed gael rhyw), ac wedi’i haddo’n wraig i ddyn o’r enw Joseff. Roedd e’n perthyn i deulu y Brenin Dafydd. Dyma’r angel yn mynd ati a’i chyfarch, “Mair, mae Duw wedi dangos ffafr atat ti! Mae’r Arglwydd gyda ti!” Ond gwnaeth yr angel i Mair deimlo’n ddryslyd iawn. Doedd hi ddim yn deall o gwbl beth roedd yn ei feddwl.
Luc 1:26-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn y chweched mis anfonwyd yr angel Gabriel gan Dduw i dref yng Ngalilea o'r enw Nasareth, at wyryf oedd wedi ei dyweddïo i ŵr o'r enw Joseff, o dŷ Dafydd; Mair oedd enw'r wyryf. Aeth yr angel ati a dweud, “Henffych well, tydi, yr un y rhoddodd Duw ei ffafr iddi! Y mae'r Arglwydd gyda thi.” Ond cythryblwyd hi drwyddi gan ei eiriau, a cheisiodd ddirnad pa fath gyfarchiad a allai hwn fod.
Luc 1:26-29 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yn y chweched mis yr anfonwyd yr angel Gabriel oddi wrth Dduw, i ddinas yng Ngalilea a’i henw Nasareth, At forwyn wedi ei dyweddïo i ŵr a’i enw Joseff, o dŷ Dafydd; ac enw y forwyn oedd Mair. A’r angel a ddaeth i mewn ati, ac a ddywedodd, Henffych well, yr hon a gefaist ras; yr Arglwydd sydd gyda thi: bendigaid wyt ymhlith gwragedd. A hithau, pan ei gwelodd, a gythryblwyd wrth ei ymadrodd ef; a meddylio a wnaeth pa fath gyfarch oedd hwn.