Luc 1:11-20
Luc 1:11-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd Sachareias wrthi’n llosgi’r arogldarth, ac yn sydyn gwelodd un o angylion yr Arglwydd o’i flaen yn sefyll ar yr ochr dde i’r allor. Roedd Sachareias wedi dychryn am ei fywyd. Ond dyma’r angel yn dweud wrtho: “Paid bod ofn, Sachareias; mae Duw wedi clywed dy weddi. Mae Elisabeth dy wraig yn mynd i gael plentyn – dy fab di! Ioan ydy’r enw rwyt i’w roi iddo, a bydd yn dy wneud di’n hapus iawn. A bydd llawer iawn o bobl eraill yn llawen hefyd am ei fod wedi’i eni. Bydd e’n was pwysig iawn i’r Arglwydd Dduw. Fydd e ddim yn yfed gwin nac unrhyw ddiod feddwol, ond bydd wedi cael ei lenwi â’r Ysbryd Glân hyd yn oed cyn iddo gael ei eni. Bydd yn troi llawer iawn o bobl Israel yn ôl at yr Arglwydd eu Duw. Gyda’r un ysbryd a nerth a oedd gan y proffwyd Elias bydd yn mynd allan i gyhoeddi fod yr Arglwydd yn dod, ac yn paratoi’r bobl ar ei gyfer. Bydd yn gwella perthynas rhieni â’u plant, ac yn peri i’r rhai sydd wedi bod yn anufudd weld mai byw yn iawn sy’n gwneud synnwyr.” “Sut alla i gredu’r fath beth?” meddai Sachareias wrth yr angel, “Wedi’r cwbl, dw i’n hen ddyn ac mae ngwraig i mewn oed hefyd.” Dyma’r angel yn ateb, “Gabriel ydw i. Fi ydy’r angel sy’n sefyll o flaen Duw i’w wasanaethu. Fe sydd wedi fy anfon i siarad â ti a dweud y newyddion da yma wrthot ti. Gan dy fod ti wedi gwrthod credu beth dw i’n ddweud, byddi’n methu siarad nes bydd y plentyn wedi’i eni. Ond daw’r cwbl dw i’n ei ddweud yn wir yn amser Duw.”
Luc 1:11-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos iddo, yn sefyll ar yr ochr dde i allor yr arogldarth; a phan welodd Sachareias ef, fe'i cythryblwyd a daeth ofn arno. Ond dywedodd yr angel wrtho, “Paid ag ofni, Sachareias, oherwydd y mae dy ddeisyfiad wedi ei wrando; bydd dy wraig Elisabeth yn esgor ar fab i ti, a gelwi ef Ioan. Fe gei lawenydd a gorfoledd, a bydd llawer yn llawenychu o achos ei enedigaeth ef; oherwydd mawr fydd ef gerbron yr Arglwydd, ac nid yf win na diod gadarn byth; llenwir ef â'r Ysbryd Glân, ie, yng nghroth ei fam, ac fe dry lawer o bobl Israel yn ôl at yr Arglwydd eu Duw. Bydd yn cerdded o flaen yr Arglwydd yn ysbryd a nerth Elias, i droi calonnau rhieni at eu plant, ac i droi'r anufudd i feddylfryd y cyfiawn, er mwyn darparu i'r Arglwydd bobl wedi eu paratoi.” Meddai Sachareias wrth yr angel, “Sut y caf sicrwydd o hyn? Oherwydd yr wyf fi yn hen, a'm gwraig wedi cyrraedd oedran mawr.” Atebodd yr angel ef, “Myfi yw Gabriel, sydd yn sefyll gerbron Duw, ac anfonwyd fi i lefaru wrthyt ac i gyhoeddi iti y newydd da hwn; ac wele, byddi'n fud a heb allu llefaru hyd y dydd y digwydd hyn, am iti beidio â chredu fy ngeiriau, geiriau a gyflawnir yn eu hamser priodol.”
Luc 1:11-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac ymddangosodd iddo angel yr Arglwydd yn sefyll o’r tu deau i allor yr arogl-darth. A Sachareias, pan ganfu, a gythryblwyd, ac ofn a syrthiodd arno. Eithr yr angel a ddywedodd wrtho, Nac ofna, Sachareias: canys gwrandawyd dy weddi; a’th wraig Elisabeth a ddwg i ti fab, a thi a elwi ei enw ef Ioan. A bydd iti lawenydd a gorfoledd; a llawer a lawenychant am ei enedigaeth ef. Canys mawr fydd efe yng ngolwg yr Arglwydd, ac nid yf na gwin na diod gadarn; ac efe a gyflawnir o’r Ysbryd Glân, ie, o groth ei fam. A llawer o blant Israel a dry efe at yr Arglwydd eu Duw. Ac efe a â o’i flaen ef yn ysbryd a nerth Eleias, i droi calonnau’r tadau at y plant, a’r anufudd i ddoethineb y cyfiawn; i ddarparu i’r Arglwydd bobl barod. A dywedodd Sachareias wrth yr angel, Pa fodd y gwybyddaf fi hyn? canys hynafgwr wyf fi, a’m gwraig hefyd mewn gwth o oedran. A’r angel gan ateb a ddywedodd wrtho, Myfi yw Gabriel, yr hwn wyf yn sefyll gerbron Duw, ac a anfonwyd i lefaru wrthyt, ac i fynegi i ti’r newyddion da hyn. Ac wele, ti a fyddi fud ac heb allu llefaru hyd y dydd y gwneler y pethau hyn, am na chredaist i’m geiriau i, y rhai a gyflawnir yn eu hamser.