Lefiticus 23:1-8
Lefiticus 23:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dywed wrth bobl Israel, ‘Dyma fydd y gwyliau, sef gwyliau'r ARGLWYDD, a gyhoeddwch yn gymanfaoedd sanctaidd: “ ‘Ar chwe diwrnod y cewch weithio, ond y mae'r seithfed dydd yn Saboth o orffwys, yn gymanfa sanctaidd; nid ydych i wneud unrhyw waith, oherwydd ple bynnag yr ydych yn byw, Saboth i'r ARGLWYDD ydyw. “ ‘Dyma wyliau'r ARGLWYDD, y cymanfaoedd sanctaidd yr ydych i'w cyhoeddi yn eu prydau. Yng nghyfnos y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf bydd Pasg yr ARGLWYDD, ac ar y pymthegfed dydd o'r mis hwnnw bydd gŵyl y Bara Croyw i'r ARGLWYDD; am saith diwrnod yr ydych i fwyta bara heb furum. Ar y dydd cyntaf bydd cymanfa sanctaidd, ac ni fyddwch yn gwneud unrhyw waith arferol. Am saith diwrnod cyflwynwch offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD; ar y seithfed dydd bydd cymanfa sanctaidd, ac ni fyddwch yn gwneud unrhyw waith arferol.’ ”
Lefiticus 23:1-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dwed wrth bobl Israel: “Dw i wedi dewis amserau penodol i chi eu cadw fel gwyliau pan fyddwch chi’n dod at eich gilydd i addoli: “Mae chwech diwrnod i chi allu gweithio, ond mae’r seithfed diwrnod yn Saboth. Diwrnod i chi orffwys a dod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio lle bynnag fyddwch chi’n byw. Mae’r diwrnod yma yn Saboth i’r ARGLWYDD. “Dyma’r gwyliau penodol eraill pan mae’r ARGLWYDD am i chi ddod at eich gilydd i addoli: “Mae Pasg yr ARGLWYDD i gael ei ddathlu pan mae’n dechrau nosi ar y pedwerydd ar ddeg o’r mis cyntaf. “Mae Gŵyl y Bara Croyw yn dechrau ar y pymthegfed o’r mis hwnnw. Am saith diwrnod rhaid i chi fwyta bara sydd heb furum ynddo. Ar y diwrnod cyntaf rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma. Rhaid i chi gyflwyno offrwm i’w losgi i’r ARGLWYDD bob dydd, ac ar y seithfed diwrnod dod at eich gilydd i addoli eto, a pheidio gwneud eich gwaith arferol.”
Lefiticus 23:1-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Gwyliau yr ARGLWYDD, y rhai a gyhoeddwch yn gymanfeydd sanctaidd, ydyw fy ngwyliau hyn. Chwe diwrnod y gwneir gwaith; a’r seithfed dydd y bydd Saboth gorffwystra, sef cymanfa sanctaidd; dim gwaith nis gwnewch: Saboth yw efe i’r ARGLWYDD yn eich holl drigfannau. Dyma wyliau yr ARGLWYDD, y cymanfeydd sanctaidd, y rhai a gyhoeddwch yn eu tymor. O fewn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, yn y cyfnos, y bydd Pasg yr ARGLWYDD. A’r pymthegfed dydd o’r mis hwnnw y bydd gŵyl y bara croyw i’r ARGLWYDD: saith niwrnod y bwytewch fara croyw. Ar y dydd cyntaf y bydd i chwi gymanfa sanctaidd: dim caethwaith ni chewch ei wneuthur. Ond offrymwch ebyrth tanllyd i’r ARGLWYDD saith niwrnod; ar y seithfed dydd bydded cymanfa sanctaidd; na wnewch ddim caethwaith.