Lefiticus 16:20-22
Lefiticus 16:20-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Ar ôl i Aaron orffen gwneud cymod dros y cysegr, pabell y cyfarfod a'r allor, bydd yn cyflwyno'r bwch byw. Bydd yn gosod ei ddwy law ar ben y bwch byw, ac yn cyffesu drosto holl ddrygioni a throseddau pobl Israel o achos eu holl bechodau, ac yn eu rhoi ar ben y bwch; yna bydd yn anfon y bwch i'r anialwch yng ngofal dyn a benodwyd i wneud hynny. Y mae'r bwch i ddwyn eu holl ddrygioni arno'i hun i dir unig, a bydd y dyn yn ei ollwng yn rhydd yn yr anialwch.
Lefiticus 16:20-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Pan fydd Aaron wedi gorffen gwneud y Lle Mwyaf Sanctaidd, y Tabernacl, a’r allor yn lân, bydd yn mynd â’r bwch gafr byw o flaen y Tabernacl. Mae i osod ei ddwy law ar ben yr anifail, tra’n cyffesu beiau pobl Israel a’r holl bethau wnaethon nhw i wrthryfela a phechu yn erbyn Duw. Mae’r cwbl yn cael ei roi ar ben y bwch gafr, a bydd dyn yno yn barod i arwain yr anifail allan i’r anialwch. Bydd y bwch gafr yn cario holl feiau pobl Israel allan i le unig. Bydd yr anifail yn cael ei ollwng yn rhydd yn yr anialwch.
Lefiticus 16:20-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan ddarffo iddo lanhau y cysegr, a phabell y cyfarfod, a’r allor, dyged y bwch byw: A gosoded Aaron ei ddwylo ar ben y bwch byw, a chyffesed arno holl anwiredd meibion Israel, a’u holl gamweddau hwynt yn eu holl bechodau; a rhodded hwynt ar ben y bwch, ac anfoned ef ymaith yn llaw gŵr cymwys i’r anialwch. A’r bwch a ddwg eu holl anwiredd hwynt arno, i dir neilltuaeth: am hynny hebrynged efe y bwch i’r anialwch.