Galarnad 3:24-26
Galarnad 3:24-26 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Dim ond yr ARGLWYDD sydd gen i,” meddwn i, “felly ynddo fe dw i’n gobeithio.” Mae’r ARGLWYDD yn dda i’r rhai sy’n ei drystio, ac i bwy bynnag sy’n troi ato am help. Mae’n beth da i ni ddisgwyl yn amyneddgar i’r ARGLWYDD ddod i’n hachub ni.
Rhanna
Darllen Galarnad 3Galarnad 3:24-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedais, “Yr ARGLWYDD yw fy rhan, am hynny disgwyliaf wrtho.” Da yw'r ARGLWYDD i'r rhai sy'n gobeithio ynddo, i'r rhai sy'n ei geisio. Y mae'n dda disgwyl yn dawel am iachawdwriaeth yr ARGLWYDD.
Rhanna
Darllen Galarnad 3Galarnad 3:24-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr ARGLWYDD yw fy rhan i, medd fy enaid; am hynny y gobeithiaf ynddo. Daionus yw yr ARGLWYDD i’r rhai a ddisgwyliant wrtho, ac i’r enaid a’i ceisio. Da yw gobeithio a disgwyl yn ddistaw am iachawdwriaeth yr ARGLWYDD.
Rhanna
Darllen Galarnad 3