Galarnad 3:19-33
Galarnad 3:19-33 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae meddwl amdana i fy hun yn dlawd a digartref yn brofiad chwerw! Mae ar fy meddwl drwy’r amser, ac mae’n fy ngwneud yn isel fy ysbryd. Ond wedyn dw i’n cofio hyn, a dyma sy’n rhoi gobaith i mi: Mae cariad ffyddlon yr ARGLWYDD yn ddiddiwedd, a’i garedigrwydd e’n para am byth. Maen nhw’n dod yn newydd bob bore. “ARGLWYDD, rwyt ti mor anhygoel o ffyddlon!” “Dim ond yr ARGLWYDD sydd gen i,” meddwn i, “felly ynddo fe dw i’n gobeithio.” Mae’r ARGLWYDD yn dda i’r rhai sy’n ei drystio, ac i bwy bynnag sy’n troi ato am help. Mae’n beth da i ni ddisgwyl yn amyneddgar i’r ARGLWYDD ddod i’n hachub ni. Mae’n beth da i rywun ddysgu ymostwng tra mae’n dal yn ifanc. Dylai rhywun eistedd yn dawel pan mae’r ARGLWYDD yn ei ddisgyblu e. Dylai orwedd ar ei wyneb ar lawr yn y gobaith y bydd yr ARGLWYDD yn ymyrryd. Dylai droi’r foch arall i’r sawl sy’n ei daro, a bod yn fodlon cael ei gam-drin a’i enllibio. Fydd yr Arglwydd ddim yn ein gwrthod ni am byth. Er ei fod yn gwneud i rywun ddiodde, bydd yn tosturio, achos mae ei gariad e mor fawr. Dydy e ddim eisiau gwneud i bobl ddioddef nac achosi poen i bobl.
Galarnad 3:19-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cofia fy nhrallod a'm crwydro, y wermod a'r bustl. Yr wyf fi yn ei gofio'n wastad, ac wedi fy narostwng. Meddyliaf yn wastad am hyn, ac felly disgwyliaf yn eiddgar. Nid oes terfyn ar gariad yr ARGLWYDD, ac yn sicr ni phalla ei dosturiaethau. Y maent yn newydd bob bore, a mawr yw dy ffyddlondeb. Dywedais, “Yr ARGLWYDD yw fy rhan, am hynny disgwyliaf wrtho.” Da yw'r ARGLWYDD i'r rhai sy'n gobeithio ynddo, i'r rhai sy'n ei geisio. Y mae'n dda disgwyl yn dawel am iachawdwriaeth yr ARGLWYDD. Da yw bod un yn cymryd yr iau arno yng nghyfnod ei ieuenctid. Boed iddo eistedd ar ei ben ei hun, a bod yn dawel pan roddir hi arno; boed iddo osod ei enau yn y llwch; hwyrach fod gobaith iddo. Boed iddo droi ei rudd i'r un sy'n ei daro, a bod yn fodlon i dderbyn dirmyg. Oherwydd nid yw'r Arglwydd yn gwrthod am byth; er iddo gystuddio, bydd yn trugarhau yn ôl ei dosturi mawr, gan nad o'i fodd y mae'n dwyn gofid ac yn cystuddio pobl.
Galarnad 3:19-33 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Cofia fy mlinder a’m gofid, y wermod a’r bustl. Fy enaid gan gofio a gofia, ac a ddarostyngwyd ynof fi. Hyn yr ydwyf yn ei atgofio; am hynny y gobeithiaf. Trugareddau yr ARGLWYDD yw na ddarfu amdanom ni: oherwydd ni phalla ei dosturiaethau ef. Bob bore y deuant o newydd: mawr yw dy ffyddlondeb. Yr ARGLWYDD yw fy rhan i, medd fy enaid; am hynny y gobeithiaf ynddo. Daionus yw yr ARGLWYDD i’r rhai a ddisgwyliant wrtho, ac i’r enaid a’i ceisio. Da yw gobeithio a disgwyl yn ddistaw am iachawdwriaeth yr ARGLWYDD. Da yw i ŵr ddwyn yr iau yn ei ieuenctid. Efe a eistedd ei hunan, ac a dau â sôn; am iddo ei dwyn hi arno. Efe a ddyry ei enau yn y llwch, i edrych a oes obaith. Efe a ddyry ei gern i’r hwn a’i trawo: efe a lenwir â gwaradwydd. Oblegid nid yn dragywydd y gwrthyd yr ARGLWYDD: Ond er iddo gystuddio, eto efe a dosturia, yn ôl amlder ei drugareddau. Canys nid o’i fodd y blina efe, nac y cystuddia blant dynion.