Galarnad 3:19-26
Galarnad 3:19-26 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Mae meddwl amdana i fy hun yn dlawd a digartref yn brofiad chwerw! Mae ar fy meddwl drwy’r amser, ac mae’n fy ngwneud yn isel fy ysbryd. Ond wedyn dw i’n cofio hyn, a dyma sy’n rhoi gobaith i mi: Mae cariad ffyddlon yr ARGLWYDD yn ddiddiwedd, a’i garedigrwydd e’n para am byth. Maen nhw’n dod yn newydd bob bore. “ARGLWYDD, rwyt ti mor anhygoel o ffyddlon!” “Dim ond yr ARGLWYDD sydd gen i,” meddwn i, “felly ynddo fe dw i’n gobeithio.” Mae’r ARGLWYDD yn dda i’r rhai sy’n ei drystio, ac i bwy bynnag sy’n troi ato am help. Mae’n beth da i ni ddisgwyl yn amyneddgar i’r ARGLWYDD ddod i’n hachub ni.
Galarnad 3:19-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cofia fy nhrallod a'm crwydro, y wermod a'r bustl. Yr wyf fi yn ei gofio'n wastad, ac wedi fy narostwng. Meddyliaf yn wastad am hyn, ac felly disgwyliaf yn eiddgar. Nid oes terfyn ar gariad yr ARGLWYDD, ac yn sicr ni phalla ei dosturiaethau. Y maent yn newydd bob bore, a mawr yw dy ffyddlondeb. Dywedais, “Yr ARGLWYDD yw fy rhan, am hynny disgwyliaf wrtho.” Da yw'r ARGLWYDD i'r rhai sy'n gobeithio ynddo, i'r rhai sy'n ei geisio. Y mae'n dda disgwyl yn dawel am iachawdwriaeth yr ARGLWYDD.
Galarnad 3:19-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Cofia fy mlinder a’m gofid, y wermod a’r bustl. Fy enaid gan gofio a gofia, ac a ddarostyngwyd ynof fi. Hyn yr ydwyf yn ei atgofio; am hynny y gobeithiaf. Trugareddau yr ARGLWYDD yw na ddarfu amdanom ni: oherwydd ni phalla ei dosturiaethau ef. Bob bore y deuant o newydd: mawr yw dy ffyddlondeb. Yr ARGLWYDD yw fy rhan i, medd fy enaid; am hynny y gobeithiaf ynddo. Daionus yw yr ARGLWYDD i’r rhai a ddisgwyliant wrtho, ac i’r enaid a’i ceisio. Da yw gobeithio a disgwyl yn ddistaw am iachawdwriaeth yr ARGLWYDD.