Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Galarnad 3:1-66

Galarnad 3:1-66 beibl.net 2015, 2023 (BNET)

Dw i’n ddyn sy’n gwybod beth ydy dioddef. Mae gwialen llid Duw wedi fy nisgyblu i. Mae e wedi fy ngyrru i ffwrdd i fyw yng nghanol tywyllwch dudew. Ydy, mae wedi fy nharo i dro ar ôl tro, yn ddi-stop. Mae wedi curo fy nghorff yn ddim, ac wedi torri fy esgyrn. Mae fel byddin wedi fy amgylchynu, yn ymosod arna i gyda gwasgfa chwerw. Mae wedi gwneud i mi eistedd yn y tywyllwch fel y rhai sydd wedi marw ers talwm. Mae wedi cau amdana i, ac alla i ddim dianc. Mae’n fy nal i lawr gyda chadwyni trwm. Dw i’n gweiddi’n daer am help, ond dydy e’n cymryd dim sylw. Mae wedi blocio pob ffordd allan; mae pob llwybr fel drysfa! Mae e fel arth neu lew yn barod i ymosod arna i. Llusgodd fi i ffwrdd a’m rhwygo’n ddarnau. Allwn i wneud dim i amddiffyn fy hun. Anelodd ei fwa saeth ata i; fi oedd ei darged. Gollyngodd ei saethau a’m trywanu yn fy mherfedd. Mae fy mhobl wedi fy ngwneud i’n destun sbort, ac yn fy ngwawdio i ar gân. Mae e wedi gwneud i mi fwyta llysiau chwerw; mae wedi llenwi fy mol gyda’r wermod. Mae wedi gwneud i mi gnoi graean, ac wedi rhwbio fy wyneb yn y baw. Does gen i ddim tawelwch meddwl; dw i wedi anghofio beth ydy bod yn hapus. Dwedais, “Alla i ddim cario mlaen. Dw i wedi colli pob gobaith yn yr ARGLWYDD.” Mae meddwl amdana i fy hun yn dlawd a digartref yn brofiad chwerw! Mae ar fy meddwl drwy’r amser, ac mae’n fy ngwneud yn isel fy ysbryd. Ond wedyn dw i’n cofio hyn, a dyma sy’n rhoi gobaith i mi: Mae cariad ffyddlon yr ARGLWYDD yn ddiddiwedd, a’i garedigrwydd e’n para am byth. Maen nhw’n dod yn newydd bob bore. “ARGLWYDD, rwyt ti mor anhygoel o ffyddlon!” “Dim ond yr ARGLWYDD sydd gen i,” meddwn i, “felly ynddo fe dw i’n gobeithio.” Mae’r ARGLWYDD yn dda i’r rhai sy’n ei drystio, ac i bwy bynnag sy’n troi ato am help. Mae’n beth da i ni ddisgwyl yn amyneddgar i’r ARGLWYDD ddod i’n hachub ni. Mae’n beth da i rywun ddysgu ymostwng tra mae’n dal yn ifanc. Dylai rhywun eistedd yn dawel pan mae’r ARGLWYDD yn ei ddisgyblu e. Dylai orwedd ar ei wyneb ar lawr yn y gobaith y bydd yr ARGLWYDD yn ymyrryd. Dylai droi’r foch arall i’r sawl sy’n ei daro, a bod yn fodlon cael ei gam-drin a’i enllibio. Fydd yr Arglwydd ddim yn ein gwrthod ni am byth. Er ei fod yn gwneud i rywun ddiodde, bydd yn tosturio, achos mae ei gariad e mor fawr. Dydy e ddim eisiau gwneud i bobl ddioddef nac achosi poen i bobl. Os ydy carcharorion gwlad yn cael eu sathru, a hawliau dynol yn cael eu diystyru, a hynny o flaen y Duw Goruchaf ei hun; os ydy cwrs cyfiawnder yn cael ei wyrdroi yn y llys – ydy’r Arglwydd ddim yn gweld y cwbl? Pwy sy’n gallu gorchymyn i unrhyw beth ddigwydd heb i’r Arglwydd ei ganiatáu? Onid y Duw Goruchaf sy’n dweud beth sy’n digwydd – p’run ai dinistr neu fendith? Pa hawl sydd gan rywun i gwyno pan mae’n cael ei gosbi am ei bechod? Gadewch i ni edrych yn fanwl ar ein ffordd o fyw, a throi nôl at yr ARGLWYDD. Gadewch i ni droi’n calonnau a chodi’n dwylo at Dduw yn y nefoedd, a chyffesu, “Dŷn ni wedi gwrthryfela’n ddifrifol, a ti ddim wedi maddau i ni. Rwyt wedi gwisgo dy lid amdanat a dod ar ein holau, gan ladd pobl heb ddangos trugaredd. Ti wedi cuddio dy hun mewn cwmwl nes bod ein gweddïau ddim yn torri trwodd. Ti wedi’n gwneud ni fel sbwriel a baw yng ngolwg y bobloedd. Mae ein gelynion i gyd yn gwneud hwyl am ein pennau. Mae panig a’r pydew wedi’n dal ni, difrod a dinistr.” Mae afonydd o ddagrau yn llifo o’m llygaid am fod fy mhobl wedi cael eu dinistrio. Mae’r dagrau’n llifo yn ddi-baid; wnân nhw ddim stopio nes bydd yr ARGLWYDD yn edrych i lawr o’r nefoedd ac yn ein gweld ni. Mae gweld beth sydd wedi digwydd i ferched ifanc fy ninas yn fy ngwneud i mor drist. Mae fy ngelynion wedi fy nal fel aderyn, heb reswm da i wneud hynny. Maen nhw wedi fy nhaflu i waelod pydew ac yna ei gau gyda charreg. Roedd y dŵr yn codi uwch fy mhen; rôn i’n meddwl mod i’n mynd i foddi. Ond dyma fi’n galw arnat ti am help, O ARGLWYDD, o waelod y pydew. Dyma ti’n fy nghlywed i’n pledio, “Helpa fi! Paid gwrthod gwrando arna i!” A dyma ti’n dod ata i pan o’n i’n galw, a dweud, “Paid bod ag ofn!” Fy Meistr, rwyt wedi dadlau fy achos; rwyt wedi dod i’m hachub. Ti wedi gweld y drwg gafodd ei wneud i mi, O ARGLWYDD, felly wnei di farnu o’m plaid i? Ti wedi gweld eu malais nhw, a’r holl gynllwynio yn fy erbyn i. Ti wedi’u clywed nhw’n gwawdio, O ARGLWYDD, a’r holl gynllwynio yn fy erbyn i. Mae’r rhai sy’n ymosod arna i yn sibrwd ac yn hel straeon yn fy erbyn drwy’r amser. Edrycha arnyn nhw! – O fore gwyn tan nos maen nhw’n fy ngwawdio i ar gân. Tala nôl iddyn nhw am beth wnaethon nhw, O ARGLWYDD; rho iddyn nhw beth maen nhw’n ei haeddu. Gyrra nhw’n wallgof! Melltithia nhw! Dos ar eu holau yn dy lid, a’u dileu nhw oddi ar wyneb y ddaear, O ARGLWYDD.

Galarnad 3:1-66 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Myfi yw'r gŵr a welodd ofid dan wialen ei ddicter. Gyrrodd fi allan a gwneud imi gerdded trwy dywyllwch lle nad oedd goleuni. Daliodd i droi ei law yn f'erbyn, a hynny ddydd ar ôl dydd. Parodd i'm cnawd a'm croen ddihoeni, a maluriodd f'esgyrn. Gwnaeth warchae o'm cwmpas, a'm hamgylchynu â chwerwder a blinder. Gwnaeth i mi aros mewn tywyllwch, fel rhai wedi hen farw. Caeodd arnaf fel na allwn ddianc, a gosododd rwymau trwm amdanaf. Pan elwais, a gweiddi am gymorth, fe wrthododd fy ngweddi. Caeodd fy ffyrdd â meini mawrion, a gwneud fy llwybrau'n gam. Y mae'n gwylio amdanaf fel arth, fel llew yn ei guddfa. Tynnodd fi oddi ar y ffordd a'm dryllio, ac yna fy ngadael yn ddiymgeledd. Paratôdd ei fwa, a'm gosod yn nod i'w saeth. Anelodd saethau ei gawell a'u trywanu i'm perfeddion. Yr oeddwn yn gyff gwawd i'r holl bobloedd, yn destun caneuon gwatwarus drwy'r dydd. Llanwodd fi â chwerwder, a'm meddwi â'r wermod. Torrodd fy nannedd â cherrig, a gwneud imi grymu yn y lludw. Yr wyf wedi f'amddifadu o heddwch; anghofiais beth yw daioni. Yna dywedais, “Diflannodd fy nerth, a hefyd fy ngobaith oddi wrth yr ARGLWYDD.” Cofia fy nhrallod a'm crwydro, y wermod a'r bustl. Yr wyf fi yn ei gofio'n wastad, ac wedi fy narostwng. Meddyliaf yn wastad am hyn, ac felly disgwyliaf yn eiddgar. Nid oes terfyn ar gariad yr ARGLWYDD, ac yn sicr ni phalla ei dosturiaethau. Y maent yn newydd bob bore, a mawr yw dy ffyddlondeb. Dywedais, “Yr ARGLWYDD yw fy rhan, am hynny disgwyliaf wrtho.” Da yw'r ARGLWYDD i'r rhai sy'n gobeithio ynddo, i'r rhai sy'n ei geisio. Y mae'n dda disgwyl yn dawel am iachawdwriaeth yr ARGLWYDD. Da yw bod un yn cymryd yr iau arno yng nghyfnod ei ieuenctid. Boed iddo eistedd ar ei ben ei hun, a bod yn dawel pan roddir hi arno; boed iddo osod ei enau yn y llwch; hwyrach fod gobaith iddo. Boed iddo droi ei rudd i'r un sy'n ei daro, a bod yn fodlon i dderbyn dirmyg. Oherwydd nid yw'r Arglwydd yn gwrthod am byth; er iddo gystuddio, bydd yn trugarhau yn ôl ei dosturi mawr, gan nad o'i fodd y mae'n dwyn gofid ac yn cystuddio pobl. Sathru dan draed holl garcharorion y ddaear, a thaflu o'r neilltu hawl rhywun gerbron y Goruchaf, a gwyrdroi achos— Onid yw'r Arglwydd yn sylwi ar hyn? Pwy a all orchymyn i unrhyw beth ddigwydd heb i'r Arglwydd ei drefnu? Onid o enau'r Goruchaf y daw drwg a da? Sut y gall unrhyw un byw rwgnach, ie, unrhyw feidrolyn, yn erbyn ei gosb? Bydded inni chwilio a phrofi ein ffyrdd, a dychwelyd at yr ARGLWYDD, a dyrchafu'n calonnau a'n dwylo at Dduw yn y nefoedd. Yr ydym ni wedi troseddu a gwrthryfela, ac nid wyt ti wedi maddau. Yr wyt yn llawn dig ac yn ein herlid, yn lladd yn ddiarbed. Ymguddiaist mewn cwmwl rhag i'n gweddi ddod atat. Gwnaethost ni'n ysbwriel ac yn garthion ymysg y bobloedd. Y mae'n holl elynion yn gweiddi'n groch yn ein herbyn. Fe'n cawsom ein hunain mewn dychryn a magl, hefyd mewn difrod a dinistr. Y mae fy llygad yn ffrydiau o ddŵr o achos dinistr merch fy mhobl; y mae'n diferu'n ddi-baid, heb gael gorffwys, hyd onid edrycha'r ARGLWYDD a gweld o'r nefoedd. Y mae fy llygad yn flinder imi o achos dinistr holl ferched fy ninas. Y mae'r rhai sy'n elynion imi heb achos yn fy erlid yn wastad fel aderyn. Y maent yn fy mwrw'n fyw i'r pydew, ac yn taflu cerrig arnaf. Llifodd y dyfroedd trosof, a dywedais, “Y mae ar ben arnaf.” Gelwais ar d'enw, O ARGLWYDD, o waelod y pydew. Clywaist fy llef: “Paid â throi'n glustfyddar i'm cri am gymorth.” Daethost yn agos ataf y dydd y gelwais arnat; dywedaist, “Paid ag ofni.” Yr oeddit ti, O Arglwydd, yn dadlau f'achos, ac yn gwaredu fy mywyd. Gwelaist, O ARGLWYDD, y cam a wnaethpwyd â mi, a dyfernaist o'm plaid. Gwelaist eu holl ddial, a'u holl gynllwynio yn f'erbyn. Clywaist, O ARGLWYDD, eu dirmyg, a'u holl gynllwynio yn f'erbyn— geiriau a sibrydion fy ngwrthwynebwyr yn f'erbyn bob dydd. Edrych arnynt—yn eistedd neu'n sefyll, fi yw testun eu gwawd. O ARGLWYDD, tâl iddynt yn ôl gweithredoedd eu dwylo. Rho iddynt ofid calon, a bydded dy felltith arnynt. O ARGLWYDD, erlid hwy yn dy lid, a dinistria hwy oddi tan y nefoedd.

Galarnad 3:1-66 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Myfi yw y gŵr a welodd flinder gan wialen ei ddigofaint ef. I dywyllwch, ac nid i oleuni, yr arweiniodd ac y tywysodd efe fi. Yn fy erbyn i yn ddiau y trodd efe, ac y mae efe yn troi ei law ar hyd y dydd. Efe a wnaeth fy nghnawd a’m croen yn hen; efe a ddrylliodd fy esgyrn. Efe a adeiladodd i’m herbyn, ac a’m hamgylchodd â bustl ac â blinder. Efe a’m gosododd mewn tywyll leoedd, fel y rhai sydd wedi marw er ys talm. Efe a gaeodd o’m hamgylch, fel nad elwyf allan: efe a wnaeth fy llyffethair i yn drom. Pan lefwyf, a phan floeddiwyf, efe a gae allan fy ngweddi. Efe a gaeodd fy ffyrdd â cherrig nadd; efe a wyrodd fy llwybrau. Yr oedd efe i mi fel arth yn cynllwyn, neu lew mewn llochesau. Efe a wyrodd fy ffyrdd, ac a’m drylliodd; yn anrheithiedig y gwnaeth fi. Efe a anelodd ei fwa, ac a’m gosododd fel nod i saeth. Efe a wnaeth i saethau ei gawell fyned i’m harennau. Gwatwargerdd oeddwn i’m holl bobl, a’u cân ar hyd y dydd. Efe a’m llanwodd â chwerwder; efe a’m meddwodd i â’r wermod. Efe a dorrodd fy nannedd â cherrig, ac a’m trybaeddodd yn y llwch. A phellheaist fy enaid oddi wrth heddwch; anghofiais ddaioni. A mi a ddywedais, Darfu am fy nerth a’m gobaith oddi wrth yr ARGLWYDD. Cofia fy mlinder a’m gofid, y wermod a’r bustl. Fy enaid gan gofio a gofia, ac a ddarostyngwyd ynof fi. Hyn yr ydwyf yn ei atgofio; am hynny y gobeithiaf. Trugareddau yr ARGLWYDD yw na ddarfu amdanom ni: oherwydd ni phalla ei dosturiaethau ef. Bob bore y deuant o newydd: mawr yw dy ffyddlondeb. Yr ARGLWYDD yw fy rhan i, medd fy enaid; am hynny y gobeithiaf ynddo. Daionus yw yr ARGLWYDD i’r rhai a ddisgwyliant wrtho, ac i’r enaid a’i ceisio. Da yw gobeithio a disgwyl yn ddistaw am iachawdwriaeth yr ARGLWYDD. Da yw i ŵr ddwyn yr iau yn ei ieuenctid. Efe a eistedd ei hunan, ac a dau â sôn; am iddo ei dwyn hi arno. Efe a ddyry ei enau yn y llwch, i edrych a oes obaith. Efe a ddyry ei gern i’r hwn a’i trawo: efe a lenwir â gwaradwydd. Oblegid nid yn dragywydd y gwrthyd yr ARGLWYDD: Ond er iddo gystuddio, eto efe a dosturia, yn ôl amlder ei drugareddau. Canys nid o’i fodd y blina efe, nac y cystuddia blant dynion. I fathru holl garcharorion y ddaear dan ei draed, I wyro barn gŵr o flaen wyneb y Goruchaf, Nid yw yr ARGLWYDD yn gweled yn dda wneuthur cam â gŵr yn ei fater. Pwy a ddywed y bydd dim, heb i’r ARGLWYDD ei orchymyn? Oni ddaw o enau y Goruchaf ddrwg a da? Paham y grwgnach dyn byw, gŵr am gosbedigaeth ei bechod? Ceisiwn a chwiliwn ein ffyrdd, a dychwelwn at yr ARGLWYDD. Dyrchafwn ein calonnau a’n dwylo at DDUW yn y nefoedd. Nyni a wnaethom gamwedd, ac a fuom anufudd; tithau nid arbedaist. Gorchuddiaist ni â soriant, ac erlidiaist ni: lleddaist, nid arbedaist. Ti a’th guddiaist dy hun â chwmwl, fel na ddeuai ein gweddi trwodd. Ti a’n gwnaethost yn sorod ac yn ysgubion yng nghanol y bobl. Ein holl elynion a ledasant eu safnau yn ein herbyn. Dychryn a magl a ddaeth arnom, anrhaith a dinistr. Fy llygad a ddiferodd ffrydiau o ddwfr, oherwydd dinistr merch fy mhobl. Fy llygad a ddiferodd, ac ni pheidiodd, am nad oes gorffwystra; Hyd oni edrycho, ac oni ystyrio yr ARGLWYDD o’r nefoedd. Y mae fy llygad yn blino fy enaid, oherwydd holl ferched fy ninas. Fy ngelynion gan hela a’m heliasant yn ddiachos, fel aderyn. Torasant ymaith fy einioes yn y pwll, a bwriasant gerrig arnaf. Y dyfroedd a lifasant dros fy mhen: dywedais, Torrwyd fi ymaith. Gelwais ar dy enw di, O ARGLWYDD, o’r pwll isaf. Ti a glywaist fy llef: na chudd dy glust rhag fy uchenaid a’m gwaedd. Ti a ddaethost yn nes y dydd y gelwais arnat: dywedaist, Nac ofna. Ti, O ARGLWYDD, a ddadleuaist gyda’m henaid: gwaredaist fy einioes. Ti, O ARGLWYDD, a welaist fy ngham: barn di fy marn i. Ti a welaist eu holl ddial hwynt, a’u holl amcanion i’m herbyn i. Clywaist eu gwaradwydd, O ARGLWYDD, a’u holl fwriadau i’m herbyn; Gwefusau y rhai a godant i’m herbyn, a’u myfyrdod i’m herbyn ar hyd y dydd. Edrych ar eu heisteddiad a’u cyfodiad; myfi yw eu cân hwynt. Tâl y pwyth iddynt, O ARGLWYDD, yn ôl gweithred eu dwylo. Dod iddynt ofid calon, dy felltith iddynt. Erlid hwynt â digofaint, a difetha hwy oddi tan nefoedd yr ARGLWYDD.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd