Galarnad 2:15-19
Galarnad 2:15-19 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Mae pawb sy’n pasio heibio yn curo dwylo’n wawdlyd. Maen nhw’n chwibanu’n ddirmygus ac yn ysgwyd eu pennau ar Jerwsalem druan. “Ha! Felly dyma’r un oedd yn cael ei disgrifio fel ‘y ddinas harddaf un sy’n gwneud yr holl fyd yn hapus’?” Mae dy elynion i gyd yn gwneud hwyl am dy ben; yn gwawdio ac yn gwneud ystumiau arnat. “Dŷn ni wedi’i dinistrio hi!” medden nhw. “Roedden ni wedi edrych ymlaen at y diwrnod yma, ac o’r diwedd mae wedi dod!” Mae’r ARGLWYDD wedi gwneud beth oedd yn ei fwriadu. Mae wedi gwneud beth oedd yn ei ddweud. Roedd wedi bygwth hyn ers talwm. Mae wedi dinistrio heb ddangos trugaredd. Mae wedi gadael i’r gelyn ddathlu dy orchfygu, ac ymffrostio fod ei fyddin mor bwerus. Gwaeddwch yn daer ar yr Arglwydd! O, waliau Jerwsalem, gadewch i’r dagrau lifo fel afon ddydd a nos! Peidiwch gorffwyso; peidiwch gadael i’r dagrau stopio! Cod! Gwaedda am help yn y nos! Gwna hynny drosodd a throsodd. Tywallt beth sydd ar dy galon o flaen yr Arglwydd! Estyn dy ddwylo ato mewn gweddi, i bledio dros y plant sy’n marw o newyn ar gornel pob stryd.
Galarnad 2:15-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae pob un sy'n mynd heibio yn curo'i ddwylo o'th achos; y maent yn chwibanu ac yn ysgwyd eu pennau ar ferch Jerwsalem: “Ai hon yw'r ddinas a gyfrifid yn goron prydferthwch, ac yn llawenydd yr holl ddaear?” Y mae dy holl elynion yn gweiddi'n groch yn dy erbyn, yn chwibanu ac yn ysgyrnygu dannedd; dywedant, “Yr ydym wedi ei difetha; dyma'r dydd yr oeddem yn disgwyl amdano; yr ydym wedi cael ei weld!” Gwnaeth yr ARGLWYDD yr hyn a gynlluniodd; cyflawnodd ei fwriad, a drefnodd ers amser maith, a dinistriodd yn ddiarbed; gwnaeth i'r gelyn lawenhau o'th achos, a dyrchafu corn dy wrthwynebwyr. Gwaedda ar yr Arglwydd, O fur merch Seion; tywallt ddagrau'n genllif ddydd a nos; paid ag ymatal na rhoi gorffwys i'th lygaid. Cod, a gwaedda liw nos, ar gychwyn pob gwyliadwriaeth; tywallt dy galon fel dŵr o flaen yr Arglwydd; estyn dy ddwylo tuag ato am fywyd dy blant, sy'n llewygu gan newyn ym mhen pob stryd.
Galarnad 2:15-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y rhai oll a dramwyent y ffordd, a gurent eu dwylo arnat ti; chwibanent, ac ysgydwent eu pennau ar ferch Jerwsalem, gan ddywedyd, Ai dyma y ddinas a alwent yn berffeithrwydd tegwch, yn llawenydd yr holl ddaear? Dy holl elynion a ledasant eu safnau arnat ti; a chwibanasant, ac a ysgyrnygasant ddannedd, ac a ddywedasant, Llyncasom hi: yn ddiau dyma y dydd a ddisgwyliasom ni; ni a’i cawsom, ni a’i gwelsom. Yr ARGLWYDD a wnaeth yr hyn a ddychmygodd; ac a gyflawnodd ei air yr hwn a orchmynnodd efe er y dyddiau gynt: efe a ddifrododd, ac nid arbedodd; efe a wnaeth i’r gelyn lawenychu yn dy erbyn di; efe a ddyrchafodd gorn dy wrthwynebwyr di. Eu calon hwynt a waeddodd ar yr ARGLWYDD, O fur merch Seion, tywallt ddagrau ddydd a nos fel afon; na orffwys, ac na pheidied cannwyll dy lygad. Cyfod, cyhoedda liw nos; yn nechrau yr wyliadwriaeth tywallt dy galon fel dwfr gerbron yr ARGLWYDD: dyrchafa dy ddwylo ato ef am einioes dy blant, y rhai sydd yn llewygu o newyn ym mhen pob heol.