Galarnad 1:20
Galarnad 1:20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
ARGLWYDD, edrych mor ddrwg mae hi arna i! Dw i’n corddi tu mewn. Dw i’n torri fy nghalon, achos dw i’n gwybod mod i wedi gwrthryfela’n llwyr. Allan ar y stryd mae’r gelyn yn lladd; yn y tai mae pobl yn marw o newyn.
Rhanna
Darllen Galarnad 1Galarnad 1:20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Edrych, O ARGLWYDD, oherwydd y mae'n gyfyng arnaf; y mae f'ymysgaroedd mewn poen, a'm calon wedi cyffroi, oherwydd yr wyf wedi gwrthryfela i'r eithaf. O'r tu allan, y mae'r cleddyf wedi gwneud rhai'n amddifad; yn y tŷ, nid oes dim ond marwolaeth.
Rhanna
Darllen Galarnad 1