Josua 7:6-9
Josua 7:6-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma Josua yn rhwygo’i ddillad, a gorwedd ar ei wyneb ar lawr o flaen Arch yr ARGLWYDD nes iddi nosi. Roedd arweinwyr Israel yno gydag e, yn taflu pridd ar eu pennau. Gweddïodd Josua, “O na! Feistr, ARGLWYDD! Pam wyt ti wedi dod â’r bobl yma ar draws afon Iorddonen? Ai er mwyn i’r Amoriaid ein dinistrio ni? Pam wnaethon ni ddim bodloni ar aros yr ochr arall! Meistr, beth alla i ei ddweud, ar ôl i Israel orfod ffoi o flaen eu gelynion? Pan fydd y Canaaneaid a phawb arall sy’n byw yn y wlad yn clywed beth sydd wedi digwydd, byddan nhw’n troi yn ein herbyn ni a’n dileu ni oddi ar wyneb y ddaear. Be wnei di wedyn i gadw dy enw da?”
Josua 7:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Rhwygodd Josua ei fantell, a syrthiodd ar ei wyneb ar lawr gerbron arch yr ARGLWYDD hyd yr hwyr, a'r un modd y gwnaeth henuriaid Israel, gan luchio llwch ar eu pennau. Dywedodd Josua, “Och! F'Arglwydd DDUW, pam y trafferthaist i ddod â'r bobl hyn dros yr Iorddonen, i'n rhoi yn llaw'r Amoriaid i'n difetha? Gresyn na fuasem wedi bodloni aros yr ochr draw i'r Iorddonen. O Arglwydd, beth a ddywedaf, wedi i'r Israeliaid droi eu cefn o flaen eu gelynion? Pan glyw y Canaaneaid a holl drigolion y wlad, fe'n hamgylchynant, a dileu ein henw o'r wlad; a beth a wnei di am d'enw mawr?”
Josua 7:6-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Josua a rwygodd ei ddillad, ac a syrthiodd i lawr ar ei wyneb o flaen arch yr ARGLWYDD, hyd yr hwyr, efe a henuriaid Israel, ac a ddodasant lwch ar eu pennau. A dywedodd Josua, Ah, ah, O ARGLWYDD IÔR, i ba beth y dygaist y bobl yma dros yr Iorddonen, i’n rhoddi ni yn llaw yr Amoriaid, i’n difetha? O na buasem fodlon, ac na thrigasem tu hwnt i’r Iorddonen! O ARGLWYDD, beth a ddywedaf, pan dry Israel ei war o flaen ei elynion! Canys y Canaaneaid, a holl drigolion y wlad, a glywant, ac a’n hamgylchynant, ac a dorrant ymaith ein henw oddi ar y ddaear: a pha beth a wnei i’th enw mawr?