Josua 7:1-2
Josua 7:1-2 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond roedd pobl Israel wedi bod yn anufudd, a chymryd rhai pethau oedd i fod i gael eu cadw i’r ARGLWYDD. Roedd dyn o’r enw Achan wedi cymryd rhai o’r pethau oedd piau’r ARGLWYDD. (Roedd Achan yn fab i Carmi, ac yn ŵyr i Sabdi fab Serach, o lwyth Jwda.) Ac roedd yr ARGLWYDD wedi digio gyda phobl Israel. Dyma Josua’n anfon dynion o Jericho i ysbïo ar Ai (sydd i’r dwyrain o Bethel, wrth ymyl Beth-afen).
Josua 7:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bu'r Israeliaid yn anffyddlon ynglŷn â'r diofryd; cymerwyd rhan ohono gan Achan fab Carmi, fab Sabdi, fab Sera o lwyth Jwda, a digiodd yr ARGLWYDD wrth yr Israeliaid. Anfonodd Josua ddynion o Jericho i Ai ger Beth-afen, i'r dwyrain o Fethel. Dywedodd wrthynt, “Ewch i fyny ac ysbïwch y wlad.” Aeth y dynion i fyny ac ysbïo Ai.
Josua 7:1-2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond meibion Israel a wnaethant gamwedd am y diofryd-beth: canys Achan mab Carmi, mab Sabdi, mab Sera, o lwyth Jwda, a gymerodd o’r diofryd-beth: ac enynnodd dicllonedd yr ARGLWYDD yn erbyn meibion Israel. A Josua a anfonodd wŷr o Jericho i Ai, yr hon sydd wrth Bethafen, o du’r dwyrain i Bethel, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Ewch i fyny, ac edrychwch y wlad. A’r gwŷr a aethant i fyny, ac a edrychasant ansawdd Ai.