Josua 4:1-24
Josua 4:1-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan oedd y genedl gyfan wedi croesi afon Iorddonen, dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua: “Dewis un deg dau o ddynion – un o bob llwyth. Dwed wrthyn nhw am gymryd un deg dwy o gerrig o wely’r afon, o’r union fan lle roedd yr offeiriaid yn sefyll. Maen nhw i fynd â’r cerrig, a’u gosod nhw i lawr lle byddwch chi’n gwersylla heno.” Dyma Josua’n galw’r dynion oedd wedi’u penodi at ei gilydd (un dyn o bob llwyth), a dweud wrthyn nhw: “Ewch o flaen Arch yr ARGLWYDD eich Duw i ganol yr Iorddonen. Yno, mae pob un ohonoch chi i godi carreg ar ei ysgwydd – un garreg ar gyfer pob llwyth. Bydd y cerrig yn eich atgoffa chi o beth ddigwyddodd yma. Yn y dyfodol, pan fydd eich plant yn gofyn, ‘Beth ydy’r cerrig yma?’, gallwch ddweud wrthyn nhw fod afon Iorddonen wedi stopio llifo o flaen Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD – wrth i’r Arch groesi, fod y dŵr wedi stopio llifo. A bod y cerrig i atgoffa pobl Israel o beth ddigwyddodd.” Felly dyma’r dynion yn gwneud yn union fel dwedodd Josua. Dyma nhw’n codi un deg dwy o gerrig o ganol afon Iorddonen (fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Josua – un garreg ar gyfer pob llwyth). A dyma nhw’n cario’r cerrig i’r gwersyll, ac yn eu gosod nhw i lawr yno. Gosododd Josua hefyd un deg dwy o gerrig eraill yn yr union fan lle roedd yr offeiriaid oedd yn cario’r Arch wedi bod yn sefyll. Mae’r cerrig yno hyd heddiw. Safodd yr offeiriaid oedd yn cario’r Arch ar wely afon Iorddonen nes oedd popeth roedd yr ARGLWYDD wedi’i orchymyn i Josua wedi’i gyflawni. Yn y cyfamser, roedd y bobl yn croesi’r afon ar frys. Pan oedd pawb wedi croesi, dyma’r Arch a’r offeiriaid oedd yn ei chario yn croesi, a’r bobl yn eu gwylio. Roedd y dynion o lwyth Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse wedi croesi o flaen pobl Israel, yn barod i ymladd, fel roedd Moses wedi dweud wrthyn nhw. Roedd tua 40,000 o ddynion arfog wedi croesi drosodd i ryfela ar wastatir Jericho. Y diwrnod hwnnw gwnaeth yr ARGLWYDD Josua yn arweinydd mawr yng ngolwg pobl Israel. Roedden nhw’n ei barchu e tra buodd e byw, yn union fel roedden nhw wedi parchu Moses. Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Dwed wrth yr offeiriaid sy’n cario Arch y Dystiolaeth i ddod i fyny o wely’r Iorddonen.” Felly dyma Josua’n gwneud hynny. “Dewch i fyny o wely’r afon!” meddai wrthyn nhw. Dyma’r offeiriaid oedd yn cario Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD yn dod. Pan oedden nhw wedi cyrraedd y tir sych, dyma ddŵr yr afon yn dechrau llifo eto, a gorlifo fel o’r blaen. Roedd hi’r degfed o’r mis cyntaf pan groesodd y bobl afon Iorddonen, a gwersylla yn Gilgal sydd i’r dwyrain o Jericho. Dyna lle gwnaeth Josua osod i fyny yr un deg dwy o gerrig roedden nhw wedi’u cymryd o afon Iorddonen. A dyma fe’n dweud wrth bobl Israel, “Pan fydd eich plant yn gofyn i’w tadau, ‘Beth ydy’r cerrig yma?’ esboniwch iddyn nhw, ‘Dyma lle wnaeth pobl Israel groesi afon Iorddonen ar dir sych.’ Roedd yr ARGLWYDD eich Duw wedi sychu dŵr yr Iorddonen o’n blaen ni wrth i ni groesi drosodd, yn union fel roedd wedi sychu’r Môr Coch pan oedden ni’n croesi hwnnw. Gwnaeth hynny er mwyn i bobl holl wledydd y byd gydnabod fod yr ARGLWYDD yn Dduw grymus, ac er mwyn i chi ei barchu a’i addoli bob amser.”
Josua 4:1-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wedi i'r holl genedl orffen croesi'r Iorddonen, dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “Dewiswch ddeuddeg dyn o blith y bobl, un o bob llwyth. Gorchmynnwch iddynt godi deuddeg maen o ganol yr Iorddonen, o'r union fan y saif traed yr offeiriaid arno, a'u cymryd drosodd gyda hwy, a'u gosod yn y lle y byddant yn gwersyllu heno.” Galwodd Josua y deuddeg dyn a ddewisodd o blith yr Israeliaid, un o bob llwyth, a dywedodd wrthynt, “Ewch drosodd o flaen arch yr ARGLWYDD eich Duw at ganol yr Iorddonen, a choded pob un ei faen ar ei ysgwydd, yn ôl nifer llwythau'r Israeliaid, i fod yn arwydd yn eich mysg. Pan fydd eich plant yn gofyn yn y dyfodol, ‘Beth yw ystyr y meini hyn i chwi?’ yna byddwch yn dweud wrthynt fel y bu i ddyfroedd yr Iorddonen gael eu hatal o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD; pan aeth hi drosodd, ataliwyd y dyfroedd. Felly bydd y meini hyn yn gofeb i'r Israeliaid hyd byth.” Gwnaeth yr Israeliaid fel y gorchmynnodd Josua, a chodi deuddeg maen o wely'r Iorddonen, yn ôl nifer llwythau'r Israeliaid, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Josua, a'u cludo drosodd gyda hwy i'r man lle'r oeddent yn gwersyllu, a'u gosod yno. Hefyd gosododd Josua ddeuddeg maen yng nghanol yr Iorddonen, lle safodd yr offeiriaid oedd yn cludo arch y cyfamod, ac yno y maent hyd heddiw. Bu'r offeiriaid oedd yn cludo'r arch yn sefyll yng nghanol yr Iorddonen nes cwblhau popeth y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Josua ei ddweud wrth y bobl, y cyfan yr oedd Moses wedi ei orchymyn i Josua. Yr oedd y bobl yn brysio i groesi, ac wedi iddynt oll orffen, fe groesodd arch yr ARGLWYDD a'r offeiriaid yng ngŵydd y bobl. Hefyd fe groesodd gwŷr Reuben a Gad a hanner llwyth Manasse yn arfog o flaen yr Israeliaid, fel yr oedd Moses wedi dweud wrthynt. Croesodd tua deugain mil o filwyr profiadol gerbron yr ARGLWYDD i'r frwydr yn rhosydd Jericho. Dyrchafodd yr ARGLWYDD Josua y diwrnod hwnnw yng ngolwg Israel gyfan, a daethant i'w barchu ef, fel yr oeddent wedi parchu Moses holl ddyddiau ei einioes. Wedi i'r ARGLWYDD ddweud wrth Josua am orchymyn i'r offeiriaid oedd yn cludo arch y dystiolaeth esgyn o'r Iorddonen, gorchmynnodd Josua iddynt, “Dewch i fyny o'r Iorddonen.” Ac fel yr oedd yr offeiriaid oedd yn cludo arch cyfamod yr ARGLWYDD yn esgyn o ganol yr Iorddonen, a gwadnau eu traed yn cyffwrdd tir sych, dychwelodd dyfroedd yr Iorddonen i'w lle, a llifo'n llawn at ei glannau megis cynt. Ar y degfed dydd o'r mis cyntaf y daeth y bobl i fyny o'r Iorddonen a gwersyllu yn Gilgal, ar gwr dwyreiniol Jericho. Gosododd Josua y deuddeg maen a gymerwyd o wely'r Iorddonen yn Gilgal, a dweud wrth yr Israeliaid, “Pan fydd eich plant yn gofyn i'w rhieni yn y dyfodol, ‘Beth yw ystyr y meini hyn?’ dywedwch wrthynt i Israel groesi'r Iorddonen ar dir sych; oherwydd sychodd yr ARGLWYDD eich Duw ddŵr yr Iorddonen o'ch blaen nes ichwi groesi, fel y gwnaeth gyda'r Môr Coch, pan sychodd hwnnw o'n blaen nes inni ei groesi. Digwyddodd hyn er mwyn i holl bobloedd y ddaear wybod mor gryf yw yr ARGLWYDD, ac er mwyn ichwi ofni'r ARGLWYDD eich Duw bob amser.”
Josua 4:1-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan ddarfu i’r holl genedl fyned trwy’r Iorddonen, yr ARGLWYDD a lefarodd wrth Josua, gan ddywedyd, Cymerwch i chwi ddeuddengwr o’r bobl, un gŵr o bob llwyth; A gorchmynnwch iddynt, gan ddywedyd, Cymerwch i chwi oddi yma, o ganol yr Iorddonen, o’r fan y mae traed yr offeiriaid yn sefyll yn daclus, ddeuddeg o gerrig; a dygwch hwynt drosodd gyda chwi, a gosodwch hwynt yn y llety y lletyoch ynddo heno. Yna Josua a alwodd am y deuddengwr a baratoesai efe o feibion Israel, un gŵr o bob llwyth: A dywedodd Josua wrthynt, Ewch trosodd o flaen arch yr ARGLWYDD eich DUW, trwy ganol yr Iorddonen; a chodwch i chwi bob un ei garreg ar ei ysgwydd, yn ôl rhifedi llwythau meibion Israel: Fel y byddo hyn yn arwydd yn eich mysg chwi, pan ofynno eich meibion chwi yn ôl hyn, gan ddywedyd, Beth y mae y cerrig hyn yn ei arwyddocáu i chwi? Yna y dywedwch wrthynt, Dorri ymaith ddyfroedd yr Iorddonen o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD; pan oedd hi yn myned trwy ’r Iorddonen, dyfroedd yr Iorddonen a dorrwyd ymaith. Y mae’r cerrig hyn yn goffadwriaeth i feibion Israel byth. A meibion Israel a wnaethant felly fel y gorchmynasai Josua; ac a gymerasant ddeuddeg carreg o ganol yr Iorddonen, fel y llefarasai yr ARGLWYDD wrth Josua, yn ôl rhifedi llwythau meibion Israel, ac a’u dygasant drosodd gyda hwynt i’r llety ac a’u cyfleasant yno. A Josua a osododd i fyny ddeuddeg carreg yng nghanol yr Iorddonen, yn y lle yr oedd traed yr offeiriaid, oedd yn dwyn arch y cyfamod, yn sefyll: ac y maent yno hyd y dydd hwn. A’r offeiriaid, y rhai oedd yn dwyn yr arch, a safasant yng nghanol yr Iorddonen, nes gorffen pob peth a orchmynasai yr ARGLWYDD i Josua ei lefaru wrth y bobl, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Moses wrth Josua: a’r bobl a frysiasant, ac a aethant drosodd. A phan ddarfu i’r holl bobl fyned drosodd, yna arch yr ARGLWYDD a aeth drosodd, a’r offeiriaid, yng ngŵydd y bobl. Meibion Reuben hefyd, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasse, a aethant drosodd yn arfogion o flaen meibion Israel, fel y llefarasai Moses wrthynt: Ynghylch deugain mil, yn arfogion i ryfel, a aethant drosodd o flaen yr ARGLWYDD i ryfel, i rosydd Jericho. Y dwthwn hwnnw yr ARGLWYDD a fawrhaodd Josua yng ngolwg holl Israel; a hwy a’i hofnasant ef, fel yr ofnasant Moses, holl ddyddiau ei einioes. A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Josua, gan ddywedyd, Gorchymyn i’r offeiriaid, sydd yn dwyn arch y dystiolaeth, ddyfod ohonynt i fyny allan o’r Iorddonen. Am hynny Josua a orchmynnodd i’r offeiriaid, gan ddywedyd, Deuwch i fyny allan o’r Iorddonen. A phan ddaeth yr offeiriaid, oedd yn dwyn arch cyfamod yr ARGLWYDD, i fyny o ganol yr Iorddonen, a sengi o wadnau traed yr offeiriaid ar y sychdir; yna dyfroedd yr Iorddonen a ddychwelasant i’w lle, ac a aethant, megis cynt, dros ei holl geulennydd. A’r bobl a ddaethant i fyny o’r Iorddonen y degfed dydd o’r mis cyntaf; ac a wersyllasant yn Gilgal, yn eithaf tu dwyrain Jericho. A’r deuddeg carreg hynny, y rhai a ddygasent o’r Iorddonen, a sefydlodd Josua yn Gilgal. Ac efe a lefarodd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan ofynno eich meibion chwi yn ôl hyn i’w tadau, gan ddywedyd, Beth yw y cerrig hyn? Yna yr hysbyswch i’ch meibion, gan ddywedyd, Israel a ddaeth trwy’r Iorddonen hon ar dir sych. Canys yr ARGLWYDD eich DUW chwi a sychodd ddyfroedd yr Iorddonen o’ch blaen chwi, nes i chwi fyned drwodd; megis y gwnaeth yr ARGLWYDD eich DUW i’r môr coch, yr hwn a sychodd efe o’n blaen ni, nes i ni fyned drwodd: Fel yr adnabyddo holl bobloedd y ddaear law yr ARGLWYDD, mai nerthol yw; fel yr ofnoch yr ARGLWYDD eich DUW bob amser.