Josua 15:13-19
Josua 15:13-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD i Josua, rhoddwyd i Caleb fab Jeffunne randir yn Jwda, sef Ciriath-arba, hynny yw Hebron; tad yr Anaciaid oedd Arba. Gyrrodd Caleb allan oddi yno dri o'r Anaciaid, sef Sesai, Ahiman a Talmai, disgynyddion Anac. Oddi yno ymosododd ar drigolion Debir; Ciriath-seffer oedd enw Debir gynt. Dywedodd Caleb, “Pwy bynnag a drawo Ciriath-seffer a'i hennill, fe roddaf fy merch Achsa yn wraig iddo.” Othniel fab Cenas, brawd Caleb, a'i henillodd; rhoddodd yntau ei ferch Achsa yn wraig iddo. Pan ddaeth hi ato, fe'i hanogodd i geisio tir amaeth gan ei thad. Wedi iddi ddisgyn oddi ar yr asyn, gofynnodd Caleb iddi, “Beth a fynni?” Atebodd hithau, “Rho imi anrheg; yr wyt wedi rhoi imi dir yn y Negef, rho imi hefyd ffynhonnau dŵr.” Felly fe roddodd Caleb iddi'r Ffynhonnau Uchaf a'r Ffynhonnau Isaf.
Josua 15:13-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Cafodd tref Ciriath-arba (sef Hebron) ei rhoi i Caleb fab Jeffwnne, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Josua. (Arba oedd hynafiad yr Anaciaid.) Dyma Caleb yn gyrru allan dri cawr oedd yn ddisgynyddion i Anac, sef Sheshai, Achiman a Talmai. Yna dyma fe’n ymosod ar y bobl oedd yn byw yn Debir. (Ciriath-seffer oedd yr hen enw ar Debir.) Roedd Caleb wedi dweud, “Bydd pwy bynnag sy’n ymosod ar dref Ciriath-seffer ac yn ei choncro yn cael priodi fy merch Achsa.” Othniel, mab Cenas (brawd Caleb) wnaeth goncro’r dref, a dyma Caleb yn rhoi ei ferch, Achsa, yn wraig iddo. Pan briododd hi Othniel, dyma hi’n ei berswadio i adael iddi ofyn i’w thad am fwy o dir. Wrth iddi ddod i lawr oddi ar gefn ei hasyn, dyma’i thad Caleb yn gofyn iddi, “Beth sy’n bod?” A dyma hi’n ateb, “Dw i eisiau gofyn am rodd arall gen ti. Rwyt ti wedi rhoi tir i mi yn y Negef, ond wnei di roi ffynhonnau dŵr i mi hefyd?” A dyma Caleb yn rhoi’r ffynhonnau uchaf a’r ffynhonnau isaf iddi.
Josua 15:13-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac i Caleb mab Jeffunne y rhoddodd efe ran ymysg meibion Jwda, yn ôl gair yr ARGLWYDD wrth Josua; sef Caer-arba, tad yr Anaciaid, honno yw Hebron. A Chaleb a yrrodd oddi yno dri mab Anac, Sesai, ac Ahiman, a Thalmai, meibion Anac. Ac efe a aeth i fyny oddi yno at drigolion Debir; ac enw Debir o’r blaen oedd Ciriath-seffer. A dywedodd Caleb, Pwy bynnag a drawo Ciriath-seffer, ac a’i henillo hi; iddo ef y rhoddaf Achsa fy merch yn wraig. Ac Othniel mab Cenas, brawd Caleb, a’i henillodd hi. Yntau a roddodd Achsa ei ferch iddo ef yn wraig. A phan ddaeth hi i mewn ato ef, yna hi a’i hanogodd ef i geisio gan ei thad faes: ac a ddisgynnodd oddi ar yr asyn. A dywedodd Caleb wrthi, Beth a fynni di? A hi a ddywedodd, Dyro i mi rodd; canys gwlad y deau a roddaist i mi: dyro i mi hefyd ffynhonnau dyfroedd. Ac efe a roddodd iddi y ffynhonnau uchaf, a’r ffynhonnau isaf.