Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Josua 1:1-18

Josua 1:1-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Ar ôl i Moses, gwas yr ARGLWYDD, farw, dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, gwas Moses: “Mae Moses fy ngwas wedi marw. Dos, a chroesi afon Iorddonen. Dw i eisiau i ti arwain y bobl yma i’r tir dw i’n ei roi i chi. Fel gwnes i addo i Moses, dw i’n mynd i roi i chi bob modfedd sgwâr fyddwch chi’n cerdded arni. Bydd eich tir yn ymestyn yr holl ffordd o’r diffeithwch yn y de i Fryniau Libanus yn y gogledd. A’r holl ffordd o afon Ewffrates yn y dwyrain (gan gynnwys gogledd Syria hefyd) i Fôr y Canoldir yn y gorllewin. Bydda i gyda ti, fel roeddwn i gyda Moses. Fydd neb yn gallu dy stopio di tra byddi di byw. Wna i ddim dy siomi di na dy adael di. Bydd yn gryf a dewr. Ti’n mynd i arwain y bobl yma i goncro’r wlad wnes i addo ei rhoi i’w hynafiaid. Ond rhaid i ti fod yn gryf ac yn ddewr iawn! Gwna’n siŵr dy fod yn gwneud popeth mae’r Gyfraith roddodd Moses i ti yn ei ddweud. Paid crwydro oddi wrthi o gwbl, a byddi di’n llwyddo beth bynnag wnei di. Darllen sgrôl y Gyfraith yma yn rheolaidd. Myfyria arni ddydd a nos, a’i dysgu, er mwyn i ti wneud beth mae’n ei ddweud. Dyna sut fyddi di’n llwyddo. Dw i’n dweud eto, bydd yn gryf a dewr! Paid bod ag ofn na phanicio. Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn mynd i fod gyda ti bob cam o’r ffordd!” Felly dyma Josua yn rhoi’r gorchymyn yma i arweinwyr y llwythau: “Ewch drwy’r gwersyll a dweud wrth bawb i gael eu hunain yn barod. Y diwrnod ar ôl yfory dych chi’n mynd i groesi afon Iorddonen, a dechrau concro’r tir mae’r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi.” Yna dyma Josua yn troi at lwythau Reuben, Gad, a hanner llwyth Manasse, a dweud: “Cofiwch beth ddwedodd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wrthoch chi. Mae’r ARGLWYDD eich Duw yn rhoi’r tir yma, sydd i’r dwyrain o afon Iorddonen, i chi setlo i lawr arno. Gall eich gwragedd a’ch plant a’ch anifeiliaid aros yma, ar y tir roddodd Moses i chi. Ond rhaid i bob dyn sy’n gallu ymladd groesi’r afon o flaen gweddill eich brodyr, yn barod i frwydro gyda nhw. Rhaid i chi aros i’w helpu nhw nes bydd yr ARGLWYDD wedi rhoi lle iddyn nhw setlo hefyd, a nes bydd y tir mae’r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi iddyn nhw wedi’i goncro. Wedyn cewch groesi’n ôl i’r tir wnaeth Moses ei roi i chi, i’r dwyrain o afon Iorddonen.” A dyma nhw’n ateb Josua: “Byddwn ni’n gwneud popeth rwyt ti’n ddweud, a mynd ble bynnag wnei di’n hanfon ni. Yn union fel gwnaethon ni wrando ar Moses, byddwn ni’n gwrando arnat ti. Boed i’r ARGLWYDD dy Dduw fod gyda ti, fel roedd e gyda Moses! Os bydd unrhyw un yn gwrthryfela yn dy erbyn, ac yn gwrthod gwneud beth ti’n ddweud, y gosb fydd marwolaeth. Felly, bydd yn gryf a dewr!”

Josua 1:1-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Wedi marw Moses gwas yr ARGLWYDD, dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua fab Nun, a fu'n gweini ar Moses, “Y mae fy ngwas Moses wedi marw; yn awr, croesa di a'r holl bobl hyn yr Iorddonen yma i'r wlad yr wyf fi'n ei rhoi i blant Israel. Rhof i chwi bob llecyn y bydd gwadn eich troed yn cerdded drosto, fel y dywedais wrth Moses. Bydd eich terfyn yn ymestyn o'r anialwch a Lebanon hyd at yr afon fawr, afon Ewffrates, sef holl wlad yr Hethiaid, hyd at y Môr Mawr yn y gorllewin. Ni saif neb o'th flaen tra byddi byw; byddaf gyda thi fel y bûm gyda Moses; ni'th adawaf na chefnu arnat. Bydd yn gryf a dewr; oherwydd ti fydd yn rhoi i'r bobl hyn feddiant o'r wlad yr addewais ei rhoi i'w hynafiaid. Yn unig bydd yn gryf a dewr iawn, a gofala weithredu yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnodd fy ngwas Moses iti. Paid â gwyro oddi wrthi i'r dde na'r chwith, er mwyn iti ffynnu ple bynnag yr ei. Nid yw'r llyfr cyfraith hwn i adael dy enau; yr wyt i fyfyrio ynddo ddydd a nos, er mwyn iti ofalu gwneud y cyfan sy'n ysgrifenedig ynddo. Yna byddi'n llwyddo yn dy ffyrdd ac yn ffynnu. Onid wyf wedi gorchymyn iti: bydd yn gryf a dewr? Paid ag arswydo na dychryn, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD dy Dduw, gyda thi ple bynnag yr ei.” Dywedodd Josua wrth swyddogion y bobl am fynd trwy ganol y gwersyll, a gorchymyn i'r bobl, “Darparwch ichwi luniaeth, oherwydd o fewn tridiau byddwch yn croesi'r Iorddonen ar y ffordd i feddiannu'r wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi'n etifeddiaeth i chwi.” Ac wrth Reuben a Gad a hanner llwyth Manasse, dywedodd Josua, “Cofiwch beth a orchmynnodd Moses gwas yr ARGLWYDD ichwi, fod yr ARGLWYDD eich Duw yn rhoi diogelwch ichwi yma, ac yn rhoi'r wlad hon i chwi. Caiff eich gwragedd, eich plant a'ch anifeiliaid aros yn y wlad a roddodd Moses ichwi y tu hwnt i'r Iorddonen; ond y mae pob milwr o'ch plith i fynd trosodd yn llu arfog o flaen eich perthnasau i'w cynorthwyo, nes y bydd yr ARGLWYDD wedi rhoi diogelwch i'ch perthnasau fel i chwi, a hwythau'n cael meddiant o'r wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi iddynt; yna cewch ddychwelyd a meddiannu'r wlad a roddodd Moses gwas yr ARGLWYDD yn etifeddiaeth i chwi i'r dwyrain o'r Iorddonen.” Dyma'u hateb i Josua: “Fe wnawn beth bynnag yr wyt yn ei orchymyn inni, a mynd i ble bynnag yr anfoni ni; ufuddhawn i ti ym mhopeth fel y gwnaethom i Moses, dim ond i'r ARGLWYDD dy Dduw fod gyda thi fel y bu gyda Moses. Rhodder i farwolaeth bwy bynnag fydd yn anufuddhau i'th air ac yn gwrthod gwrando ar unrhyw beth a orchmynni. Yn unig bydd yn gryf a dewr.”

Josua 1:1-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac wedi marwolaeth Moses, gwas yr ARGLWYDD, y llefarodd yr ARGLWYDD wrth Josua mab Nun, gweinidog Moses, gan ddywedyd, Moses fy ngwas a fu farw: gan hynny cyfod yn awr, dos dros yr Iorddonen hon, ti, a’r holl bobl hyn, i’r wlad yr ydwyf fi yn ei rhoddi iddynt hwy, meibion Israel. Pob man y sango gwadn eich troed chwi arno, a roddais i chwi; fel y lleferais wrth Moses. O’r anialwch, a’r Libanus yma, hyd yr afon fawr, afon Ewffrates, holl wlad yr Hethiaid, hyd y môr mawr, tua machludiad yr haul, fydd eich terfyn chwi. Ni saif neb o’th flaen di holl ddyddiau dy einioes: megis y bûm gyda Moses, y byddaf gyda thithau: ni’th adawaf, ac ni’th wrthodaf. Ymgryfha, ac ymwrola: canys ti a wnei i’r bobl hyn etifeddu’r wlad yr hon a dyngais wrth eu tadau ar ei rhoddi iddynt. Yn unig ymgryfha, ac ymwrola yn lew, i gadw ar wneuthur yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnodd Moses fy ngwas i ti: na ogwydda oddi wrthi, ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy; fel y ffynnech i ba le bynnag yr elych. Nac ymadawed llyfr y gyfraith hon o’th enau, eithr myfyria ynddo ddydd a nos; fel y cedwych ar wneuthur yn ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig ynddo: canys yna y llwyddi yn dy ffyrdd, ac yna y ffynni. Oni orchmynnais i ti? Ymgryfha, ac ymwrola; nac arswyda, ac nac ofna: canys yr ARGLWYDD dy DDUW fydd gyda thi, i ba le bynnag yr elych. Yna Josua a orchmynnodd i lywodraethwyr y bobl, gan ddywedyd, Tramwywch trwy ganol y llu, a gorchmynnwch i’r bobl, gan ddywedyd, Paratowch i chwi luniaeth: canys o fewn tridiau y byddwch chwi yn myned dros yr Iorddonen hon, i ddyfod i feddiannu’r wlad y mae yr ARGLWYDD eich DUW yn ei rhoddi i chwi i’w meddiannu. Wrth y Reubeniaid hefyd, ac wrth y Gadiaid, ac wrth hanner llwyth Manasse, y llefarodd Josua, gan ddywedyd, Cofiwch y gair a orchmynnodd Moses gwas yr ARGLWYDD i chwi, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD eich DUW a esmwythaodd arnoch, ac a roddodd i chwi y wlad hon. Eich gwragedd, eich plant, a’ch anifeiliaid, a drigant yn y wlad a roddodd Moses i chwi o’r tu yma i’r Iorddonen: ond chwychwi a ewch drosodd yn arfogion o flaen eich brodyr, y sawl ydych gedyrn o nerth, a chynorthwywch hwynt; Nes rhoddi o’r ARGLWYDD lonyddwch i’ch brodyr, fel i chwithau, a meddiannu ohonynt hwythau y wlad y mae yr ARGLWYDD eich DUW yn ei rhoddi iddynt: yna dychwelwch i wlad eich etifeddiaeth, a meddiennwch hi, yr hon a roddodd Moses gwas yr ARGLWYDD i chwi, o’r tu yma i’r Iorddonen, tua chodiad yr haul. Hwythau a atebasant Josua, gan ddywedyd, Ni a wnawn yr hyn oll a orchmynnaist i ni; awn hefyd i ba le bynnag yr anfonych ni. Fel y gwrandawsom ar Moses ym mhob peth, felly y gwrandawn arnat tithau: yn unig bydded yr ARGLWYDD dy DDUW gyda thi, megis y bu gyda Moses. Pwy bynnag a anufuddhao dy orchymyn, ac ni wrandawo ar dy ymadroddion, yn yr hyn oll a orchmynnych iddo, rhodder ef i farwolaeth: yn unig ymgryfha, ac ymwrola.