Jona 4:5-11
Jona 4:5-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Aeth Jona allan ac aros i'r dwyrain o'r ddinas. Gwnaeth gaban iddo'i hun yno, ac eistedd yn ei gysgod i weld beth a ddigwyddai i'r ddinas. A threfnodd yr ARGLWYDD Dduw i blanhigyn dyfu dros Jona i fod yn gysgod dros ei ben ac i leddfu ei drallod; ac yr oedd Jona'n falch iawn o'r planhigyn. Ond gyda'r wawr drannoeth, trefnodd Duw i bryfyn nychu'r planhigyn, nes iddo grino. A phan gododd yr haul trefnodd Duw wynt poeth o'r dwyrain, ac yr oedd yr haul yn taro ar ben Jona nes iddo lewygu; gofynnodd am gael marw, a dweud, “Gwell gennyf farw na byw.” A gofynnodd Duw i Jona, “A yw'n iawn iti deimlo'n ddig o achos y planhigyn?” Atebodd yntau, “Y mae'n iawn imi deimlo'n ddig hyd angau.” Dywedodd Duw, “Yr wyt ti'n tosturio wrth blanhigyn na fuost yn llafurio gydag ef nac yn ei dyfu; mewn noson y daeth, ac mewn noson y darfu. Oni thosturiaf finnau wrth Ninefe, y ddinas fawr, lle mae mwy na chant ac ugain o filoedd o bobl sydd heb wybod y gwahaniaeth rhwng y llaw chwith a'r llaw dde, heb sôn am lu o anifeiliaid?”
Jona 4:5-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Aeth Jona allan o’r ddinas i gyfeiriad y dwyrain, ac eistedd i lawr. Gwnaeth loches iddo’i hun, ac eistedd yn ei gysgod, yn disgwyl i weld beth fyddai’n digwydd i Ninefe. A dyma’r ARGLWYDD Dduw yn gwneud i blanhigyn bach dyfu uwchben Jona. Roedd i gysgodi drosto, i’w gadw rhag bod yn rhy anghyfforddus. Roedd Jona wrth ei fodd gyda’r planhigyn. Ond yn gynnar iawn y bore wedyn anfonodd Duw bryfyn i ymosod ar y planhigyn, a dyma fe’n gwywo. Yna yn ystod y dydd dyma Duw yn anfon gwynt poeth o’r dwyrain. Roedd yr haul mor danbaid nes bod Jona bron llewygu. Roedd e eisiau marw, a dyma fe’n gweiddi, “Byddai’n well gen i farw na byw!” Dyma’r ARGLWYDD yn gofyn iddo, “Ydy’n iawn i ti fod wedi gwylltio fel yma o achos planhigyn bach?” Ac meddai Jona, “Ydy, mae yn iawn. Dw i’n hollol wyllt!” A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho: “Ti’n poeni am blanhigyn bach wnest ti ddim gofalu amdano na gwneud iddo dyfu. Roedd e wedi tyfu dros nos a gwywo’r diwrnod wedyn! Ydy hi ddim yn iawn i mi fod â chonsýrn am y ddinas fawr yma, Ninefe? Mae yna dros gant dau ddeg o filoedd o bobl ddiniwed yn byw ynddi – a lot fawr o anifeiliaid hefyd!”
Jona 4:5-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Jona a aeth allan o’r ddinas, ac a eisteddodd o’r tu dwyrain i’r ddinas, ac a wnaeth yno gaban iddo ei hun, ac a eisteddodd dano yn y cysgod, hyd oni welai beth a fyddai yn y ddinas. A’r ARGLWYDD DDUW a ddarparodd gicaion, ac a wnaeth iddo dyfu dros Jona, i fod yn gysgod uwch ei ben ef, i’w waredu o’i ofid: a bu Jona lawen iawn am y cicaion. A’r Arglwydd a baratôdd bryf ar godiad y wawr drannoeth, ac efe a drawodd y cicaion, ac yntau a wywodd. A phan gododd haul, bu i DDUW ddarparu poethwynt y dwyrain; a’r haul a drawodd ar ben Jona, fel y llewygodd, ac y deisyfodd farw o’i einioes, ac a ddywedodd, Gwell i mi farw na byw. A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Jona, Ai da yw y gwaith ymddigio ohonot am y cicaion? Ac efe a ddywedodd, Da yw i mi ymddigio hyd angau. A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Ti a dosturiaist wrth y cicaion ni lafuriaist wrtho, ac ni pheraist iddo dyfu: mewn noswaith y bu, ac mewn noswaith y darfu: Ac oni arbedwn i Ninefe y ddinas fawr, yr hon y mae ynddi fwy na deuddeng myrdd o ddynion, y rhai ni wyddant ragor rhwng eu llaw ddeau a’u llaw aswy, ac anifeiliaid lawer?