Jona 4:2
Jona 4:2 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma fe’n gweddïo: O ARGLWYDD, plîs na! Rôn i’n gwybod mai dyma fyddai’n digwydd! Dyna feddyliais i pan oeddwn i adre yn fy ngwlad fy hun, a dyna pam wnes i geisio dianc i Tarshish! Ti’n Dduw mor garedig a thrugarog, mor amyneddgar ac anhygoel o hael, a ddim yn hoffi cosbi!
Jona 4:2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna gweddïodd ar yr ARGLWYDD a dweud, “Yn awr, ARGLWYDD, onid hyn a ddywedais pan oeddwn gartref? Dyna pam yr achubais y blaen trwy ffoi i Tarsis. Gwyddwn dy fod yn Dduw graslon a thrugarog, araf i ddigio, mawr o dosturi ac yn edifar ganddo wneud niwed.
Jona 4:2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a weddïodd ar yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Atolwg i ti, ARGLWYDD, oni ddywedais i hyn pan oeddwn eto yn fy ngwlad? am hynny yr achubais flaen i ffoi i Tarsis; am y gwyddwn dy fod di yn DDUW graslon a thrugarog, hwyrfrydig i ddig, aml o drugaredd, ac edifeiriol am ddrwg.