Jona 4:1-5
Jona 4:1-5 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Doedd Jona ddim yn hapus. Roedd e wedi gwylltio’n lân. Dyma fe’n gweddïo: O ARGLWYDD, plîs na! Rôn i’n gwybod mai dyma fyddai’n digwydd! Dyna feddyliais i pan oeddwn i adre yn fy ngwlad fy hun, a dyna pam wnes i geisio dianc i Tarshish! Ti’n Dduw mor garedig a thrugarog, mor amyneddgar ac anhygoel o hael, a ddim yn hoffi cosbi! Felly, plîs ARGLWYDD, lladd fi! Mae’n well gen i farw na byw i weld hyn! Gofynnodd yr ARGLWYDD iddo, “Ydy’n iawn i ti wylltio fel yma?” Aeth Jona allan o’r ddinas i gyfeiriad y dwyrain, ac eistedd i lawr. Gwnaeth loches iddo’i hun, ac eistedd yn ei gysgod, yn disgwyl i weld beth fyddai’n digwydd i Ninefe.
Jona 4:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd Jona'n anfodlon iawn am hyn, a theimlai'n ddig. Yna gweddïodd ar yr ARGLWYDD a dweud, “Yn awr, ARGLWYDD, onid hyn a ddywedais pan oeddwn gartref? Dyna pam yr achubais y blaen trwy ffoi i Tarsis. Gwyddwn dy fod yn Dduw graslon a thrugarog, araf i ddigio, mawr o dosturi ac yn edifar ganddo wneud niwed. Yn awr, ARGLWYDD, cymer fy mywyd oddi arnaf; gwell gennyf farw na byw.” Atebodd Duw, “A yw'n iawn iti deimlo'n ddig?” Aeth Jona allan ac aros i'r dwyrain o'r ddinas. Gwnaeth gaban iddo'i hun yno, ac eistedd yn ei gysgod i weld beth a ddigwyddai i'r ddinas.
Jona 4:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A bu ddrwg iawn gan Jona hyn, ac efe a ddigiodd yn fawr. Ac efe a weddïodd ar yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Atolwg i ti, ARGLWYDD, oni ddywedais i hyn pan oeddwn eto yn fy ngwlad? am hynny yr achubais flaen i ffoi i Tarsis; am y gwyddwn dy fod di yn DDUW graslon a thrugarog, hwyrfrydig i ddig, aml o drugaredd, ac edifeiriol am ddrwg. Am hynny yn awr, O ARGLWYDD, cymer, atolwg, fy einioes oddi wrthyf: canys gwell i mi farw na byw. A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Ai da yw y gwaith ymddigio ohonot? A Jona a aeth allan o’r ddinas, ac a eisteddodd o’r tu dwyrain i’r ddinas, ac a wnaeth yno gaban iddo ei hun, ac a eisteddodd dano yn y cysgod, hyd oni welai beth a fyddai yn y ddinas.