Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jona 4:1-10

Jona 4:1-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Doedd Jona ddim yn hapus. Roedd e wedi gwylltio’n lân. Dyma fe’n gweddïo: O ARGLWYDD, plîs na! Rôn i’n gwybod mai dyma fyddai’n digwydd! Dyna feddyliais i pan oeddwn i adre yn fy ngwlad fy hun, a dyna pam wnes i geisio dianc i Tarshish! Ti’n Dduw mor garedig a thrugarog, mor amyneddgar ac anhygoel o hael, a ddim yn hoffi cosbi! Felly, plîs ARGLWYDD, lladd fi! Mae’n well gen i farw na byw i weld hyn! Gofynnodd yr ARGLWYDD iddo, “Ydy’n iawn i ti wylltio fel yma?” Aeth Jona allan o’r ddinas i gyfeiriad y dwyrain, ac eistedd i lawr. Gwnaeth loches iddo’i hun, ac eistedd yn ei gysgod, yn disgwyl i weld beth fyddai’n digwydd i Ninefe. A dyma’r ARGLWYDD Dduw yn gwneud i blanhigyn bach dyfu uwchben Jona. Roedd i gysgodi drosto, i’w gadw rhag bod yn rhy anghyfforddus. Roedd Jona wrth ei fodd gyda’r planhigyn. Ond yn gynnar iawn y bore wedyn anfonodd Duw bryfyn i ymosod ar y planhigyn, a dyma fe’n gwywo. Yna yn ystod y dydd dyma Duw yn anfon gwynt poeth o’r dwyrain. Roedd yr haul mor danbaid nes bod Jona bron llewygu. Roedd e eisiau marw, a dyma fe’n gweiddi, “Byddai’n well gen i farw na byw!” Dyma’r ARGLWYDD yn gofyn iddo, “Ydy’n iawn i ti fod wedi gwylltio fel yma o achos planhigyn bach?” Ac meddai Jona, “Ydy, mae yn iawn. Dw i’n hollol wyllt!” A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho: “Ti’n poeni am blanhigyn bach wnest ti ddim gofalu amdano na gwneud iddo dyfu. Roedd e wedi tyfu dros nos a gwywo’r diwrnod wedyn!

Jona 4:1-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A bu ddrwg iawn gan Jona hyn, ac efe a ddigiodd yn fawr. Ac efe a weddïodd ar yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Atolwg i ti, ARGLWYDD, oni ddywedais i hyn pan oeddwn eto yn fy ngwlad? am hynny yr achubais flaen i ffoi i Tarsis; am y gwyddwn dy fod di yn DDUW graslon a thrugarog, hwyrfrydig i ddig, aml o drugaredd, ac edifeiriol am ddrwg. Am hynny yn awr, O ARGLWYDD, cymer, atolwg, fy einioes oddi wrthyf: canys gwell i mi farw na byw. A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Ai da yw y gwaith ymddigio ohonot? A Jona a aeth allan o’r ddinas, ac a eisteddodd o’r tu dwyrain i’r ddinas, ac a wnaeth yno gaban iddo ei hun, ac a eisteddodd dano yn y cysgod, hyd oni welai beth a fyddai yn y ddinas. A’r ARGLWYDD DDUW a ddarparodd gicaion, ac a wnaeth iddo dyfu dros Jona, i fod yn gysgod uwch ei ben ef, i’w waredu o’i ofid: a bu Jona lawen iawn am y cicaion. A’r Arglwydd a baratôdd bryf ar godiad y wawr drannoeth, ac efe a drawodd y cicaion, ac yntau a wywodd. A phan gododd haul, bu i DDUW ddarparu poethwynt y dwyrain; a’r haul a drawodd ar ben Jona, fel y llewygodd, ac y deisyfodd farw o’i einioes, ac a ddywedodd, Gwell i mi farw na byw. A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Jona, Ai da yw y gwaith ymddigio ohonot am y cicaion? Ac efe a ddywedodd, Da yw i mi ymddigio hyd angau. A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Ti a dosturiaist wrth y cicaion ni lafuriaist wrtho, ac ni pheraist iddo dyfu: mewn noswaith y bu, ac mewn noswaith y darfu