Jona 1:7-10
Jona 1:7-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma griw’r llong yn dod at ei gilydd, a dweud, “Gadewch i ni ofyn i’r duwiau ddangos i ni pwy sydd ar fai am y storm ofnadwy yma.” Felly dyma nhw’n taflu coelbren, a darganfod mai Jona oedd e. A dyma nhw’n gofyn i Jona, “Dywed, pam mae’r drychineb yma wedi digwydd? Beth ydy dy waith di? O ble wyt ti’n dod? O ba wlad? Pa genedl wyt ti’n perthyn iddi?” A dyma Jona’n ateb, “Hebrëwr ydw i. Dw i’n addoli’r ARGLWYDD, Duw’r nefoedd. Fe ydy’r Duw sydd wedi creu y môr a’r tir.” Pan glywon nhw hyn roedd y dynion wedi dychryn fwy fyth. “Beth wyt ti wedi’i wneud o’i le?” medden nhw. (Roedden nhw’n gwybod ei fod e’n ceisio dianc oddi wrth yr ARGLWYDD, am ei fod e wedi dweud hynny wrthyn nhw’n gynharach.)
Jona 1:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna dywedodd y morwyr wrth ei gilydd, “O achos pwy y daeth y drwg hwn arnom? Gadewch inni fwrw coelbren, inni gael gwybod.” Felly bwriasant goelbren, a syrthiodd y coelbren ar Jona. Yna dywedasant wrtho, “Dywed i ni, beth yw dy neges? O ble y daethost? Prun yw dy wlad? O ba genedl yr wyt?” Atebodd yntau hwy, “Hebrëwr wyf fi; ac yr wyf yn ofni'r ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, a wnaeth y môr a'r sychdir.” A daeth ofn mawr ar y dynion, a dywedasant wrtho, “Beth yw hyn a wnaethost?” Oherwydd gwyddai'r dynion mai ffoi oddi wrth yr ARGLWYDD yr oedd, gan iddo ddweud hynny wrthynt.
Jona 1:7-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A dywedasant bob un wrth ei gyfaill, Deuwch, a bwriwn goelbrennau, fel y gwypom o achos pwy y mae y drwg hwn arnom. A bwriasant goelbrennau, a’r coelbren a syrthiodd ar Jona. A dywedasant wrtho, Atolwg, dangos i ni er mwyn pwy y mae i ni y drwg hwn: beth yw dy gelfyddyd di? ac o ba le y daethost? pa le yw dy wlad? ac o ba bobl yr wyt ti? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hebread ydwyf fi; ac ofni yr wyf fi ARGLWYDD DDUW y nefoedd, yr hwn a wnaeth y môr a’r sychdir. A’r gwŷr a ofnasant gan ofn mawr, ac a ddywedasant wrtho, Paham y gwnaethost hyn? Canys y dynion a wyddent iddo ffoi oddi gerbron yr ARGLWYDD, oherwydd efe a fynegasai iddynt.