Jona 1:15-17
Jona 1:15-17 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Yna dyma nhw’n gafael yn Jona a’i daflu i’r môr, a dyma’r storm yn tawelu. Roedd hyn wedi gwneud i’r morwyr ofni’r ARGLWYDD go iawn, a dyma nhw’n addo ar lw y bydden nhw’n offrymu aberthau iddo. A dyma’r ARGLWYDD yn anfon pysgodyn mawr i lyncu Jona. Roedd Jona ym mol y pysgodyn am dri diwrnod a thair noson.
Jona 1:15-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna cymerasant Jona a'i daflu i'r môr, a llonyddodd y môr o'i gynnwrf. Ac ofnodd y gwŷr yr ARGLWYDD yn fawr iawn, gan offrymu aberth i'r ARGLWYDD a gwneud addunedau. A threfnodd yr ARGLWYDD i bysgodyn mawr lyncu Jona; a bu Jona ym mol y pysgodyn am dri diwrnod a thair noson.
Jona 1:15-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y cymerasant Jona, ac a’i bwriasant ef i’r môr: a pheidiodd y môr â’i gyffro. A’r gwŷr a ofnasant yr ARGLWYDD ag ofn mawr, ac a aberthasant aberth i’r ARGLWYDD, ac a addunasant addunedau. A’r ARGLWYDD a ddarparasai bysgodyn mawr i lyncu Jona. A Jona a fu ym mol y pysgodyn dri diwrnod a thair nos.