Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jona 1:1-12

Jona 1:1-12 beibl.net 2015, 2023 (BNET)

Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Jona, fab Amittai, “Dos i ddinas fawr Ninefe, ar unwaith! Dw i eisiau i ti gyhoeddi barn ar y bobl yno, achos dw i wedi gweld yr holl bethau drwg maen nhw’n wneud.” Ond dyma Jona’n ffoi i’r cyfeiriad arall, i Sbaen. Roedd eisiau dianc oddi wrth yr ARGLWYDD. Aeth i lawr i borthladd Jopa, a dod o hyd i long oedd ar fin hwylio i Tarshish yn Sbaen. Ar ôl talu am ei docyn aeth gyda nhw ar y cwch a hwylio i ffwrdd, er mwyn dianc oddi wrth yr ARGLWYDD. Ond dyma’r ARGLWYDD yn gwneud i wynt cryf chwythu ar y môr. Roedd y storm mor wyllt nes bod y llong mewn perygl o gael ei dryllio. Roedd criw y llong wedi dychryn am eu bywydau. Dyma pob un yn gweiddi ar ei dduw am help. A dyma nhw’n dechrau taflu’r cargo i’r môr, er mwyn gwneud y llong yn ysgafnach. Ond roedd Jona’n cysgu’n drwm drwy’r cwbl! Roedd e wedi mynd i lawr i’r howld i orwedd i lawr, ac wedi syrthio i gysgu. Dyma’r capten yn dod ar ei draws, a’i ddeffro. “Beth wyt ti’n meddwl wyt ti’n wneud yn cysgu yma!” meddai. “Cod, a galw ar dy dduw! Falle y bydd e’n ein helpu ni, a’n cadw ni rhag boddi.” Dyma griw’r llong yn dod at ei gilydd, a dweud, “Gadewch i ni ofyn i’r duwiau ddangos i ni pwy sydd ar fai am y storm ofnadwy yma.” Felly dyma nhw’n taflu coelbren, a darganfod mai Jona oedd e. A dyma nhw’n gofyn i Jona, “Dywed, pam mae’r drychineb yma wedi digwydd? Beth ydy dy waith di? O ble wyt ti’n dod? O ba wlad? Pa genedl wyt ti’n perthyn iddi?” A dyma Jona’n ateb, “Hebrëwr ydw i. Dw i’n addoli’r ARGLWYDD, Duw’r nefoedd. Fe ydy’r Duw sydd wedi creu y môr a’r tir.” Pan glywon nhw hyn roedd y dynion wedi dychryn fwy fyth. “Beth wyt ti wedi’i wneud o’i le?” medden nhw. (Roedden nhw’n gwybod ei fod e’n ceisio dianc oddi wrth yr ARGLWYDD, am ei fod e wedi dweud hynny wrthyn nhw’n gynharach.) Roedd y storm yn mynd o ddrwg i waeth. A dyma’r morwyr yn gofyn i Jona, “Beth wnawn ni hefo ti? Oes rhywbeth allwn ni wneud i dawelu’r storm yma?” Dyma fe’n ateb, “Taflwch fi i’r môr a bydd y storm yn tawelu. Arna i mae’r bai eich bod chi yn y storm ofnadwy yma.”

Jona 1:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Daeth gair yr ARGLWYDD at Jona fab Amittai, a dweud, “Cod, dos i Ninefe, y ddinas fawr, a llefara yn ei herbyn; oherwydd daeth ei drygioni i'm sylw.” Ond cododd Jona i ffoi oddi wrth yr ARGLWYDD i Tarsis. Aeth i lawr i Jopa a chael llong yn mynd i Tarsis, ac wedi talu ei dreuliau aeth arni i fynd gyda hwy i Tarsis oddi wrth yr ARGLWYDD. Ond cododd yr ARGLWYDD wynt nerthol ar y môr, a bu storm mor arw ar y môr nes bod y llong mewn perygl o gael ei dryllio. Yr oedd y morwyr wedi dychryn, a phob un yn gweiddi ar ei dduw, a thaflasant y gêr oedd ar y llong i'r môr i'w hysgafnu. Ond yr oedd Jona wedi mynd i grombil y llong i orwedd, ac wedi cysgu. A daeth capten y llong ato a gofyn, “Beth yw dy feddwl, yn cysgu? Cod, a galw ar dy dduw; efallai y meddylia'r duw amdanom, rhag ein difetha.” Yna dywedodd y morwyr wrth ei gilydd, “O achos pwy y daeth y drwg hwn arnom? Gadewch inni fwrw coelbren, inni gael gwybod.” Felly bwriasant goelbren, a syrthiodd y coelbren ar Jona. Yna dywedasant wrtho, “Dywed i ni, beth yw dy neges? O ble y daethost? Prun yw dy wlad? O ba genedl yr wyt?” Atebodd yntau hwy, “Hebrëwr wyf fi; ac yr wyf yn ofni'r ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, a wnaeth y môr a'r sychdir.” A daeth ofn mawr ar y dynion, a dywedasant wrtho, “Beth yw hyn a wnaethost?” Oherwydd gwyddai'r dynion mai ffoi oddi wrth yr ARGLWYDD yr oedd, gan iddo ddweud hynny wrthynt. Yna dywedasant, “Beth a wnawn â thi, er mwyn i'r môr ostegu inni, oherwydd y mae'n gwaethygu o hyd.” Atebodd yntau, “Cymerwch fi a'm taflu i'r môr, ac yna fe dawela'r môr ichwi; oherwydd gwn mai o'm hachos i y daeth y storm arw hon arnoch.”

Jona 1:1-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Jona mab Amitai, gan ddywedyd, Cyfod, dos i Ninefe y ddinas fawr, a llefa yn ei herbyn; canys eu drygioni hwynt a ddyrchafodd ger fy mron. A Jona a gyfododd i ffoi i Tarsis oddi gerbron yr ARGLWYDD: ac efe a aeth i waered i Jopa, ac a gafodd long yn myned i Tarsis, ac a dalodd ei llong-log hi, ac a aeth i waered iddi i fyned gyda hwynt i Tarsis, oddi gerbron yr ARGLWYDD. Ond yr ARGLWYDD a gyfododd wynt mawr yn y môr, a bu yn y môr dymestl fawr, fel y tybygwyd y drylliai y llong. Yna y morwyr a ofnasant, ac a lefasant bob un ar ei dduw, a bwriasant y dodrefn oedd yn y llong i’r môr, i ymysgafnhau ohonynt: ond Jona a aethai i waered i ystlysau y llong, ac a orweddasai, ac a gysgasai. A meistr y llong a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Beth a ddarfu i ti, gysgadur? cyfod, galw ar dy Dduw: fe allai yr ystyr y DUW hwnnw wrthym, fel na’n coller. A dywedasant bob un wrth ei gyfaill, Deuwch, a bwriwn goelbrennau, fel y gwypom o achos pwy y mae y drwg hwn arnom. A bwriasant goelbrennau, a’r coelbren a syrthiodd ar Jona. A dywedasant wrtho, Atolwg, dangos i ni er mwyn pwy y mae i ni y drwg hwn: beth yw dy gelfyddyd di? ac o ba le y daethost? pa le yw dy wlad? ac o ba bobl yr wyt ti? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hebread ydwyf fi; ac ofni yr wyf fi ARGLWYDD DDUW y nefoedd, yr hwn a wnaeth y môr a’r sychdir. A’r gwŷr a ofnasant gan ofn mawr, ac a ddywedasant wrtho, Paham y gwnaethost hyn? Canys y dynion a wyddent iddo ffoi oddi gerbron yr ARGLWYDD, oherwydd efe a fynegasai iddynt. A dywedasant wrtho, Beth a wnawn i ti, fel y gostego y môr oddi wrthym? canys gweithio yr oedd y môr, a therfysgu. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Cymerwch fi, a bwriwch fi i’r môr; a’r môr a ostega i chwi; canys gwn mai o’m hachos i y mae y dymestl fawr hon arnoch chwi.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd