Joel 3:15-16
Joel 3:15-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’r haul a’r lleuad wedi tywyllu, a’r sêr wedi diflannu. Mae’r ARGLWYDD yn rhuo o Seion; a’i lais yn taranu o Jerwsalem, nes bod yr awyr a’r ddaear yn crynu. Ond mae’r ARGLWYDD yn lle saff i’w bobl guddio ynddo, mae e’n gaer ddiogel i bobl Israel.
Rhanna
Darllen Joel 3Joel 3:15-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bydd yr haul a'r lleuad yn tywyllu, a'r sêr yn atal eu goleuni. Rhua'r ARGLWYDD o Seion, a chodi ei lef o Jerwsalem; cryna'r nefoedd a'r ddaear. Ond y mae'r ARGLWYDD yn gysgod i'w bobl, ac yn noddfa i blant Israel.
Rhanna
Darllen Joel 3Joel 3:15-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr haul a’r lloer a dywyllant, a’r sêr a ataliant eu llewyrch. A’r ARGLWYDD a rua o Seion, ac a rydd ei lef o Jerwsalem; y nefoedd hefyd a’r ddaear a grynant: ond yr ARGLWYDD fydd gobaith ei bobl, a chadernid meibion Israel.
Rhanna
Darllen Joel 3