Joel 2:28-30
Joel 2:28-30 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Ar ôl hynny, bydda i’n tywallt fy Ysbryd ar y bobl i gyd. Bydd eich meibion a’ch merched yn proffwydo; bydd pobl hŷn yn cael breuddwydion, a dynion ifanc yn cael gweledigaethau. Bydda i hyd yn oed yn tywallt fy Ysbryd ar y gweision a’r morynion. Bydd pethau rhyfeddol yn digwydd yn yr awyr ac ar y ddaear – gwaed a thân a cholofnau o fwg.
Joel 2:28-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Ar ôl hyn tywalltaf fy ysbryd ar bawb; bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo, bydd eich hynafgwyr yn gweld breuddwydion, a'ch gwŷr ifainc yn cael gweledigaethau. Hyd yn oed ar y gweision a'r morynion fe dywalltaf fy ysbryd yn y dyddiau hynny.” “Rhof argoelion yn y nefoedd ac ar y ddaear, gwaed a thân a cholofnau mwg.
Joel 2:28-30 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A bydd ar ôl hynny, y tywalltaf fy ysbryd ar bob cnawd; a’ch meibion a’ch merched a broffwydant, eich henuriaid a welant freuddwydion, eich gwŷr ieuainc a welant weledigaethau: Ac ar y gweision hefyd ac ar y morynion y tywalltaf fy ysbryd yn y dyddiau hynny. A gwnaf ryfeddodau yn y nefoedd; ac yn y ddaear, gwaed, a thân, a cholofnau mwg.