Joel 2:12-14
Joel 2:12-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Yn awr,” medd yr ARGLWYDD, “dychwelwch ataf â'ch holl galon, ag ympryd, wylofain a galar. Rhwygwch eich calon, nid eich dillad, a dychwelwch at yr ARGLWYDD eich Duw.” Graslon a thrugarog yw ef, araf i ddigio, a mawr ei ffyddlondeb, ac yn edifar ganddo wneud niwed. Pwy a ŵyr na thry a thosturio, a gadael bendith ar ei ôl— bwydoffrwm a diodoffrwm i'r ARGLWYDD eich Duw?
Joel 2:12-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond dyma neges yr ARGLWYDD: “Dydy hi ddim yn rhy hwyr. Trowch yn ôl ata i o ddifri. Ewch heb fwyd. Trowch ata i yn eich dagrau, a galaru am eich ymddygiad. Rhwygwch eich calonnau, yn lle dim ond rhwygo’ch dillad.” Trowch yn ôl at yr ARGLWYDD eich Duw! Mae e mor garedig a thrugarog; mor amyneddgar ac yn anhygoel o hael, a ddim yn hoffi cosbi. Pwy ŵyr? Falle y bydd e’n drugarog ac yn troi yn ôl. Falle y bydd e’n dewis bendithio o hyn ymlaen! Wedyn cewch gyflwyno offrwm o rawn ac offrwm o ddiod i’r ARGLWYDD eich Duw!
Joel 2:12-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond yr awr hon, medd yr ARGLWYDD, Dychwelwch ataf fi â’ch holl galon, ag ympryd hefyd, ac ag wylofain, ac â galar. A rhwygwch eich calon, ac nid eich dillad; ac ymchwelwch at yr ARGLWYDD eich DUW: oherwydd graslon a thrugarog yw efe, hwyrfrydig i ddigofaint, a mawr ei drugaredd, ac edifeiriol am ddrwg. Pwy a ŵyr a dry efe, ac edifarhau, a gweddill bendith ar ei ôl, sef bwyd-offrwm a diod-offrwm i’r ARGLWYDD eich DUW?