Joel 2:1-17
Joel 2:1-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Chwythwch y corn hwrdd yn Seion; Rhybuddiwch bobl o ben y mynydd cysegredig! Dylai pawb sy’n byw yn y wlad grynu mewn ofn, am fod dydd barn yr ARGLWYDD ar fin dod. Ydy, mae’n agos! Bydd yn ddiwrnod tywyll ofnadwy; diwrnod o gymylau duon bygythiol. Mae byddin enfawr yn dod dros y bryniau. Does dim byd tebyg wedi digwydd erioed o’r blaen, a welwn ni ddim byd tebyg byth eto. Mae fflamau tân o’u cwmpas, yn dinistrio popeth sydd yn eu ffordd. Mae’r wlad o’u blaenau yn ffrwythlon fel Gardd Eden, ond tu ôl iddyn nhw mae fel anialwch diffaith. Does dim posib dianc! Maen nhw’n edrych fel ceffylau, ac yn carlamu fel meirch rhyfel. Maen nhw’n swnio fel cerbydau rhyfel yn rhuthro dros y bryniau; fel sŵn clecian fflamau’n llosgi bonion gwellt, neu sŵn byddin enfawr yn paratoi i ymosod. Mae pobl yn gwingo mewn panig o’u blaenau; mae wynebau pawb yn troi’n welw gan ofn. Fel tyrfa o filwyr, maen nhw’n martsio ac yn dringo i fyny’r waliau. Maen nhw’n dod yn rhesi disgybledig does dim un yn gadael y rhengoedd. Dŷn nhw ddim yn baglu ar draws ei gilydd; mae pob un yn martsio’n syth yn ei flaen. Dydy saethau a gwaywffyn ddim yn gallu eu stopio. Maen nhw’n rhuthro i mewn i’r ddinas, yn dringo dros y waliau, ac i mewn i’r tai. Maen nhw’n dringo i mewn fel lladron drwy’r ffenestri. Mae fel petai’r ddaear yn crynu o’u blaenau, a’r awyr yn chwyrlïo. Mae’r haul a’r lleuad yn tywyllu, a’r sêr yn diflannu. Mae llais yr ARGLWYDD yn taranu wrth iddo arwain ei fyddin. Mae eu niferoedd yn enfawr! Maen nhw’n gwneud beth mae’n ei orchymyn. Ydy, mae dydd yr ARGLWYDD yn ddiwrnod mawr; mae’n ddychrynllyd! – Pa obaith sydd i unrhyw un? Ond dyma neges yr ARGLWYDD: “Dydy hi ddim yn rhy hwyr. Trowch yn ôl ata i o ddifri. Ewch heb fwyd. Trowch ata i yn eich dagrau, a galaru am eich ymddygiad. Rhwygwch eich calonnau, yn lle dim ond rhwygo’ch dillad.” Trowch yn ôl at yr ARGLWYDD eich Duw! Mae e mor garedig a thrugarog; mor amyneddgar ac yn anhygoel o hael, a ddim yn hoffi cosbi. Pwy ŵyr? Falle y bydd e’n drugarog ac yn troi yn ôl. Falle y bydd e’n dewis bendithio o hyn ymlaen! Wedyn cewch gyflwyno offrwm o rawn ac offrwm o ddiod i’r ARGLWYDD eich Duw! Chwythwch y corn hwrdd yn Seion! Trefnwch ddiwrnod pan fydd pawb yn peidio bwyta; yn stopio gweithio, ac yn dod at ei gilydd i addoli Duw. Casglwch y bobl i gyd, a pharatoi pawb i ddod at ei gilydd i addoli. Dewch â’r arweinwyr at ei gilydd. Dewch â’r plant yno, a’r babis bach. Dylai hyd yn oed y rhai sydd newydd briodi ddod – does neb i gadw draw! Dylai’r offeiriaid, y rhai sy’n gwasanaethu’r ARGLWYDD, wylo o’r cyntedd i’r allor, a gweddïo fel hyn: “ARGLWYDD, wnei di faddau i dy bobl? Paid gadael i’r wlad yma droi’n destun sbort. Paid gadael i baganiaid ein llywodraethu ni! Pam ddylai pobl y gwledydd gael dweud, ‘Felly, ble mae eu Duw nhw?’”
Joel 2:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Canwch utgorn yn Seion, bloeddiwch ar fy mynydd sanctaidd. Cryned holl drigolion y wlad am fod dydd yr ARGLWYDD yn dyfod; y mae yn agos— dydd o dywyllwch ac o gaddug, dydd o gymylau ac o ddüwch. Fel cysgod yn ymdaenu dros y mynyddoedd, wele luoedd mawr a chryf; ni fu eu bath erioed, ac ni fydd ar eu hôl ychwaith am genedlaethau dirifedi. Ysa tân o'u blaen a llysg fflam ar eu hôl. Y mae'r wlad o'u blaen fel gardd Eden, ond ar eu hôl yn anialwch diffaith, ac ni ddianc dim rhagddo. Y maent yn ymddangos fel ceffylau, ac yn carlamu fel meirch rhyfel. Fel torf o gerbydau neidiant ar bennau'r mynyddoedd; fel sŵn fflamau tân yn ysu sofl, fel byddin gref yn barod i ryfel. Arswyda'r cenhedloedd rhagddynt, a gwelwa pob wyneb. Rhuthrant fel milwyr, dringant y mur fel rhyfelwyr; cerdda pob un yn ei flaen heb wyro o'i reng. Ni wthiant ar draws ei gilydd, dilyn pob un ei lwybr ei hun; er y saethau, ymosodant ac ni ellir eu hatal. Rhuthrant yn erbyn y ddinas, rhedant dros ei muriau, dringant i fyny i'r tai, ânt i mewn trwy'r ffenestri fel lladron. Ysgwyd y ddaear o'u blaen a chryna'r nefoedd. Bydd yr haul a'r lleuad yn tywyllu a'r sêr yn atal eu goleuni. Cwyd yr ARGLWYDD ei lef ar flaen ei fyddin; y mae ei lu yn fawr iawn, a'r un sy'n cyflawni ei air yn gryf. Oherwydd mawr yw dydd yr ARGLWYDD, ac ofnadwy, a phwy a'i deil? “Yn awr,” medd yr ARGLWYDD, “dychwelwch ataf â'ch holl galon, ag ympryd, wylofain a galar. Rhwygwch eich calon, nid eich dillad, a dychwelwch at yr ARGLWYDD eich Duw.” Graslon a thrugarog yw ef, araf i ddigio, a mawr ei ffyddlondeb, ac yn edifar ganddo wneud niwed. Pwy a ŵyr na thry a thosturio, a gadael bendith ar ei ôl— bwydoffrwm a diodoffrwm i'r ARGLWYDD eich Duw? Canwch utgorn yn Seion, cyhoeddwch ympryd, galwch gymanfa, cynullwch y bobl. Neilltuwch y gynulleidfa, cynullwch yr henuriaid, casglwch y plant, hyd yn oed y babanod. Doed y priodfab o'i ystafell a'r briodferch o'i siambr. Rhwng y porth a'r allor wyled yr offeiriaid, gweinidogion yr ARGLWYDD, a dweud, “Arbed dy bobl, O ARGLWYDD. Paid â gwneud dy etifeddiaeth yn warth ac yn gyff gwawd ymysg y cenhedloedd. Pam y dywedir ymysg y bobloedd, ‘Ple mae eu Duw?’ ”
Joel 2:1-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Cenwch yr utgorn yn Seion, a bloeddiwch ar fynydd fy sancteiddrwydd: dychryned holl breswylwyr y wlad; canys daeth dydd yr ARGLWYDD, canys y mae yn agos. Diwrnod tywyll du, diwrnod cymylog a niwlog, fel y wawr wedi ymwasgaru ar y mynyddoedd: pobl fawr a chryfion, ni bu eu bath erioed, ac ni bydd eilwaith ar eu hôl, hyd flynyddoedd cenhedlaeth a chenhedlaeth. O’u blaen y difa y tân, ac ar eu hôl y fflam; mae y wlad o’u blaen fel gardd baradwys, ac ar eu hôl yn ddiffeithwch anrheithiedig; a hefyd ni ddianc dim ganddynt. Yr olwg arnynt sydd megis golwg o feirch; ac fel marchogion, felly y rhedant. Megis sŵn cerbydau ar bennau y mynyddoedd y llamant, fel sŵn tân ysol yn difa y sofl, ac fel pobl gryfion wedi ymosod i ryfel. O’u blaen yr ofna y bobl; pob wyneb a gasgl barddu. Rhedant fel glewion, dringant y mur fel rhyfelwyr, a cherddant bob un yn ei ffordd ei hun, ac ni wyrant oddi ar eu llwybrau. Ni wthiant y naill y llall; cerddant bob un ei lwybr ei hun: ac er eu syrthio ar y cleddyf, nid archollir hwynt. Gwibiant ar hyd y ddinas; rhedant ar y mur, dringant i’r tai; ânt i mewn trwy y ffenestri fel lleidr. O’u blaen y crŷn y ddaear, y nefoedd a gynhyrfir; yr haul a’r lleuad a dywyllir, a’r sêr a ataliant eu llewyrch. A’r ARGLWYDD a rydd ei lef o flaen ei lu: canys mawr iawn yw ei wersyll ef: canys cryf yw yr hwn sydd yn gwneuthur ei air ef: oherwydd mawr yw dydd yr ARGLWYDD, ac ofnadwy iawn; a phwy a’i herys? Ond yr awr hon, medd yr ARGLWYDD, Dychwelwch ataf fi â’ch holl galon, ag ympryd hefyd, ac ag wylofain, ac â galar. A rhwygwch eich calon, ac nid eich dillad; ac ymchwelwch at yr ARGLWYDD eich DUW: oherwydd graslon a thrugarog yw efe, hwyrfrydig i ddigofaint, a mawr ei drugaredd, ac edifeiriol am ddrwg. Pwy a ŵyr a dry efe, ac edifarhau, a gweddill bendith ar ei ôl, sef bwyd-offrwm a diod-offrwm i’r ARGLWYDD eich DUW? Cenwch utgorn yn Seion, cysegrwch ympryd, gelwch gymanfa: Cesglwch y bobl; cysegrwch y gynulleidfa: cynullwch yr henuriaid; cesglwch y plant, a’r rhai yn sugno bronnau: deued y priodfab allan o’i ystafell, a’r briodferch allan o ystafell ei gwely. Wyled yr offeiriaid, gweinidogion yr ARGLWYDD, rhwng y porth a’r allor, a dywedant, Arbed dy bobl, O ARGLWYDD, ac na ddyro dy etifeddiaeth i warth, i lywodraethu o’r cenhedloedd arnynt: paham y dywedent ymhlith y bobloedd, Pa le y mae eu DUW hwynt?