Job 9:22-24
Job 9:22-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr un dynged sydd i bawb; am hynny dywedaf ei fod ef yn difetha'r di-fai a'r drygionus. Os dinistr a ladd yn ddisymwth, fe chwardd am drallod y diniwed. Os rhoddir gwlad yng ngafael y drygionus, fe daena orchudd tros wyneb ei barnwyr. Os nad ef, pwy yw?
Job 9:22-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
‘Does dim gwahaniaeth!’, dyna dw i’n ddweud, ‘Mae e’n dinistrio’r di-fai a’r euog fel ei gilydd.’ Pan mae ei chwip yn dod â marwolaeth sydyn, mae e’n chwerthin ar anobaith y dieuog. Mae’r tir wedi’i roi yn nwylo pobl ddrwg, ac mae Duw’n rhoi mwgwd dros lygaid ei barnwyr. Os nad fe sy’n gwneud hyn, yna pwy sydd?
Job 9:22-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Dyma un peth, am hynny mi a’i dywedais: y mae efe yn difetha y perffaith a’r annuwiol. Os lladd y ffrewyll yn ddisymwth, efe a chwardd am ben profedigaeth y diniwed. Y ddaear a roddwyd yn llaw yr annuwiol: efe a fwrw hug dros wynebau ei barnwyr hi: onid e, pa le y mae, a phwy yw efe?