Job 8:1-22
Job 8:1-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma Bildad o Shwach yn ymateb: “Am faint wyt ti’n mynd i ddal ati i siarad fel yma? Mae dy eiriau’n wyllt fel gwynt stormus! Ydy Duw yn gwyrdroi cyfiawnder? Ydy’r Un sy’n rheoli popeth yn ystumio beth sy’n iawn? Roedd dy feibion wedi pechu yn ei erbyn, ac mae e wedi gadael iddyn nhw wynebu canlyniadau eu gwrthryfel. Ond os gwnei di droi at Dduw a gofyn i’r Duw sy’n rheoli popeth dy helpu, os wyt ti’n ddi-fai ac yn byw yn iawn, bydd e’n dy amddiffyn di, ac yn dy adfer i dy gyflwr cyfiawn. Er bod dy ddechrau’n fach, bydd dy lwyddiant yn fawr i’r dyfodol. Gofyn i’r genhedlaeth sydd wedi mynd heibio, meddylia am yr hyn wnaeth pobl ddarganfod ers talwm. (Achos dim ond yn ddiweddar y daethon ni i’r golwg, a dŷn ni’n gwybod dim; a dydy’n dyddiau ni ar y ddaear yn ddim ond cysgod.) Byddan nhw’n siŵr o dy ddysgu, ac esbonio beth wnaethon nhw ei ddeall. Ydy papurfrwyn yn gallu tyfu heb gors? Ydy brwyn yn gallu tyfu heb ddŵr? Wrth ddechrau tyfu, cyn bod yn barod i’w torri, bydden nhw’n gwywo’n gynt na’r glaswellt. Dyna sy’n digwydd i’r rhai sy’n anghofio Duw; mae gobaith yr annuwiol yn diflannu – mae fel gafael mewn edau frau, neu bwyso ar we pry cop. Mae’n pwyso arno ac yn syrthio; mae’n gafael ynddo i godi, ond yn methu. Dan wenau’r haul mae’n blanhigyn iach wedi’i ddyfrio, a’i frigau’n lledu drwy’r ardd. Mae ei wreiddiau’n lapio am bentwr o gerrig, ac yn edrych am le rhwng y meini. Ond pan mae’n cael ei godi a’i ddiwreiddio, bydd yr ardd lle roedd yn tyfu yn dweud, ‘Dw i erioed wedi dy weld di.’ Dyna fydd ei ddiwedd hapus! A bydd planhigion eraill yn tyfu yn ei le. Edrych! Dydy Duw ddim yn gwrthod pobl onest nac yn helpu pobl ddrwg! Bydd yn gwneud i ti chwerthin unwaith eto, a byddi’n gweiddi’n llawen! Bydd dy elynion yn cael eu cywilyddio, a bydd pebyll pobl ddrwg yn diflannu.”
Job 8:1-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna atebodd Bildad y Suhiad: “Am ba hyd y lleferi fel hyn, a chymaint o ymffrost yn dy eiriau? A yw Duw yn gwyrdroi barn? A yw'r Hollalluog yn gwyro cyfiawnder? Pan bechodd dy feibion yn ei erbyn, fe'u trosglwyddodd i afael eu trosedd. Os ceisi di Dduw yn ddyfal, ac ymbil ar yr Hollalluog, ac os wyt yn bur ac uniawn, yna fe wylia ef drosot, a'th adfer i'th safle o gyfiawnder. Pe byddai dy ddechreuad yn fychan, byddai dy ddiwedd yn fawr. “Yn awr gofyn i'r oes a fu, ac ystyria'r hyn a ganfu'r hynafiaid. Canys nid ydym ni ond er doe, ac anwybodus ŷm, a chysgod yw ein dyddiau ar y ddaear. Oni fyddant hwy'n dy hyfforddi, a mynegi wrthyt, a rhoi atebion deallus? A dyf brwyn lle nad oes cors? A ffynna hesg heb ddŵr? Er eu bod yn ir a heb eu torri, eto gwywant yn gynt na'r holl blanhigion. Felly y mae tynged yr holl rai sy'n anghofio Duw, ac y derfydd gobaith yr annuwiol. Edau frau yw ei hyder, a'i ymffrost fel gwe'r pryf copyn. Pwysa ar ei dŷ, ond ni saif; cydia ynddo, ond ni ddeil. Bydd yn ir yn llygad yr haul, yn estyn ei frigau dros yr ardd; ymbletha'i wraidd dros y pentwr cerrig, a daw i'r golwg rhwng y meini. Ond os diwreiddir ef o'i le, fe'i gwedir: ‘Ni welais di’. Gwywo felly yw ei natur; ac yna tyf un arall o'r pridd. “Wele, ni wrthyd Duw yr uniawn, ac ni chydia yn llaw y drygionus. Lleinw eto dy enau â chwerthin, a'th wefusau â gorfoledd. Gwisgir dy elynion â gwarth, a diflanna pabell y drygionus.”
Job 8:1-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna Bildad y Suhiad a atebodd ac a ddywedodd, Pa hyd y dywedi di hynny? ac y bydd geiriau dy enau megis gwynt cryf? A ŵyra DUW farn? neu a ŵyra yr Hollalluog gyfiawnder? Os dy feibion a bechasant yn ei erbyn ef; a bwrw ohono ef hwynt ymaith am eu camwedd; Os tydi a foregodi at DDUW, ac a weddïi ar yr Hollalluog; Os pur ac uniawn fyddi, yn wir efe a ddeffry atat ti yr awron, ac a wna drigfa dy gyfiawnder yn llwyddiannus. Er bod dy ddechreuad yn fychan, eto dy ddiwedd a gynydda yn ddirfawr. Oblegid gofyn, atolwg, i’r oes gynt, ac ymbaratoa i chwilio eu hynafiaid hwynt: (Canys er doe yr ydym ni, ac ni wyddom ddim, oherwydd cysgod yw ein dyddiau ni ar y ddaear:) Oni ddysgant hwy di? ac oni ddywedant i ti? ac oni ddygant ymadroddion allan o’u calon? A gyfyd brwynen heb wlybaniaeth? a dyf hesg heb ddwfr? Tra fyddo hi eto yn wyrddlas heb ei thorri, hi a wywa o flaen pob glaswelltyn. Felly y mae llwybrau pawb a’r sydd yn gollwng DUW dros gof, ac y derfydd am obaith y rhagrithiwr: Yr hwn y torrir ymaith ei obaith; ac fel tŷ pryf copyn y bydd ei hyder ef. Efe a bwysa ar ei dŷ, ond ni saif; efe a ymeifl ynddo, ond ni phery. Y mae efe yn ir o flaen yr haul, ac yn ei ardd y daw ei frig allan. Plethir ei wraidd ef ynghylch y pentwr, ac efe a wêl le cerrig. Os diwreiddia efe ef allan o’i le, efe a’i gwad ef, gan ddywedyd, Ni’th welais. Wele, dyma lawenydd ei ffordd ef: ac o’r ddaear y blagura eraill. Wele, ni wrthyd DUW y perffaith, ac nid ymeifl efe yn llaw y rhai drygionus; Oni lanwo efe dy enau di â chwerthin, a’th wefusau â gorfoledd. A gwisgir dy gaseion di â chywilydd, ac ni bydd lluesty yr annuwiol.