Job 38:4-11
Job 38:4-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ble roeddet ti pan osodais i sylfeini’r ddaear? Ateb fi os wyt ti’n gwybod y cwbl! Pwy benderfynodd beth fyddai ei maint? – ti’n siŵr o fod yn gwybod! Pwy wnaeth ddefnyddio llinyn i’w mesur? Ar beth y gosodwyd ei sylfeini? Pwy osododd ei chonglfaen? Ble roeddet ti pan oedd sêr y bore yn canu gyda’i gilydd a holl angylion Duw yn gweiddi’n llawen? Pwy gaeodd y drysau ar y môr wrth iddo arllwys allan o’r groth? Fi roddodd gymylau yn wisg amdano, a’i lapio mewn niwl trwchus. Fi osododd derfyn iddo, a’i gadw tu ôl i ddrysau wedi’u bolltio. Dwedais, ‘Cei di ddod hyd yma, ond dim pellach; dyma lle mae ymchwydd dy donnau yn stopio!’
Job 38:4-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Ble'r oeddit ti pan osodais i sylfaen i'r ddaear? Ateb, os gwyddost. Pwy a benderfynodd ei mesurau? Mae'n siŵr dy fod yn gwybod! Pwy a estynnodd linyn mesur arni? Ar beth y seiliwyd ei sylfeini, a phwy a osododd ei chonglfaen? Ble'r oeddit ti pan oedd sêr y bore i gyd yn llawenhau, a'r holl angylion yn gorfoleddu, pan gaewyd ar y môr â dorau, pan lamai allan o'r groth, pan osodais gwmwl yn wisg amdano, a'r caddug yn rhwymyn iddo, a phan drefnais derfyn iddo, a gosod barrau a dorau, a dweud, ‘Hyd yma yr ei, a dim pellach, ac yma y gosodais derfyn i ymchwydd dy donnau’?
Job 38:4-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pa le yr oeddit ti pan sylfaenais i y ddaear? mynega, os medri ddeall. Pwy a osododd ei mesurau hi, os gwyddost? neu pwy a estynnodd linyn arni hi? Ar ba beth y sicrhawyd ei sylfeini hi? neu pwy a osododd ei chonglfaen hi, Pan gydganodd sêr y bore, ac y gorfoleddodd holl feibion DUW? A phwy a gaeodd y môr â dorau, pan ruthrodd efe allan megis pe delai allan o’r groth? Pan osodais i y cwmwl yn wisg iddo, a niwl tew yn rhwymyn iddo, Pan osodais fy ngorchymyn arno, a phan osodais drosolion a dorau, Gan ddywedyd, Hyd yma y deui, ac nid ymhellach; ac yma yr atelir ymchwydd dy donnau di.