Job 32:1-22
Job 32:1-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly dyma’r tri dyn yn stopio dadlau gyda Job, am ei fod mor siŵr ei fod yn iawn. Ond roedd Elihw fab Barachel o deulu Bws, oedd yn perthyn i glan Ram, wedi gwylltio’n lân gyda Job am fynnu mai fe oedd yn iawn ac nid Duw. Roedd yn wyllt gyda’r tri chyfaill hefyd, oedd yn condemnio Job ac eto’n methu ei ateb. Roedd Elihw wedi cadw’n dawel tra oedden nhw’n siarad â Job, am eu bod nhw’n hŷn nag e. Ond pan welodd Elihw nad oedd y tri yn gallu ateb Job, roedd e wedi gwylltio’n lân. Yna, dyma Elihw fab Barachel o deulu Bws yn dweud fel hyn: “Dyn ifanc dw i, a dych chi i gyd yn hen; felly dw i wedi bod yn cadw’n dawel ac yn rhy swil i ddweud be dw i’n feddwl. Dwedais wrthof fy hun, ‘Gad i’r dynion hŷn siarad; rho gyfle i’r rhai sydd â phrofiad blynyddoedd lawer i ddangos doethineb.’ Ond Ysbryd Duw yn rhywun, anadl yr Un sy’n rheoli popeth sy’n gwneud iddo ddeall. Nid dim ond pobl mewn oed sy’n ddoeth, does dim rhaid bod yn hen i farnu beth sy’n iawn. Felly dw i’n dweud, ‘Gwrandwch arna i, a gadewch i mi ddweud be dw i’n feddwl.’ Dw i wedi bod yn disgwyl i chi orffen siarad, ac yn gwrando’n ofalus ar eich dadleuon chi, wrth i chi drafod y pethau hyn. Ond mae’n gwbl amlwg i mi fod dim un ohonoch chi’n gallu ateb Job, a gwrthbrofi’r hyn mae wedi’i ddweud. A pheidiwch dweud, ‘Y peth doeth i’w wneud ydy hyn – Gadael i Dduw ei geryddu, nid dyn!’ Dydy Job ddim wedi dadlau gyda fi eto, a dw i ddim yn mynd i’w ateb gyda’ch dadleuon chi. Mae’r tri yma mewn sioc, heb ateb bellach; does ganddyn nhw ddim byd ar ôl i’w ddweud. Oes rhaid i mi ddal i ddisgwyl, a nhw’n dawel? Maen nhw wedi stopio dadlau, a ddim yn ateb. Mae fy nhro i wedi dod i ddweud fy mhwt, cyfle i mi ddweud be dw i’n feddwl. Mae gen i gymaint i’w ddweud, alla i ddim peidio dweud rhywbeth. Dw i’n teimlo fel potel o win sydd angen ei hagor; fel poteli crwyn newydd sydd ar fin byrstio. Mae’n rhaid i mi siarad, does gen i ddim dewis. Gadewch i mi ddweud rhywbeth, i’w ateb. Dw i ddim yn mynd i gadw ochr neb, na seboni drwy roi teitlau parchus i bobl; dw i ddim yn gwybod sut i seboni – petawn i’n gwneud hynny, byddai’r Duw a’m gwnaeth i yn fy symud yn ddigon buan!
Job 32:1-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Peidiodd y tri gŵr â dadlau rhagor â Job, am fod Job yn ei ystyried ei hun yn fwy cyfiawn na Duw. Ond yr oedd Elihu fab Barachel y Busiad, o dylwyth Ram, wedi ei gythruddo yn erbyn Job. Yr oedd yn ddig am ei fod yn ei ystyried ei hun yn gyfiawn gerbron Duw, a'r un mor ddig wrth ei dri chyfaill am eu bod yn methu ateb Job er iddynt ei gondemnio. Tra oeddent hwy'n llefaru wrth Job, yr oedd Elihu wedi cadw'n dawel am eu bod yn hŷn nag ef. Ond digiodd pan welodd nad oedd gan y tri gŵr ateb i Job. Yna dywedodd Elihu fab Barachel y Busiad: “Dyn ifanc wyf fi, a chwithau'n hen; am hyn yr oeddwn yn ymatal, ac yn swil i ddweud fy marn wrthych. Dywedais, ‘Caiff profiad maith siarad, ac amlder blynyddoedd draethu doethineb.’ Ond yr ysbryd oddi mewn i rywun, ac anadl yr Hollalluog, sy'n ei wneud yn ddeallus. Nid yr oedrannus yn unig sydd ddoeth, ac nid yr hen yn unig sy'n deall beth sydd iawn. Am hyn yr wyf yn dweud, ‘Gwrando arnaf; gad i minnau ddweud fy marn.’ “Bûm yn disgwyl am eich geiriau, ac yn gwrando am eich deallusrwydd; tra oeddech yn dewis eich geiriau, sylwais yn fanwl arnoch, ond nid oedd yr un ohonoch yn gallu gwrthbrofi Job, nac ateb ei ddadleuon. Peidiwch â dweud, ‘Fe gawsom ni ddoethineb’; Duw ac nid dyn a'i trecha. Nid yn f'erbyn i y trefnodd ei ddadleuon; ac nid â'ch geiriau chwi yr atebaf fi ef. “Y maent hwy wedi eu syfrdanu, ac yn methu ateb mwyach; pallodd geiriau ganddynt. A oedaf fi am na lefarant hwy, ac am eu bod hwy wedi peidio ag ateb? Gwnaf finnau fy rhan trwy ateb, a dywedaf fy marn. Yr wyf yn llawn o eiriau, ac ysbryd ynof sy'n fy nghymell. O'm mewn yr wyf fel petai gwin yn methu arllwys allan, a minnau fel costrelau newydd ar fin rhwygo. Rhaid i mi lefaru er mwyn cael gollyngdod, rhaid i mi agor fy ngenau i ateb. Ni ddangosaf ffafr at neb, ac ni wenieithiaf i neb; oherwydd ni wn i sut i wenieithio; pe gwnawn hynny, byddai fy nghreawdwr ar fyr dro yn fy symud.”
Job 32:1-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Felly y tri gŵr yma a beidiasant ag ateb i Job, am ei fod ef yn gyfiawn yn ei olwg ei hun. Yna digofaint Elihu, mab Barachel y Busiad, o genedl Ram, a gyneuodd: ei ddigofaint ef a enynnodd yn erbyn Job, am farnu ohono ei enaid yn gyfiawn o flaen DUW. A’i ddigofaint ef a gyneuodd yn erbyn ei dri chyfaill, am na chawsent hwy ateb, ac er hynny, farnu ohonynt Job yn euog. Elihu hefyd a arosasai ar Job nes darfod iddo lefaru: canys yr oeddynt hwy yn hŷn nag ef o oedran. Pan welodd Elihu nad oedd ateb gan y triwyr hyn, yna y cyneuodd ei ddigofaint ef. Ac Elihu, mab Barachel y Busiad, a atebodd ac a ddywedodd, Ieuanc ydwyf o oedran, chwithau ydych hen iawn: am hynny yr arswydais, ac yr ofnais ddangos fy meddwl i chwi. Dywedais, Dyddiau a draethant, a lliaws o flynyddoedd a ddysgant ddoethineb. Ond y mae ysbryd mewn dyn; ac ysbrydoliaeth yr Hollalluog sydd yn gwneuthur iddynt hwy ddeall. Nid yw gwŷr mawrion ddoeth bob amser: ac nid yw hynafgwyr yn deall barn. Am hynny y dywedais, Gwrando fi; minnau a ddangosaf fy meddwl. Wele, disgwyliais wrth eich geiriau; clustymwrandewais â’ch rhesymau, tra y chwiliasoch chwi am eiriau. Ie, mi a ddeliais arnoch: ac wele, nid oedd un ohonoch yn argyhoeddi Job, gan ateb ei eiriau ef: Rhag dywedyd ohonoch, Ni a gawsom ddoethineb: DUW sydd yn ei wthio ef i lawr, ac nid dyn. Er na hwyliodd efe ei ymadroddion yn fy erbyn i: ac nid atebaf finnau iddo â’ch geiriau chwi. Hwy a synasant, nid atebasant mwy; peidiasant â llefaru. Wedi disgwyl ohonof, (canys ni lefarant, eithr sefyll heb ateb mwy,) Dywedais, Minnau a atebaf fy rhan, minnau a ddangosaf fy meddwl. Canys yr ydwyf yn llawn geiriau: y mae yr ysbryd sydd ynof yn fy nghymell i. Wele, fy mol sydd fel gwin nid agorid arno: y mae efe yn hollti fel costrelau newyddion. Dywedaf, fel y caffwyf fy anadl: agoraf fy ngwefusau, ac atebaf. Ni dderbyniaf yn awr wyneb neb: ni wenieithiaf wrth ddyn. Canys ni fedraf wenieithio; pe gwnelwn, buan y’m cymerai fy Ngwneuthurwr ymaith.