Job 3:1-5
Job 3:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wedi hyn dechreuodd Job siarad a melltithio dydd ei eni. Meddai Job: “Difoder y dydd y'm ganwyd, a'r nos y dywedwyd, ‘Cenhedlwyd bachgen’. Bydded y dydd hwnnw yn dywyllwch; na chyfrifer ef gan Dduw oddi uchod, ac na lewyrched goleuni arno. Cuddier ef gan dywyllwch a'r fagddu; arhosed cwmwl arno a gorlether ef gan ddüwch y dydd.
Job 3:1-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Job oedd y cyntaf i siarad, a melltithiodd y diwrnod y cafodd ei eni. Dyma ddwedodd e: “O na fyddai’r diwrnod y ces i fy ngeni yn cael ei ddileu o hanes! – y noson honno y dwedodd rhywun, ‘Mae bachgen wedi’i eni!’ O na fyddai’r diwrnod hwnnw yn dywyllwch, fel petai’r Duw sydd uchod heb erioed ei alw i fod, a golau dydd heb wawrio arno! O na fyddai tywyllwch dudew yn ei guddio; a chwmwl yn gorwedd drosto, a’r düwch yn ei ddychryn i ffwrdd!
Job 3:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Wedi hyn Job a agorodd ei enau, ac a felltithiodd ei ddydd. A Job a lefarodd, ac a ddywedodd, Darfydded am y dydd y’m ganwyd ynddo, a’r nos y dywedwyd, Enillwyd gwryw. Bydded y dydd hwnnw yn dywyllwch, a DUW oddi uchod heb ei ystyried; ac na thywynned llewyrch arno. Tywyllwch a chysgod marwolaeth a’i halogo, ac arhosed cwmwl arno; dued y diwrnod a’i dychryno.