Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 3:1-26

Job 3:1-26 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Job oedd y cyntaf i siarad, a melltithiodd y diwrnod y cafodd ei eni. Dyma ddwedodd e: “O na fyddai’r diwrnod y ces i fy ngeni yn cael ei ddileu o hanes! – y noson honno y dwedodd rhywun, ‘Mae bachgen wedi’i eni!’ O na fyddai’r diwrnod hwnnw yn dywyllwch, fel petai’r Duw sydd uchod heb erioed ei alw i fod, a golau dydd heb wawrio arno! O na fyddai tywyllwch dudew yn ei guddio; a chwmwl yn gorwedd drosto, a’r düwch yn ei ddychryn i ffwrdd! O na fyddai tywyllwch dudew wedi cipio’r noson honno, fel na fyddai’n cael ei chyfrif yn un o ddyddiau’r flwyddyn, ac na fyddai i’w gweld ar galendr y misoedd! O na fyddai’r noson honno wedi bod yn ddiffrwyth, heb sŵn neb yn dathlu’n llawen ynddi! O na fyddai’r rhai sy’n dewino wedi melltithio’r diwrnod hwnnw – y rhai sy’n gallu deffro’r ddraig yn y môr! O na fyddai’r sêr wedi diffodd y noson honno, a’r bore wedi disgwyl yn ofer am y golau, a heb weld pelydrau’r wawr – am ei bod heb gloi drysau croth fy mam, a’m rhwystro rhag gweld trybini. Pam wnes i ddim cael fy ngeni’n farw, neu ddarfod wrth ddod allan o’r groth? Pam oedd gliniau yn disgwyl amdana i, a bronnau i mi ddechrau eu sugno? Heb hynny byddwn yn gorwedd yn dawel, yn cysgu’n drwm a gorffwys yn y bedd, gyda brenhinoedd a’u cynghorwyr, y rhai fu’n codi palasau sydd bellach yn adfeilion; gydag arweinwyr oedd â digon o aur, ac wedi llenwi eu tai ag arian. Pam na ches i fy nghuddio fel erthyl marw, neu fabi wnaeth ddim gweld y golau? Yn y bedd mae holl brysurdeb pobl ddrwg wedi peidio, a’r gweithwyr oedd dan orthrwm yn cael gorffwys. Mae caethion yn cael ymlacio’n llwyr, heb lais y meistri gwaith yn gweiddi. Mae pobl fawr a chyffredin yno fel ei gilydd, a’r caethwas yn rhydd rhag ei feistr. Pam mae Duw’n rhoi golau i’r un sy’n dioddef, a bywyd i’r rhai sy’n chwerw eu hysbryd? Maen nhw’n ysu am gael marw, ond yn methu – yn chwilio am hynny yn fwy na thrysor cudd. Maen nhw’n hapus, ac yn dathlu’n llawen pan maen nhw’n cyrraedd y bedd. Pam rhoi bywyd i berson heb bwrpas, a’i gau i mewn rhag dianc o’i drybini? Yn lle bwyta dw i’n gwneud dim ond ochneidio; dw i’n griddfan ac yn beichio crio. Mae’r hyn oeddwn yn ei ofni wedi digwydd; yr hyn oedd yn peri arswyd wedi dod yn wir. Does gen i ddim llonydd, dim heddwch, dim gorffwys – dim ond trafferthion.”

Job 3:1-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Wedi hyn dechreuodd Job siarad a melltithio dydd ei eni. Meddai Job: “Difoder y dydd y'm ganwyd, a'r nos y dywedwyd, ‘Cenhedlwyd bachgen’. Bydded y dydd hwnnw yn dywyllwch; na chyfrifer ef gan Dduw oddi uchod, ac na lewyrched goleuni arno. Cuddier ef gan dywyllwch a'r fagddu; arhosed cwmwl arno a gorlether ef gan ddüwch y dydd. Cymered y gwyll feddiant o'r nos honno; na chyfrifer hi ymhlith dyddiau'r flwyddyn, ac na ddoed i blith nifer y misoedd. Wele'r nos honno, bydded ddiffrwyth, heb sŵn gorfoledd ynddi. Melltithier hi gan y rhai sy'n melltithio'r dyddiau, y rhai sy'n medru cyffroi'r lefiathan. Tywylled sêr ei chyfddydd, disgwylied am oleuni heb ei gael, ac na weled doriad gwawr, am na chaeodd ddrysau croth fy mam, na chuddio gofid o'm golwg. Pam na fûm farw yn y groth, neu drengi pan ddeuthum allan o'r bru? Pam y derbyniodd gliniau fi, ac y rhoddodd bronnau sugn i mi? Yna, byddwn yn awr yn gorwedd yn llonydd, yn cysgu'n dawel ac yn cael gorffwys, gyda brenhinoedd a chynghorwyr daear, a fu'n adfer adfeilion iddynt eu hunain, neu gyda thywysogion goludog, a lanwodd eu tai ag arian, neu heb fyw, fel erthyl a guddiwyd, fel babanod na welsant oleuni. Yno, peidia'r drygionus â therfysgu, a chaiff y lluddedig orffwys. Hefyd caiff y carcharorion lonyddwch; ni chlywant lais y meistri gwaith. Bychan a mawr sydd yno, a'r caethwas yn rhydd oddi wrth ei feistr. Pam y rhoddir goleuni i'r gorthrymedig a bywyd i'r chwerw ei ysbryd, sy'n dyheu am farwolaeth, heb iddi ddod, sy'n cloddio amdani yn fwy nag am drysor cudd, sy'n llawenychu pan gaiff feddrod, ac yn gorfoleddu pan gaiff fedd? “Ond am ddyn, cuddiwyd ei ffordd, a chaeodd Duw amdano. Daw fy ochenaid o flaen fy mwyd, a thywelltir fy ngriddfan fel dyfroedd. Y peth a ofnaf a ddaw arnaf, a'r hyn yr arswydaf rhagddo a ddaw imi. Nid oes imi dawelwch na llonyddwch; ni chaf orffwys, canys daw dychryn.”

Job 3:1-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Wedi hyn Job a agorodd ei enau, ac a felltithiodd ei ddydd. A Job a lefarodd, ac a ddywedodd, Darfydded am y dydd y’m ganwyd ynddo, a’r nos y dywedwyd, Enillwyd gwryw. Bydded y dydd hwnnw yn dywyllwch, a DUW oddi uchod heb ei ystyried; ac na thywynned llewyrch arno. Tywyllwch a chysgod marwolaeth a’i halogo, ac arhosed cwmwl arno; dued y diwrnod a’i dychryno. Y nos honno, tywyllwch a’i cymero; na chydier hi â dyddiau y flwyddyn, ac na ddeued i rifedi y misoedd. Bydded y noswaith honno yn unig, ac na fydded gorfoledd ynddi. A’r rhai a felltithiant y dydd, ac sydd barod i gyffroi eu galar, a’i melltithio hi. A bydded sêr ei chyfddydd hi yn dywyll: disgwylied am oleuni ac na fydded iddi; ac na chaffed weled y wawrddydd: Am na chaeodd ddrysau croth fy mam, ac na chuddiodd ofid oddi wrth fy llygaid. Paham na bûm farw o’r bru? na threngais pan ddeuthum allan o’r groth? Paham y derbyniodd gliniau fyfi? a phaham y cefais fronnau i sugno? Oherwydd yn awr mi a gawswn orwedd, a gorffwys, a huno: yna y buasai llonyddwch i mi. Gyda brenhinoedd a chynghorwyr y ddaear, y rhai a adeiladasant iddynt eu hunain fannau anghyfannedd; Neu gyda thywysogion ag aur ganddynt, y rhai a lanwasant eu tai ag arian; Neu fel erthyl cuddiedig, ni buaswn ddim; megis plant bychain heb weled goleuni. Yno yr annuwiolion a beidiant â’u cyffro; ac yno y gorffwys y rhai lluddedig. Y rhai a garcharwyd a gânt yno lonydd ynghyd; ni chlywant lais y gorthrymydd. Bychan a mawr sydd yno; a’r gwas a ryddhawyd oddi wrth ei feistr. Paham y rhoddir goleuni i’r hwn sydd mewn llafur, a bywyd i’r gofidus ei enaid? Y rhai sydd yn disgwyl am farwolaeth, ac heb ei chael; ac yn cloddio amdani yn fwy nag am drysorau cuddiedig? Y rhai a lawenychant mewn hyfrydwch, ac a orfoleddant, pan gaffont y bedd? Paham y rhoddir goleuni i’r dyn y mae ei ffordd yn guddiedig, ac y caeodd DUW arno? Oblegid o flaen fy mwyd y daw fy uchenaid; a’m rhuadau a dywelltir megis dyfroedd. Canys yr hyn a fawr ofnais a ddaeth arnaf, a’r hyn a arswydais a ddigwyddodd i mi. Ni chefais na llonydd nac esmwythdra, ac ni orffwysais: er hynny daeth cynnwrf.