Job 2:7-10
Job 2:7-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly dyma’r Satan yn mynd allan oddi wrth yr ARGLWYDD ac yn taro Job â briwiau cas o’i gorun i’w sawdl. A dyma Job yn cymryd darn o botyn i grafu ei friwiau, a mynd i eistedd yn y lludw ar y domen sbwriel. Ac meddai ei wraig wrtho, “Ti’n dal mor ffyddlon ag erioed, wyt ti? Melltithia Dduw, er mwyn i ti gael marw!” Ond atebodd Job hi, “Ti’n siarad fel y byddai gwraig ddwl, ddi-Dduw yn siarad! Dŷn ni’n derbyn popeth da gan Dduw; oni ddylen ni dderbyn y drwg hefyd?” Er gwaetha’r cwbl, wnaeth Job ddweud dim i bechu yn erbyn Duw.
Job 2:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ac aeth Satan allan o ŵydd yr ARGLWYDD. Trawyd Job â chornwydydd blin o wadn ei droed i'w gorun, a chymerodd ddarn o lestr pridd i'w grafu ei hun, ac eisteddodd ar y domen ludw. Dywedodd ei wraig wrtho, “A wyt am barhau i lynu wrth d'uniondeb? Melltithia Dduw a bydd farw.” Ond dywedodd ef wrthi, “Yr wyt yn llefaru fel dynes ffôl; os derbyniwn dda gan Dduw, oni dderbyniwn ddrwg hefyd?” Yn hyn i gyd ni phechodd Job â gair o'i enau.
Job 2:7-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Felly Satan a aeth allan oddi gerbron yr ARGLWYDD, ac a drawodd Job â chornwydydd blin, o wadn ei droed hyd ei gorun. Ac efe a gymerth gragen i ymgrafu â hi; ac a eisteddodd yn y lludw. Yna ei wraig a ddywedodd wrtho, A wyt ti eto yn parhau yn dy berffeithrwydd? melltithia DDUW, a bydd farw. Ond efe a ddywedodd wrthi, Lleferaist fel y llefarai un o’r ynfydion: a dderbyniwn ni gan DDUW yr hyn sydd dda, ac oni dderbyniwn yr hyn sydd ddrwg? Yn hyn i gyd ni phechodd Job â’i wefusau.