Job 2:4-10
Job 2:4-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Atebodd Satan yr ARGLWYDD a dweud, “Croen am groen! Fe rydd dyn y cyfan sydd ganddo am ei einioes. Ond estyn di dy law a chyffwrdd â'i esgyrn a'i gnawd; yna'n sicr fe'th felltithia yn dy wyneb.” Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, “Wele ef yn dy law; yn unig arbed ei einioes.” Ac aeth Satan allan o ŵydd yr ARGLWYDD. Trawyd Job â chornwydydd blin o wadn ei droed i'w gorun, a chymerodd ddarn o lestr pridd i'w grafu ei hun, ac eisteddodd ar y domen ludw. Dywedodd ei wraig wrtho, “A wyt am barhau i lynu wrth d'uniondeb? Melltithia Dduw a bydd farw.” Ond dywedodd ef wrthi, “Yr wyt yn llefaru fel dynes ffôl; os derbyniwn dda gan Dduw, oni dderbyniwn ddrwg hefyd?” Yn hyn i gyd ni phechodd Job â gair o'i enau.
Job 2:4-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Atebodd y Satan, “Croen am groen! – mae pobl yn fodlon colli popeth i achub eu bywydau! Petaet ti’n ei daro ag afiechyd a gwneud iddo ddioddef, byddai’n dy felltithio di yn dy wyneb!” Felly dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Edrych, gelli wneud beth bynnag wyt ti eisiau iddo; ond rhaid i ti ei gadw’n fyw.” Felly dyma’r Satan yn mynd allan oddi wrth yr ARGLWYDD ac yn taro Job â briwiau cas o’i gorun i’w sawdl. A dyma Job yn cymryd darn o botyn i grafu ei friwiau, a mynd i eistedd yn y lludw ar y domen sbwriel. Ac meddai ei wraig wrtho, “Ti’n dal mor ffyddlon ag erioed, wyt ti? Melltithia Dduw, er mwyn i ti gael marw!” Ond atebodd Job hi, “Ti’n siarad fel y byddai gwraig ddwl, ddi-Dduw yn siarad! Dŷn ni’n derbyn popeth da gan Dduw; oni ddylen ni dderbyn y drwg hefyd?” Er gwaetha’r cwbl, wnaeth Job ddweud dim i bechu yn erbyn Duw.
Job 2:4-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Satan a atebodd yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Croen am groen, a’r hyn oll sydd gan ŵr a ddyry efe am ei einioes. Eithr estyn yn awr dy law, a chyffwrdd â’i esgyrn ef ac â’i gnawd, ac efe a’th felltithia di o flaen dy wyneb. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Satan, Wele ef yn dy law di; eto cadw ei hoedl ef. Felly Satan a aeth allan oddi gerbron yr ARGLWYDD, ac a drawodd Job â chornwydydd blin, o wadn ei droed hyd ei gorun. Ac efe a gymerth gragen i ymgrafu â hi; ac a eisteddodd yn y lludw. Yna ei wraig a ddywedodd wrtho, A wyt ti eto yn parhau yn dy berffeithrwydd? melltithia DDUW, a bydd farw. Ond efe a ddywedodd wrthi, Lleferaist fel y llefarai un o’r ynfydion: a dderbyniwn ni gan DDUW yr hyn sydd dda, ac oni dderbyniwn yr hyn sydd ddrwg? Yn hyn i gyd ni phechodd Job â’i wefusau.