Job 2:11-13
Job 2:11-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan glywodd tri o ffrindiau Job am y trychinebau ofnadwy oedd wedi digwydd iddo, dyma nhw’n penderfynu mynd i’w weld. Y tri oedd Eliffas o Teman, Bildad o Shwach, a Soffar o Naamâ. Dyma nhw’n cyfarfod â’i gilydd, a mynd ato i gydymdeimlo a cheisio ei gysuro. Pan welon nhw e o bell, doedden nhw prin yn ei nabod, a dyma nhw’n dechrau wylo’n uchel. Dyma’r tri yn rhwygo’u dillad ac yn taflu pridd i’r awyr. Buon nhw’n eistedd gydag e ar lawr ddydd a nos am wythnos. Ddwedodd neb yr un gair wrtho, achos roedden nhw’n gweld ei fod e’n dioddef yn ofnadwy.
Job 2:11-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna clywodd tri chyfaill Job am y cystudd trwm a ddaeth arno. Daeth Eliffas y Temaniad, Bildad y Suhiad, a Soffar y Naamathiad, pob un o'i le ei hun, a chytuno â'i gilydd i ddod i gydymdeimlo ag ef a'i gysuro. Pan welsant ef o'r pellter, nid oeddent yn ei adnabod; yna wylasant yn uchel a rhwygo'u dillad a thaflu llwch dros eu pennau i'r awyr. Eisteddasant ar y llawr gydag ef am saith diwrnod a saith nos. Ni ddywedodd yr un ohonynt air wrtho, am eu bod yn gweld fod ei boen yn fawr.
Job 2:11-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan glybu tri chyfaill Job yr holl ddrwg yma a ddigwyddasai iddo ef, hwy a ddaethant bob un o’i fangre ei hun; Eliffas y Temaniad, a Bildad y Suhiad, a Soffar y Naamathiad: canys hwy a gytunasent i ddyfod i gydofidio ag ef, ac i’w gysuro. A phan ddyrchafasant eu llygaid o bell, ac heb ei adnabod ef, hwy a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant; rhwygasant hefyd bob un ei fantell, a thaenasant lwch ar eu pennau tua’r nefoedd. Felly hwy a eisteddasant gydag ef ar y ddaear saith niwrnod a saith noswaith; ac nid oedd neb a ddywedai air wrtho ef: canys gwelent fyned ei ddolur ef yn fawr iawn.