Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 2:1-13

Job 2:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Unwaith eto daeth y dydd i'r bodau nefol ymddangos o flaen yr ARGLWYDD, a daeth Satan hefyd gyda hwy. Gofynnodd yr ARGLWYDD i Satan, “O ble y daethost ti?” Atebodd Satan yr ARGLWYDD a dweud, “O fynd yma ac acw hyd y ddaear a thramwyo drosti.” Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, “A sylwaist ti ar fy ngwas Job? Nid oes neb tebyg iddo ar y ddaear, gŵr cywir ac uniawn, yn ofni Duw ac yn cefnu ar ddrwg. Y mae'n dal i lynu wrth ei uniondeb, er i ti fy annog i'w ddifetha'n ddiachos.” Atebodd Satan yr ARGLWYDD a dweud, “Croen am groen! Fe rydd dyn y cyfan sydd ganddo am ei einioes. Ond estyn di dy law a chyffwrdd â'i esgyrn a'i gnawd; yna'n sicr fe'th felltithia yn dy wyneb.” Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, “Wele ef yn dy law; yn unig arbed ei einioes.” Ac aeth Satan allan o ŵydd yr ARGLWYDD. Trawyd Job â chornwydydd blin o wadn ei droed i'w gorun, a chymerodd ddarn o lestr pridd i'w grafu ei hun, ac eisteddodd ar y domen ludw. Dywedodd ei wraig wrtho, “A wyt am barhau i lynu wrth d'uniondeb? Melltithia Dduw a bydd farw.” Ond dywedodd ef wrthi, “Yr wyt yn llefaru fel dynes ffôl; os derbyniwn dda gan Dduw, oni dderbyniwn ddrwg hefyd?” Yn hyn i gyd ni phechodd Job â gair o'i enau. Yna clywodd tri chyfaill Job am y cystudd trwm a ddaeth arno. Daeth Eliffas y Temaniad, Bildad y Suhiad, a Soffar y Naamathiad, pob un o'i le ei hun, a chytuno â'i gilydd i ddod i gydymdeimlo ag ef a'i gysuro. Pan welsant ef o'r pellter, nid oeddent yn ei adnabod; yna wylasant yn uchel a rhwygo'u dillad a thaflu llwch dros eu pennau i'r awyr. Eisteddasant ar y llawr gydag ef am saith diwrnod a saith nos. Ni ddywedodd yr un ohonynt air wrtho, am eu bod yn gweld fod ei boen yn fawr.

Job 2:1-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A dydd a ddaeth i feibion DUW ddyfod i sefyll gerbron yr ARGLWYDD; a Satan hefyd a ddaeth yn eu plith hwynt i sefyll gerbron yr ARGLWYDD. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Satan, O ba le yr ydwyt ti yn dyfod? A Satan a atebodd yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, O dramwy ar hyd y ddaear, ac o ymrodio ynddi. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Satan, A ddeliaist ti ar fy ngwas Job, nad oes gyffelyb iddo ar y ddaear, yn ŵr perffaith ac uniawn, yn ofni DUW, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni? ac yn parhau yn ei berffeithrwydd, er i ti fy annog i yn ei erbyn ef, i’w ddifa ef heb achos? A Satan a atebodd yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Croen am groen, a’r hyn oll sydd gan ŵr a ddyry efe am ei einioes. Eithr estyn yn awr dy law, a chyffwrdd â’i esgyrn ef ac â’i gnawd, ac efe a’th felltithia di o flaen dy wyneb. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Satan, Wele ef yn dy law di; eto cadw ei hoedl ef. Felly Satan a aeth allan oddi gerbron yr ARGLWYDD, ac a drawodd Job â chornwydydd blin, o wadn ei droed hyd ei gorun. Ac efe a gymerth gragen i ymgrafu â hi; ac a eisteddodd yn y lludw. Yna ei wraig a ddywedodd wrtho, A wyt ti eto yn parhau yn dy berffeithrwydd? melltithia DDUW, a bydd farw. Ond efe a ddywedodd wrthi, Lleferaist fel y llefarai un o’r ynfydion: a dderbyniwn ni gan DDUW yr hyn sydd dda, ac oni dderbyniwn yr hyn sydd ddrwg? Yn hyn i gyd ni phechodd Job â’i wefusau. A phan glybu tri chyfaill Job yr holl ddrwg yma a ddigwyddasai iddo ef, hwy a ddaethant bob un o’i fangre ei hun; Eliffas y Temaniad, a Bildad y Suhiad, a Soffar y Naamathiad: canys hwy a gytunasent i ddyfod i gydofidio ag ef, ac i’w gysuro. A phan ddyrchafasant eu llygaid o bell, ac heb ei adnabod ef, hwy a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant; rhwygasant hefyd bob un ei fantell, a thaenasant lwch ar eu pennau tua’r nefoedd. Felly hwy a eisteddasant gydag ef ar y ddaear saith niwrnod a saith noswaith; ac nid oedd neb a ddywedai air wrtho ef: canys gwelent fyned ei ddolur ef yn fawr iawn.