Job 11:6-10
Job 11:6-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
ac yn dangos i ti beth ydy doethineb go iawn! Mae dwy ochr i bob stori! Byddet ti’n gweld fod Duw yn dy gosbi lai nag wyt ti’n ei haeddu! Wyt ti’n meddwl dy fod yn deall hanfod Duw? Wyt ti wedi darganfod ffiniau i allu’r Un sy’n rheoli popeth? Mae’n uwch na’r nefoedd – beth alli di ei wneud? Mae’n ddyfnach nag Annwn – beth wyt ti’n ei wybod? Mae’n fwy na’r ddaear ac yn lletach na’r môr. Os ydy Duw’n dod heibio ac arestio rhywun, a mynd ag e i’r llys, pwy sy’n gallu ei rwystro?
Job 11:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
a hysbysu iti gyfrinachau doethineb, a bod dwy ochr i ddeall! Yna gwybydd fod Duw yn anghofio peth o'th gamwedd. A elli di ddarganfod dirgelwch Duw, neu gyrraedd at gyflawnder yr Hollalluog? Y mae'n uwch na'r nefoedd. Beth a wnei di? Y mae'n is na Sheol. Beth a wyddost ti? Y mae ei fesur yn hwy na'r ddaear, ac yn ehangach na'r môr. “Os daw ef heibio, i garcharu neu i alw llys barn, pwy a'i rhwystra?
Job 11:6-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A mynegi i ti ddirgeledigaethau doethineb, eu bod yn ddau cymaint â’r hyn sydd! Cydnebydd gan hynny i DDUW ofyn gennyt lai nag haeddai dy anwiredd. A elli di wrth chwilio gael gafael ar DDUW? a elli di gael yr Hollalluog hyd berffeithrwydd? Cyfuwch â’r nefoedd ydyw, beth a wnei di? dyfnach nag uffern yw, beth a elli di ei wybod? Mae ei fesur ef yn hwy na’r ddaear, ac yn lletach na’r môr. Os tyr efe ymaith, ac os carchara: os casgl ynghyd, pwy a’i rhwystra ef?