Job 1:9-11
Job 1:9-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Atebodd y Satan, “Ond mae dy addoli di yn fanteisiol iddo! Y ffaith ydy, rwyt ti wedi gosod ffens o’i gwmpas i’w amddiffyn, ac o gwmpas ei deulu a phopeth sydd ganddo. Ti’n gadael iddo lwyddo beth bynnag mae’n ei wneud. Mae ganddo ddigon o anifeiliaid i lenwi’r wlad i gyd! Ond petaet ti’n cymryd y cwbl oddi arno, byddai’n dy felltithio di yn dy wyneb!”
Job 1:9-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Atebodd Satan yr ARGLWYDD a dweud, “Ai'n ddiachos y mae Job yn ofni Duw? Oni warchodaist drosto ef a'i deulu a'i holl eiddo? Bendithiaist ei waith, a chynyddodd ei dda yn y tir. Ond estyn di dy law i gyffwrdd â dim o'i eiddo; yna'n sicr fe'th felltithia yn dy wyneb.”
Job 1:9-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna Satan a atebodd yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Ai yn ddiachos y mae Job yn ofni DUW? Oni chaeaist o’i amgylch ef, ac o amgylch ei dŷ, ac ynghylch yr hyn oll sydd eiddo oddi amgylch? ti a fendithiaist waith ei ddwylo ef, a’i dda ef a gynyddodd ar y ddaear. Eithr estyn yn awr dy law, a chyffwrdd â’r hyn oll sydd ganddo, ac efe a’th felltithia o flaen dy wyneb.