Ioan 9:35-41
Ioan 9:35-41 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Clywodd Iesu eu bod nhw wedi diarddel y dyn, ac ar ôl dod o hyd iddo, gofynnodd iddo, “Wyt ti’n credu ym Mab y Dyn?” “Pwy ydy hwnnw, syr?” meddai’r dyn. “Dwed wrtho i, er mwyn i mi gredu ynddo.” Dwedodd Iesu, “Rwyt ti wedi’i weld; fi sy’n siarad â ti ydy e.” Yna dwedodd y dyn, “Arglwydd, dw i’n credu,” a phlygu o’i flaen i’w addoli. Dwedodd Iesu, “Mae’r ffaith fy mod i wedi dod i’r byd yn arwain i farn. Mae’r rhai sy’n ddall yn cael gweld a’r rhai sy’n gweld yn cael eu dallu.” Roedd rhai o’r Phariseaid yno pan ddwedodd hyn, ac medden nhw, “Beth? Dŷn ni ddim yn ddall, ydyn ni?” Atebodd Iesu, “Petaech chi’n ddall, fyddech chi ddim yn euog o bechu; ond am eich bod yn honni eich bod yn gweld, dych chi’n euog, ac yn aros felly.
Ioan 9:35-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Clywodd Iesu eu bod wedi ei daflu allan, a phan gafodd hyd iddo gofynnodd iddo, “A wyt ti'n credu ym Mab y Dyn?” Atebodd yntau, “Pwy yw ef, syr, er mwyn imi gredu ynddo?” Meddai Iesu wrtho, “Yr wyt wedi ei weld ef. Yr un sy'n siarad â thi, hwnnw yw ef.” “Yr wyf yn credu, Arglwydd,” meddai'r dyn, gan ymgrymu o'i flaen. A dywedodd Iesu, “I farnu y deuthum i i'r byd hwn, er mwyn i'r rhai nad ydynt yn gweld gael gweld, ac i'r rhai sydd yn gweld fynd yn ddall.” Clywodd rhai o'r Phariseaid oedd yno gydag ef hyn, ac meddent wrtho, “A ydym ni hefyd yn ddall?” Atebodd Iesu hwy: “Pe baech yn ddall, ni byddai gennych bechod. Ond am eich bod yn awr yn dweud, ‘Yr ydym yn gweld’, y mae eich pechod yn aros.
Ioan 9:35-41 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Clybu yr Iesu ddarfod iddynt ei fwrw ef allan: a phan ei cafodd, efe a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn credu ym Mab Duw? Yntau a atebodd ac a ddywedodd, Pwy yw efe, O Arglwydd, fel y credwyf ynddo? A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a’i gwelaist ef; a’r hwn sydd yn ymddiddan â thi, hwnnw ydyw efe. Yntau a ddywedodd, Yr wyf fi yn credu, O Arglwydd. Ac efe a’i haddolodd ef. A’r Iesu a ddywedodd, I farn y deuthum i’r byd hwn; fel y gwelai’r rhai nid ydynt yn gweled, ac yr elai’r rhai sydd yn gweled yn ddeillion. A rhai o’r Phariseaid a oedd gydag ef, a glywsant y pethau hyn, ac a ddywedasant wrtho, Ydym ninnau hefyd yn ddeillion? Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Pe deillion fyddech, ni byddai arnoch bechod: eithr yn awr meddwch chwi, Yr ydym ni yn gweled; am hynny y mae eich pechod yn aros.