Ioan 9:35-38
Ioan 9:35-38 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Clywodd Iesu eu bod nhw wedi diarddel y dyn, ac ar ôl dod o hyd iddo, gofynnodd iddo, “Wyt ti’n credu ym Mab y Dyn?” “Pwy ydy hwnnw, syr?” meddai’r dyn. “Dwed wrtho i, er mwyn i mi gredu ynddo.” Dwedodd Iesu, “Rwyt ti wedi’i weld; fi sy’n siarad â ti ydy e.” Yna dwedodd y dyn, “Arglwydd, dw i’n credu,” a phlygu o’i flaen i’w addoli.
Ioan 9:35-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Clywodd Iesu eu bod wedi ei daflu allan, a phan gafodd hyd iddo gofynnodd iddo, “A wyt ti'n credu ym Mab y Dyn?” Atebodd yntau, “Pwy yw ef, syr, er mwyn imi gredu ynddo?” Meddai Iesu wrtho, “Yr wyt wedi ei weld ef. Yr un sy'n siarad â thi, hwnnw yw ef.” “Yr wyf yn credu, Arglwydd,” meddai'r dyn, gan ymgrymu o'i flaen.
Ioan 9:35-38 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Clybu yr Iesu ddarfod iddynt ei fwrw ef allan: a phan ei cafodd, efe a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn credu ym Mab Duw? Yntau a atebodd ac a ddywedodd, Pwy yw efe, O Arglwydd, fel y credwyf ynddo? A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a’i gwelaist ef; a’r hwn sydd yn ymddiddan â thi, hwnnw ydyw efe. Yntau a ddywedodd, Yr wyf fi yn credu, O Arglwydd. Ac efe a’i haddolodd ef.