Ioan 9:18-25
Ioan 9:18-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond roedd yr arweinwyr Iddewig yn gwrthod credu ei fod wedi bod yn ddall nes i’w rieni ddod yno. “Ai eich mab chi ydy hwn?” medden nhw. “Gafodd e ei eni’n ddall? Ac os felly, sut mae e’n gallu gweld nawr?” “Ein mab ni ydy e”, atebodd y rhieni, “a dŷn ni’n gwybod ei fod wedi cael ei eni’n ddall. Ond does gynnon ni ddim syniad sut mae’n gallu gweld bellach, na phwy wnaeth iddo allu gweld. Gofynnwch iddo fe. Mae’n ddigon hen! Gall siarad drosto’i hun.” (Y rheswm pam roedd ei rieni’n ymateb fel hyn oedd am fod arnyn nhw ofn yr arweinwyr Iddewig. Roedd yr awdurdodau Iddewig wedi cytuno y byddai unrhyw un fyddai’n cyffesu mai Iesu oedd y Meseia yn cael ei ddiarddel o’r synagog. Felly dyna pam ddwedodd y rhieni, “Mae’n ddigon hen. Gofynnwch iddo fe.”) Dyma nhw’n galw’r dyn oedd wedi bod yn ddall o’u blaenau am yr ail waith, ac medden nhw wrtho, “Dywed y gwir o flaen Duw. Dŷn ni’n gwybod fod y dyn wnaeth dy iacháu di yn bechadur.” Atebodd e, “Wn i ddim os ydy e’n bechadur a’i peidio, ond dw i’n hollol sicr o un peth – roeddwn i’n ddall, a bellach dw i’n gallu gweld!”
Ioan 9:18-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwrthododd yr Iddewon gredu amdano iddo fod yn ddall a derbyn ei olwg, nes iddynt alw rhieni'r dyn a'u holi hwy: “Ai hwn yw eich mab chwi? A ydych chwi'n dweud ei fod wedi ei eni'n ddall? Sut felly y mae'n gweld yn awr?” Atebodd ei rieni, “Fe wyddom mai hwn yw ein mab a'i fod wedi ei eni'n ddall. Ond ni wyddom sut y mae'n gweld yn awr, ac ni wyddom pwy a agorodd ei lygaid. Gofynnwch iddo ef. Y mae'n ddigon hen. Caiff ateb drosto'i hun.” Atebodd ei rieni fel hyn am fod arnynt ofn yr Iddewon, oherwydd yr oedd yr Iddewon eisoes wedi cytuno bod unrhyw un a fyddai'n cyffesu Iesu fel Meseia i gael ei dorri allan o'r synagog. Dyna pam y dywedodd ei rieni, “Y mae'n ddigon hen. Gofynnwch iddo ef.” Yna galwasant atynt am yr ail waith y dyn a fu'n ddall, ac meddent wrtho, “Dywed y gwir gerbron Duw. Fe wyddom ni mai pechadur yw'r dyn hwn.” Atebodd yntau, “Ni wn i a yw'n bechadur ai peidio. Un peth a wn i: roeddwn i'n ddall, ac yn awr rwyf yn gweld.”
Ioan 9:18-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am hynny ni chredai’r Iddewon amdano ef, mai dall fuasai, a chael ohono ef ei olwg, nes galw ohonynt ei rieni ef, yr hwn a gawsai ei olwg. A hwy a ofynasant iddynt, gan ddywedyd, Ai hwn yw eich mab chwi, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd ei eni yn ddall? pa fodd gan hynny y mae efe yn gweled yn awr? Ei rieni ef a atebasant iddynt hwy, ac a ddywedasant, Nyni a wyddom mai hwn yw ein mab ni, ac mai yn ddall y ganwyd ef: Ond pa fodd y mae efe yn gweled yr awron, nis gwyddom ni; neu pwy a agorodd ei lygaid ef, nis gwyddom ni: y mae efe mewn oedran; gofynnwch iddo ef: efe a ddywed amdano’i hun. Hyn a ddywedodd ei rieni ef, am eu bod yn ofni’r Iddewon: oblegid yr Iddewon a gydordeiniasent eisoes, os cyfaddefai neb ef yn Grist, y bwrid ef allan o’r synagog. Am hynny y dywedodd ei rieni ef, Y mae efe mewn oedran; gofynnwch iddo ef. Am hynny hwy a alwasant eilwaith y dyn a fuasai yn ddall, ac a ddywedasant wrtho, Dyro’r gogoniant i Dduw: nyni a wyddom mai pechadur yw’r dyn hwn. Yna yntau a atebodd ac a ddywedodd, Ai pechadur yw, nis gwn i: un peth a wn i, lle yr oeddwn i yn ddall, yr wyf fi yn awr yn gweled.