Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 9:1-25

Ioan 9:1-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Wrth fynd ar ei daith, gwelodd Iesu ddyn dall o'i enedigaeth. Gofynnodd ei ddisgyblion iddo, “Rabbi, pwy a bechodd, ai hwn ynteu ei rieni, i beri iddo gael ei eni'n ddall?” Atebodd Iesu, “Ni phechodd hwn na'i rieni chwaith, ond fe amlygir gweithredoedd Duw ynddo ef. Y mae'n rhaid i ni gyflawni gweithredoedd yr hwn a'm hanfonodd i tra mae hi'n ddydd. Y mae'r nos yn dod, pan na all neb weithio. Tra byddaf yn y byd, goleuni'r byd ydwyf.” Wedi dweud hyn poerodd ar y llawr a gwneud clai o'r poeryn; yna irodd lygaid y dyn â'r clai, ac meddai wrtho, “Dos i ymolchi ym mhwll Siloam” (enw a gyfieithir Anfonedig). Aeth y dyn yno ac ymolchi, a phan ddaeth yn ôl yr oedd yn gweld. Dyma'i gymdogion, felly, a'r bobl oedd wedi arfer o'r blaen ei weld fel cardotyn, yn dweud, “Onid hwn yw'r dyn fyddai'n eistedd i gardota?” Meddai rhai, “Hwn yw ef.” “Na,” meddai eraill, “ond y mae'n debyg iddo.” Ac meddai'r dyn ei hun, “Myfi yw ef.” Gofynasant iddo felly, “Sut yr agorwyd dy lygaid di?” Atebodd yntau, “Y dyn a elwir Iesu a wnaeth glai ac iro fy llygaid a dweud wrthyf, ‘Dos i Siloam i ymolchi.’ Ac wedi imi fynd yno ac ymolchi, cefais fy ngolwg.” Gofynasant iddo, “Ble mae ef?” “Ni wn i,” meddai yntau. Aethant â'r dyn oedd wedi bod gynt yn ddall at y Phariseaid. Yr oedd yn Saboth y dydd hwnnw pan wnaeth Iesu glai ac agor llygaid y dyn. A dyma'r Phariseaid yn gofyn iddo eto sut yr oedd wedi cael ei olwg. Ac meddai wrthynt, “Rhoddodd glai ar fy llygaid ac ymolchais, a dyma fi'n gweld.” Felly dywedodd rhai o'r Phariseaid, “Nid yw'r dyn hwn o Dduw; nid yw'n cadw'r Saboth.” Ond meddai eraill, “Sut y gall dyn sy'n bechadur wneud y fath arwyddion?” Ac yr oedd ymraniad yn eu plith, a dyma hwy'n gofyn eto i'r dyn dall, “Beth sydd gennyt ti i'w ddweud amdano ef, gan iddo agor dy lygaid di?” Atebodd yntau, “Proffwyd yw ef.” Gwrthododd yr Iddewon gredu amdano iddo fod yn ddall a derbyn ei olwg, nes iddynt alw rhieni'r dyn a'u holi hwy: “Ai hwn yw eich mab chwi? A ydych chwi'n dweud ei fod wedi ei eni'n ddall? Sut felly y mae'n gweld yn awr?” Atebodd ei rieni, “Fe wyddom mai hwn yw ein mab a'i fod wedi ei eni'n ddall. Ond ni wyddom sut y mae'n gweld yn awr, ac ni wyddom pwy a agorodd ei lygaid. Gofynnwch iddo ef. Y mae'n ddigon hen. Caiff ateb drosto'i hun.” Atebodd ei rieni fel hyn am fod arnynt ofn yr Iddewon, oherwydd yr oedd yr Iddewon eisoes wedi cytuno bod unrhyw un a fyddai'n cyffesu Iesu fel Meseia i gael ei dorri allan o'r synagog. Dyna pam y dywedodd ei rieni, “Y mae'n ddigon hen. Gofynnwch iddo ef.” Yna galwasant atynt am yr ail waith y dyn a fu'n ddall, ac meddent wrtho, “Dywed y gwir gerbron Duw. Fe wyddom ni mai pechadur yw'r dyn hwn.” Atebodd yntau, “Ni wn i a yw'n bechadur ai peidio. Un peth a wn i: roeddwn i'n ddall, ac yn awr rwyf yn gweld.”

Ioan 9:1-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Un diwrnod roedd Iesu’n pasio heibio, a gwelodd ddyn oedd wedi bod yn ddall ers iddo gael ei eni. Gofynnodd y disgyblion iddo, “Rabbi, pwy wnaeth bechu i achosi i’r dyn yma gael ei eni’n ddall – fe ei hun, neu ei rieni?” “Dim ei bechod e na phechod ei rieni sy’n gyfrifol,” meddai Iesu. “Digwyddodd er mwyn i allu Duw gael ei arddangos yn ei fywyd. Tra mae hi’n dal yn olau dydd, rhaid i ni wneud gwaith yr un sydd wedi fy anfon i. Mae’r nos yn dod, pan fydd neb yn gallu gweithio. Tra dw i yn y byd, fi ydy golau’r byd.” Ar ôl dweud hyn, poerodd ar lawr a gwneud mwd allan o’r poeryn, ac wedyn ei rwbio ar lygaid y dyn dall. Yna meddai wrtho, “Dos i ymolchi i Bwll Siloam” (enw sy’n golygu ‘Anfonwyd’). Felly aeth y dyn i ymolchi, a phan ddaeth yn ôl roedd yn gallu gweld! Dyma’i gymdogion a phawb oedd wedi’i weld o’r blaen yn cardota yn gofyn, “Onid hwn ydy’r dyn oedd yn arfer cardota?” Roedd rhai yn dweud “Ie”, ac eraill yn dweud, “Nage – er, mae’n debyg iawn iddo.” Ond dyma’r dyn ei hun yn dweud, “Ie, fi ydy e.” “Ond, sut wyt ti’n gallu gweld?” medden nhw. “Y dyn maen nhw’n ei alw’n Iesu wnaeth fwd a’i rwbio ar fy llygaid,” meddai. “Yna dwedodd wrtho i am fynd i Siloam i ymolchi. A dyna wnes i. Ar ôl i mi ymolchi roeddwn i’n gallu gweld!” “Ble mae e?” medden nhw. “Wn i ddim,” meddai. Dyma nhw’n mynd â’r dyn oedd wedi bod yn ddall at y Phariseaid. Roedd hi’n ddydd Saboth Iddewig pan oedd Iesu wedi gwneud y mwd i iacháu’r dyn. Felly dyma’r Phariseaid hefyd yn dechrau holi’r dyn sut roedd e’n gallu gweld. Atebodd y dyn, “Rhoddodd fwd ar fy llygaid, es i ymolchi, a dw i’n gweld.” Meddai rhai o’r Phariseaid, “All e ddim bod yn negesydd Duw; dydy e ddim yn cadw rheolau’r Saboth.” Ond roedd eraill yn dweud, “Sut mae rhywun sy’n bechadur cyffredin yn gallu gwneud y fath arwyddion gwyrthiol?” Felly roedden nhw’n anghytuno â’i gilydd. Yn y diwedd dyma nhw’n troi at y dyn dall eto, “Beth sydd gen ti i’w ddweud amdano? Dy lygaid di agorodd e.” Atebodd y dyn, “Mae’n rhaid ei fod yn broffwyd.” Ond roedd yr arweinwyr Iddewig yn gwrthod credu ei fod wedi bod yn ddall nes i’w rieni ddod yno. “Ai eich mab chi ydy hwn?” medden nhw. “Gafodd e ei eni’n ddall? Ac os felly, sut mae e’n gallu gweld nawr?” “Ein mab ni ydy e”, atebodd y rhieni, “a dŷn ni’n gwybod ei fod wedi cael ei eni’n ddall. Ond does gynnon ni ddim syniad sut mae’n gallu gweld bellach, na phwy wnaeth iddo allu gweld. Gofynnwch iddo fe. Mae’n ddigon hen! Gall siarad drosto’i hun.” (Y rheswm pam roedd ei rieni’n ymateb fel hyn oedd am fod arnyn nhw ofn yr arweinwyr Iddewig. Roedd yr awdurdodau Iddewig wedi cytuno y byddai unrhyw un fyddai’n cyffesu mai Iesu oedd y Meseia yn cael ei ddiarddel o’r synagog. Felly dyna pam ddwedodd y rhieni, “Mae’n ddigon hen. Gofynnwch iddo fe.”) Dyma nhw’n galw’r dyn oedd wedi bod yn ddall o’u blaenau am yr ail waith, ac medden nhw wrtho, “Dywed y gwir o flaen Duw. Dŷn ni’n gwybod fod y dyn wnaeth dy iacháu di yn bechadur.” Atebodd e, “Wn i ddim os ydy e’n bechadur a’i peidio, ond dw i’n hollol sicr o un peth – roeddwn i’n ddall, a bellach dw i’n gallu gweld!”

Ioan 9:1-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac wrth fyned heibio, efe a ganfu ddyn dall o’i enedigaeth. A’i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Rabbi, pwy a bechodd, ai hwn, ai ei rieni, fel y genid ef yn ddall? Yr Iesu a atebodd, Nid hwn a bechodd, na’i rieni chwaith: eithr fel yr amlygid gweithredoedd Duw ynddo ef. Rhaid i mi weithio gwaith yr hwn a’m hanfonodd, tra ydyw hi yn ddydd: y mae’r nos yn dyfod, pan na ddichon neb weithio. Tra ydwyf yn y byd, goleuni’r byd ydwyf. Wedi iddo ef ddywedyd hyn, efe a boerodd ar lawr, ac a wnaeth glai o’r poeryn, ac a irodd y clai ar lygaid y dall; Ac a ddywedodd wrtho, Dos, ac ymolch yn llyn Siloam, (yr hwn a gyfieithir, Anfonedig). Am hynny efe a aeth ymaith, ac a ymolchodd, ac a ddaeth yn gweled. Y cymdogion gan hynny, a’r rhai a’i gwelsent ef o’r blaen, mai dall oedd efe, a ddywedasant, Onid hwn yw’r un oedd yn eistedd ac yn cardota? Rhai a ddywedasant, Hwn yw efe: ac eraill, Y mae efe yn debyg iddo. Yntau a ddywedodd, Myfi yw efe. Am hynny y dywedasant wrtho, Pa fodd yr agorwyd dy lygaid di? Yntau a atebodd ac a ddywedodd, Dyn a elwir Iesu, a wnaeth glai, ac a irodd fy llygaid i; ac a ddywedodd wrthyf, Dos i lyn Siloam, ac ymolch. Ac wedi i mi fyned ac ymolchi, mi a gefais fy ngolwg. Yna y dywedasant wrtho, Pa le y mae efe? Yntau a ddywedodd, Ni wn i. Hwythau a’i dygasant ef at y Phariseaid, yr hwn gynt a fuasai yn ddall. A’r Saboth oedd hi pan wnaeth yr Iesu y clai, a phan agorodd efe ei lygaid ef. Am hynny y Phariseaid hefyd a ofynasant iddo drachefn, pa fodd y cawsai efe ei olwg. Yntau a ddywedodd wrthynt, Clai a osododd efe ar fy llygaid i, a mi a ymolchais, ac yr ydwyf yn gweled. Yna rhai o’r Phariseaid a ddywedasant, Nid yw’r dyn hwn o Dduw, gan nad yw efe yn cadw’r Saboth. Eraill a ddywedasant, Pa fodd y gall dyn pechadurus wneuthur y cyfryw arwyddion? Ac yr oedd ymrafael yn eu plith. Hwy a ddywedasant drachefn wrth y dall, Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd amdano ef, am agoryd ohono dy lygaid di? Yntau a ddywedodd, Mai proffwyd yw efe. Am hynny ni chredai’r Iddewon amdano ef, mai dall fuasai, a chael ohono ef ei olwg, nes galw ohonynt ei rieni ef, yr hwn a gawsai ei olwg. A hwy a ofynasant iddynt, gan ddywedyd, Ai hwn yw eich mab chwi, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd ei eni yn ddall? pa fodd gan hynny y mae efe yn gweled yn awr? Ei rieni ef a atebasant iddynt hwy, ac a ddywedasant, Nyni a wyddom mai hwn yw ein mab ni, ac mai yn ddall y ganwyd ef: Ond pa fodd y mae efe yn gweled yr awron, nis gwyddom ni; neu pwy a agorodd ei lygaid ef, nis gwyddom ni: y mae efe mewn oedran; gofynnwch iddo ef: efe a ddywed amdano’i hun. Hyn a ddywedodd ei rieni ef, am eu bod yn ofni’r Iddewon: oblegid yr Iddewon a gydordeiniasent eisoes, os cyfaddefai neb ef yn Grist, y bwrid ef allan o’r synagog. Am hynny y dywedodd ei rieni ef, Y mae efe mewn oedran; gofynnwch iddo ef. Am hynny hwy a alwasant eilwaith y dyn a fuasai yn ddall, ac a ddywedasant wrtho, Dyro’r gogoniant i Dduw: nyni a wyddom mai pechadur yw’r dyn hwn. Yna yntau a atebodd ac a ddywedodd, Ai pechadur yw, nis gwn i: un peth a wn i, lle yr oeddwn i yn ddall, yr wyf fi yn awr yn gweled.