Ioan 8:58-59
Ioan 8:58-59 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Atebodd Iesu, “Credwch chi fi – dw i’n bodoli ers cyn i Abraham gael ei eni.” Pan ddwedodd hyn, dyma nhw’n codi cerrig i’w taflu ato, ond cuddiodd Iesu ei hun, a llithro allan o’r deml.
Rhanna
Darllen Ioan 8Ioan 8:58-59 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd Iesu wrthynt, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, cyn geni Abraham, yr wyf fi.” Yna codasant gerrig i'w taflu ato. Ond aeth Iesu o'u golwg, ac allan o'r deml.
Rhanna
Darllen Ioan 8Ioan 8:58-59 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Cyn bod Abraham, yr wyf fi. Yna hwy a godasant gerrig i’w taflu ato ef. A’r Iesu a ymguddiodd, ac a aeth allan o’r deml, gan fyned trwy eu canol hwynt: ac felly yr aeth efe heibio.
Rhanna
Darllen Ioan 8