Ioan 8:55-58
Ioan 8:55-58 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Ond dych chi ddim wedi dechrau dod i’w nabod; dw i yn ei nabod e’n iawn. Petawn i’n dweud mod i ddim yn ei nabod e, byddwn innau’n gelwyddog fel chi. Dw i yn ei nabod e ac yn gwneud beth mae’n ei ddangos i mi. Roedd Abraham, eich tad, yn gorfoleddu wrth feddwl y câi weld yr amser pan fyddwn i’n dod; fe’i gwelodd, ac roedd wrth ei fodd.” “Ti ddim yn hanner cant eto!” meddai’r arweinwyr Iddewig wrtho, “Wyt ti’n honni dy fod di wedi gweld Abraham?” Atebodd Iesu, “Credwch chi fi – dw i’n bodoli ers cyn i Abraham gael ei eni.”
Ioan 8:55-58 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Nid ydych yn ei adnabod, ond yr wyf fi'n ei adnabod. Pe bawn yn dweud nad wyf yn ei adnabod, byddwn yn gelwyddog fel chwithau. Ond yr wyf yn ei adnabod, ac yr wyf yn cadw ei air ef. Gorfoleddu a wnaeth eich tad Abraham o weld fy nydd i; fe'i gwelodd, a llawenhau.” Yna meddai'r Iddewon wrtho, “Nid wyt ti'n hanner cant oed eto. A wyt ti wedi gweld Abraham?” Dywedodd Iesu wrthynt, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, cyn geni Abraham, yr wyf fi.”
Ioan 8:55-58 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond nid adnabuoch chwi ef: eithr myfi a’i hadwaen ef. Ac os dywedaf nad adwaen ef, myfi a fyddaf debyg i chwi, yn gelwyddog: ond mi a’i hadwaen ef, ac yr wyf yn cadw ei ymadrodd ef. Gorfoledd oedd gan eich tad Abraham weled fy nydd i: ac efe a’i gwelodd hefyd, ac a lawenychodd. Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho, Nid wyt ti ddengmlwydd a deugain eto, ac a welaist ti Abraham? Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Cyn bod Abraham, yr wyf fi.