Ioan 8:48-59
Ioan 8:48-59 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Y Samariad ddiawl!” medden nhw, “Dŷn ni’n iawn. Mae cythraul ynot ti!” “Fi? Does gen i ddim cythraul,” meddai Iesu, “Beth dw i’n ei wneud ydy anrhydeddu fy Nhad, a dych chi’n fy sarhau i. Dw i ddim yn edrych am glod i mi fy hun; ond mae un sy’n ei geisio, a fe ydy’r un sy’n barnu. Credwch chi fi – fydd pwy bynnag sy’n dal gafael yn yr hyn dw i wedi’i ddysgu iddyn nhw byth yn gweld marwolaeth.” Pan ddwedodd hyn dyma’r arweinwyr Iddewig yn gweiddi, “Mae’n gwbl amlwg fod cythraul ynot ti! Buodd Abraham farw, a’r proffwydi hefyd, a dyma ti’n honni y bydd y rhai sy’n dal gafael yn yr hyn rwyt ti’n ei ddysgu ddim yn marw. Wyt ti’n fwy o ddyn nag Abraham, tad y genedl? Buodd e farw, a’r proffwydi hefyd! Pwy wyt ti’n feddwl wyt ti?” Atebodd Iesu, “Os dw i’n canmol fy hun, dydy’r clod yna’n golygu dim byd. Fy Nhad sy’n fy nghanmol i, yr un dych chi’n hawlio ei fod yn Dduw i chi. Ond dych chi ddim wedi dechrau dod i’w nabod; dw i yn ei nabod e’n iawn. Petawn i’n dweud mod i ddim yn ei nabod e, byddwn innau’n gelwyddog fel chi. Dw i yn ei nabod e ac yn gwneud beth mae’n ei ddangos i mi. Roedd Abraham, eich tad, yn gorfoleddu wrth feddwl y câi weld yr amser pan fyddwn i’n dod; fe’i gwelodd, ac roedd wrth ei fodd.” “Ti ddim yn hanner cant eto!” meddai’r arweinwyr Iddewig wrtho, “Wyt ti’n honni dy fod di wedi gweld Abraham?” Atebodd Iesu, “Credwch chi fi – dw i’n bodoli ers cyn i Abraham gael ei eni.” Pan ddwedodd hyn, dyma nhw’n codi cerrig i’w taflu ato, ond cuddiodd Iesu ei hun, a llithro allan o’r deml.
Ioan 8:48-59 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Atebodd yr Iddewon ef, “Onid ydym ni'n iawn wrth ddweud, ‘Samariad wyt ti, ac y mae cythraul ynot’?” Atebodd Iesu, “Nid oes cythraul ynof; parchu fy Nhad yr wyf fi, a chwithau'n fy amharchu i. Nid wyf fi'n ceisio fy ngogoniant fy hun, ond y mae un sydd yn ei geisio, ac ef sy'n barnu. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, os bydd rhywun yn cadw fy ngair i, ni wêl farwolaeth byth.” Meddai'r Iddewon wrtho, “Yr ydym yn gwybod yn awr fod cythraul ynot. Bu Abraham farw, a'r proffwydi hefyd, a dyma ti'n dweud, ‘Os bydd rhywun yn cadw fy ngair i, ni chaiff brofi blas marwolaeth byth.’ A wyt ti'n fwy na'n tad ni, Abraham? Bu ef farw, a bu'r proffwydi farw. Pwy yr wyt ti'n dy gyfrif dy hun?” Atebodd Iesu, “Os fy ngogoneddu fy hun yr wyf fi, nid yw fy ngogoniant yn ddim. Fy Nhad sydd yn fy ngogoneddu, yr un yr ydych chwi'n dweud amdano, ‘Ef yw ein Duw ni.’ Nid ydych yn ei adnabod, ond yr wyf fi'n ei adnabod. Pe bawn yn dweud nad wyf yn ei adnabod, byddwn yn gelwyddog fel chwithau. Ond yr wyf yn ei adnabod, ac yr wyf yn cadw ei air ef. Gorfoleddu a wnaeth eich tad Abraham o weld fy nydd i; fe'i gwelodd, a llawenhau.” Yna meddai'r Iddewon wrtho, “Nid wyt ti'n hanner cant oed eto. A wyt ti wedi gweld Abraham?” Dywedodd Iesu wrthynt, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, cyn geni Abraham, yr wyf fi.” Yna codasant gerrig i'w taflu ato. Ond aeth Iesu o'u golwg, ac allan o'r deml.
Ioan 8:48-59 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna yr atebodd yr Iddewon, ac y dywedasant wrtho ef, Onid da yr ydym ni yn dywedyd, mai Samaritan wyt ti, a bod gennyt gythraul? Yr Iesu a atebodd, Nid oes gennyf gythraul; ond yr wyf fi yn anrhydeddu fy Nhad, ac yr ydych chwithau yn fy nianrhydeddu innau. Ac nid wyf fi yn ceisio fy ngogoniant fy hun: y mae a’i cais, ac a farn. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Os ceidw neb fy ymadrodd i, ni wêl efe farwolaeth yn dragywydd. Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho, Yr awron y gwyddom fod gennyt gythraul. Bu Abraham farw, a’r proffwydi; ac meddi di, Os ceidw neb fy ymadrodd i, nid archwaetha efe farwolaeth yn dragywydd. Ai mwy wyt ti nag Abraham ein tad ni, yr hwn a fu farw? a’r proffwydi a fuant feirw: pwy yr wyt ti yn dy wneuthur dy hun? Yr Iesu a atebodd, Os wyf fi yn fy ngogoneddu fy hun, fy ngogoniant i nid yw ddim: fy Nhad yw’r hwn sydd yn fy ngogoneddu i, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd, mai eich Duw chwi yw. Ond nid adnabuoch chwi ef: eithr myfi a’i hadwaen ef. Ac os dywedaf nad adwaen ef, myfi a fyddaf debyg i chwi, yn gelwyddog: ond mi a’i hadwaen ef, ac yr wyf yn cadw ei ymadrodd ef. Gorfoledd oedd gan eich tad Abraham weled fy nydd i: ac efe a’i gwelodd hefyd, ac a lawenychodd. Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho, Nid wyt ti ddengmlwydd a deugain eto, ac a welaist ti Abraham? Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Cyn bod Abraham, yr wyf fi. Yna hwy a godasant gerrig i’w taflu ato ef. A’r Iesu a ymguddiodd, ac a aeth allan o’r deml, gan fyned trwy eu canol hwynt: ac felly yr aeth efe heibio.