Ioan 8:42-47
Ioan 8:42-47 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Ond petai Duw yn Dad i chi,” meddai Iesu, “byddech chi’n fy ngharu i, am fy mod i wedi dod yma oddi wrth Dduw. Dw i ddim wedi dod ar fy liwt fy hun; Duw sydd wedi fy anfon i. Pam nad ydy be dw i’n ddweud yn gwneud sens i chi? Am eich bod yn methu clywed y neges sydd gen i. Y diafol ydy eich tad chi, a dych chi am wneud beth mae’ch tad eisiau. Llofrudd oedd e o’r dechrau, heb lynu wrth y gwir, am fod dim lle i’r gwir ynddo. Pan mae’n dweud celwydd, mae’n siarad ei famiaith! Celwyddgi ydy e! Tad pob celwydd! Ond dw i’n dweud y gwir, felly dych chi ddim yn fy nghredu i! Oes unrhyw un ohonoch chi’n gallu profi mod i’n euog o bechu? Felly os dw i’n dweud y gwir pam dych chi’n gwrthod credu? Mae pwy bynnag sy’n perthyn i Dduw yn gwrando ar beth mae Duw yn ei ddweud. Y rheswm pam dych chi ddim yn gwrando ydy am eich bod chi ddim yn perthyn i Dduw.”
Ioan 8:42-47 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Meddai Iesu wrthynt, “Petai Duw yn dad i chwi, byddech yn fy ngharu i, oherwydd oddi wrth Dduw y deuthum allan a dod yma. Nid wyf wedi dod ohonof fy hun, ond ef a'm hanfonodd. Pam nad ydych yn deall yr hyn yr wyf yn ei ddweud? Am nad ydych yn gallu gwrando ar fy ngair i. Plant ydych chwi i'ch tad, y diafol, ac yr ydych â'ch bryd ar gyflawni dymuniadau eich tad. Llofrudd oedd ef o'r cychwyn; nid yw'n sefyll yn y gwirionedd, oherwydd nid oes dim gwirionedd ynddo. Pan fydd yn dweud celwydd, datguddio'i natur ei hun y mae, oherwydd un celwyddog yw ef, a thad pob celwydd. Ond yr wyf fi'n dweud y gwirionedd, ac am hynny nid ydych yn fy nghredu. Pwy ohonoch chwi sydd am brofi fy mod i'n euog o bechod? Os wyf yn dweud y gwir, pam nad ydych chwi yn fy nghredu? Y mae'r sawl sydd o Dduw yn gwrando geiriau Duw. Nid ydych chwi o Dduw, a dyna pam nad ydych yn gwrando.”
Ioan 8:42-47 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy, Pe Duw fyddai eich Tad, chwi a’m carech i: canys oddi wrth Dduw y deilliais, ac y deuthum i; oblegid nid ohonof fy hun y deuthum i, ond efe a’m hanfonodd i. Paham nad ydych yn deall fy lleferydd i? am na ellwch wrando fy ymadrodd i. O’ch tad diafol yr ydych chwi, a thrachwantau eich tad a fynnwch chwi eu gwneuthur. Lleiddiad dyn oedd efe o’r dechreuad; ac ni safodd yn y gwirionedd, oblegid nid oes gwirionedd ynddo ef. Pan yw yn dywedyd celwydd, o’r eiddo ei hun y mae yn dywedyd: canys y mae yn gelwyddog, ac yn dad iddo. Ac am fy mod i yn dywedyd y gwirionedd, nid ydych yn credu i mi. Pwy ohonoch a’m hargyhoedda i o bechod? Ac od wyf fi yn dywedyd y gwir, paham nad ydych yn credu i mi? Y mae’r hwn sydd o Dduw, yn gwrando geiriau Duw: am hynny nid ydych chwi yn eu gwrando, am nad ydych o Dduw.