Ioan 8:34-36
Ioan 8:34-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Atebodd Iesu hwy, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych fod pob un sy'n cyflawni pechod yn gaethwas i bechod. Ac nid oes gan y caethwas le arhosol yn y tŷ, ond y mae'r mab yn aros am byth. Felly os yw'r Mab yn eich rhyddhau chwi, byddwch yn rhydd mewn gwirionedd.
Rhanna
Darllen Ioan 8Ioan 8:34-36 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Atebodd Iesu, “Credwch chi fi, mae pawb sy’n pechu wedi’i gaethiwo gan bechod. Dydy caethwas ddim yn perthyn i’r teulu mae’n ei wasanaethu, ond mae mab yn perthyn am byth. Felly os ydy’r Mab yn eich rhyddhau chi byddwch yn rhydd go iawn.
Rhanna
Darllen Ioan 8Ioan 8:34-36 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr Iesu a atebodd iddynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pwy bynnag sydd yn gwneuthur pechod, y mae efe yn was i bechod. Ac nid yw’r gwas yn aros yn tŷ byth: y Mab sydd yn aros byth. Os y Mab gan hynny a’ch rhyddha chwi, rhyddion fyddwch yn wir.
Rhanna
Darllen Ioan 8