Ioan 8:30-34
Ioan 8:30-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wrth iddo ddweud hyn, daeth llawer i gredu ynddo. Yna dywedodd Iesu wrth yr Iddewon oedd wedi credu ynddo, “Os arhoswch chwi yn fy ngair i, yr ydych mewn gwirionedd yn ddisgyblion i mi. Cewch wybod y gwirionedd, a bydd y gwirionedd yn eich rhyddhau.” Atebasant ef, “Plant Abraham ydym ni, ac ni buom erioed yn gaethweision i neb. Sut y gelli di ddweud, ‘Fe'ch gwneir yn rhyddion’?” Atebodd Iesu hwy, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych fod pob un sy'n cyflawni pechod yn gaethwas i bechod.
Ioan 8:30-34 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fel yr oedd efe yn llefaru’r pethau hyn, llawer a gredasant ynddo ef. Yna y dywedodd yr Iesu wrth yr Iddewon a gredasant ynddo, Os arhoswch chwi yn fy ngair i, disgyblion i mi ydych yn wir; A chwi a gewch wybod y gwirionedd, a’r gwirionedd a’ch rhyddha chwi. Hwythau a atebasant iddo, Had Abraham ydym ni, ac ni wasanaethasom ni neb erioed: pa fodd yr wyt ti yn dywedyd, Chwi a wneir yn rhyddion? Yr Iesu a atebodd iddynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pwy bynnag sydd yn gwneuthur pechod, y mae efe yn was i bechod.
Ioan 8:30-34 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Daeth llawer o bobl i gredu ynddo tra oedd yn siarad. Yna dwedodd Iesu wrth yr Iddewon hynny oedd wedi credu ynddo, “Os daliwch afael yn yr hyn dw i wedi’i ddangos i chi, dych chi’n ddilynwyr go iawn i mi. Byddwch yn dod i wybod beth sy’n wir, a bydd y gwirionedd hwnnw’n rhoi rhyddid i chi.” “Dŷn ni’n ddisgynyddion i Abraham,” medden nhw, “fuon ni erioed yn gaethweision! Felly beth wyt ti’n ei feddwl wrth ddweud, ‘Byddwch chi’n cael bod yn rhydd’?” Atebodd Iesu, “Credwch chi fi, mae pawb sy’n pechu wedi’i gaethiwo gan bechod.